Bydd y rhaglen BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod a Llencyndod, sy’n dechrau fis Medi yma ar safle Llaneurgain y coleg, yn arfogi myfyrwyr gyda’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth ymarferol sydd eu hangen i gefnogi pobl ifanc o blentyndod cynnar hyd at lencyndod.
Wedi’i achredu gan Brifysgol Wrecsam, mae’r cymhwyster tair blynedd yn adlewyrchu’r galw cynyddol am ymarferwyr medrus sy’n deall profiadau amrywiol plant a phobl ifanc, gan gynnwys iechyd meddwl, llesiant, anghenion dysgu ychwanegol a’r cyfnod pontio i fod yn oedolyn.
Mae’r rhaglen ar gael yn llawn amser, un diwrnod yr wythnos ar y safle, ac wedi’i dylunio i fod yn hygyrch i’r rhai sy’n gadael yr ysgol ac yn symud ymlaen o gymwysterau Lefel 3 a myfyrwyr hŷn sy’n gweithio mewn lleoliadau addysg yn barod, fel cynorthwywyr addysgu, staff cymorth ac ymarferwyr sy’n awyddus i ennill gradd a datblygu eu gyrfaoedd.
Dywedodd Hannah Roberts, Arweinydd Rhaglen BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod a Llencyndod a chyn-athrawes ysgol gynradd gyda mwy na 10 mlynedd o brofiad mewn addysg, fod y cymhwyster yn adlewyrchu’r realiti newidiol sy’n wynebu plant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw.
“Mae plentyndod a llecyndod yn faes mor eang sy’n esblygu o hyd, ac mae’r rhaglen wedi cael ei chreu i adlewyrchu hynny,” meddai hi.
“Mae yna dal ganolbwynt cadarn ar blentyndod cynnar, ond rydyn ni hefyd yn edrych yn fwy craff ar llecyndod, gan gynnwys iechyd meddwl, llesiant, anghenion dysgu ychwanegol a’r pwysau cynyddol mae pobl ifanc yn eu hwynebu heddiw.
“Rydyn ni’n gwybod bod galw cynyddol am weithwyr proffesiynol sy’n deall materion fel ADHD, awtistiaeth, pryder a llesiant emosiynol yn wirioneddol, ac a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant a phobl ifanc ar draws addysg a thu hwnt.”
Bydd dysgwyr presennol ar gwrs BA Astudiaethau Plentyndod y coleg yn trosglwyddo i’r rhaglen newydd yn eu hail flwyddyn, tra bydd dechreuwyr newydd yn elwa o gwricwlwm estynedig sy’n archwilio plentyndod hyd at lencyndod, sy’n canolbwyntio’n rhagor ar bobl ifanc hyd at 18 oed.
Mae modiwlau wedi’u cynllunio i adlewyrchu amrywiaeth a lled y sector, gan gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr archwilio pynciau sy’n berthnasol i yrfaoedd mewn addysgu, cymorth iaith a lleferydd, therapi chwarae, gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gwasanaethau cymdeithasol a dysgu gydol oes.
“Mae’r cymhwyster yma yn creu cyfleoedd go iawn,” ychwanegodd Hannah.
“Mae llawer o’n dysgwyr eisiau dod yn athrawon, tra bod eraill eisoes yn gweithio mewn ysgolion ac eisiau symud ymlaen i swyddi uwch, rheoli cwricwlwm neu fynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig. Mae hefyd yn cefnogi gyrfaoedd mewn meysydd fel cymorth teuluol, lleferydd ac iaith, gofal cymdeithasol a therapi chwarae – gan roi cwmpas eang a dewisiadau gwirioneddol i fyfyrwyr ar gyfer eu dyfodol.”
Mae’r rhaglen yn darparu sylfaen academaidd a phroffesiynol gref ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol, boed myfyrwyr yn symud ymlaen i addysgu, swyddi arwain mewn addysg, neu astudiaethau ôl-raddedig pellach.
Dywedodd Hannah mai un o gryfderau mwyaf y rhaglen yw’r amgylchedd dysgu cefnogol y mae myfyrwyr yn ei brofi yn Llaneurgain.
“Rydyn ni’n creu amgylchedd agos atoch chi, mae ein darlithwyr yn adnabod ein myfyrwyr, ac mae yna gymuned gynnes a chroesawgar yma,” ychwanegodd hi.
“Mae’r model un diwrnod yr wythnos ar y safle hefyd yn rhoi hyblygrwydd i fyfyrwyr o amgylch ymrwymiadau gwaith a theulu, wrth barhau i ddarparu dysgu rhyngweithiol, cyfleoedd ymchwil a chymorth academaidd cadarn.”