Cafodd y coleg ei ddewis gan Golegau Cymru i gyflwyno cyfres Hyfforddi’r Hyfforddwr Ymarfer Cynhwysol mewn AB genedlaethol, gan ddod â chynrychiolwyr o 13 coleg o bob cwr o’r wlad ynghyd.
Cafodd y sesiynau eu cynnal yn Wrecsam a Chaerdydd, ac arddangosodd ddull blaenllaw Cambria o ran hyfforddiant cynhwysiant, gan rannu strategaethau ymarferol, adnoddau ac arfer gorau gyda gweithwyr proffesiynol yn amrywio o arbenigwyr ADY ac Arweinwyr Dysgu Proffesiynol i Brifathro Cynorthwyol.
Cafodd y fenter ei harwain gan Miranda Hazell, Tiwtor Arbenigol ADY ac arweinydd ar arfer cynhwysiant yng Ngholeg Cambria, ochr yn ochr â’i chydweithiwr Dawn Whittaker.
Dywedodd Miranda fod y prosiect yn adlewyrchu ymrwymiad hirdymor y coleg i greu diwylliant cefnogol, hygyrch a chynhwysol i ddysgwyr a staff.
“Rydyn ni’n hynod o falch bod Colegau Cymru wedi cysylltu â ni i helpu i arwain y gwaith yma ledled Cymru,” meddai.
“Dydy cynhwysiant ddim yn rhywbeth rydyn ni’n ei wneud oherwydd bod deddfwriaeth yn dweud wrthym ni i wneud hynny, mae wedi’i wreiddio yn niwylliant a hunaniaeth Coleg Cambria yn barod. Rydyn ni wir yn gofalu am ein dysgwyr, ein staff a’n cymunedau.
“Gall y byd fod yn lle anodd ar adegau ac mae meithrin diwylliant o ddealltwriaeth, parch a hygyrchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn hanfodol.
“Roedd yr hyfforddiant yma’n ymwneud â llawer mwy na chymwysterau neu bolisïau. Mae’n ymwneud â rhoi sgiliau bywyd, annibyniaeth, hyder a’r gallu i gefnogi ei gilydd i bobl – sgiliau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgwyr bob dydd.”
Mae tîm cynhwysiant Cambria wedi ehangu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i’r coleg barhau i ymateb i ddiwygiadau sy’n esblygu ac ymwybyddiaeth gynyddol o amgylch iechyd meddwl, llesiant ac ymarfer sy’n ystyriol o drawma.
Fel rhan o’r gwaith hwnnw, datblygodd y coleg ei fodel hyfforddi cynhwysiant haenog ei hun a’i fframwaith “arfer cynhwysiant” i sicrhau bod staff yn parhau i fod yn gyfredol ac yn meddu ar y sgiliau i gefnogi dysgwyr yn effeithiol ar draws ei safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi, a Llaneurgain.
Arweiniodd llwyddiant y dull hwnnw at y bartneriaeth â Cholegau Cymru, gan ganiatáu i sefydliadau AB eraill gael mynediad at yr adnoddau ac efelychu elfennau o’r rhaglen yn eu colegau eu hunain.
Ychwanegodd Miranda: “Roedd yn wych dod â phobl at ei gilydd o bob cwr o Gymru i gydweithio, rhannu syniadau ac adeiladu perthnasoedd ystyrlon.
“Roedd yr ymateb yn gadarnhaol dros ben, ac rydyn ni eisoes yn bwriadu parhau â’r cydweithio’n flynyddol er mwyn i ni allu parhau i adeiladu ar yr ymrwymiad cyffredin hwnnw i amgylcheddau dysgu cynhwysol.”
Canmolodd adborth gan y cynrychiolwyr ddull cydweithredol ac effaith ymarferol y rhaglen. Fe wnaeth un o’r cyfranogwyr ddisgrifio’r rhaglen fel “rhywfaint o’r hyfforddiant gorau i mi fod ynddo erioed”, tra dywedodd un arall fod y sesiynau wedi “adfywio ein meddwl o ran strategaeth gynhwysiant”.
Ychwanegodd gyfranogwr arall: “Roedd pob sesiwn yn ddiddorol ac yn caniatáu i ni gael rhyngweithiadau a thrafodaethau ystyrlon gyda chydweithwyr ledled Cymru. Byddai’n wych pe gallem ni barhau â’r cydweithrediad hwn.”
Mae’r coleg hefyd wedi datblygu cymhwyster newydd ac unigryw Lefel 3 mewn cynhwysiant – gydag unedau’n ymdrin ag ymwybyddiaeth o ADY, iechyd meddwl a llesiant, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, ac ymarfer sy’n ystyriol o drawma.
Am ragor o wybodaeth am hyfforddiant cynhwysiant, anfonwch e-bost at inclusion.training@cambria.ac.uk.
Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.