Background Splash

Cyhoeddi - 13/08/2026

A-Level Celebration 2026

Heddiw (Dydd Iau) gwnaeth y Prif Weithredwr Yana Williams a’r Pennaeth Sue Price longyfarch dysgwyr ar safleoedd y coleg yng Nglannau Dyfrdwy, Wrecsam, Llaneurgain a Llysfasi, wrth iddyn nhw gasglu graddau a fydd yn eu cario i’r brifysgol, prentisiaethau, a swyddi ledled y rhanbarth a thu hwnt.

“Mae hi wedi bod yn flwyddyn eithriadol arall yng Ngholeg Cambria,” meddai Ms Williams.

“Mae ein dysgwyr wedi gweithio’n galed, wedi cefnogi ei gilydd ac wedi cymryd pob cyfle i lwyddo. Mae’r canlyniadau yma yn adlewyrchu eu hymdrech a’u hangerdd am ddysgu.”

Ychwanegodd hi: “Boed hynny’n raddau uchel, lle mewn prifysgol, prentisiaeth neu symud yn syth i waith, mae gan bob myfyriwr yma rywbeth i fod yn falch ohono. Maen nhw wedi codi’r safon eto, ac rydyn ni’n falch o ddathlu gyda nhw.”

I lawer o fyfyrwyr, mae heddiw yn nodi uchafbwynt blynyddoedd o ymroddiad a hunan-gred, rhinweddau nad ydyn nhw’n ymddangos ar slip canlyniadau ond sy’n gwneud yr holl wahaniaeth ar y diwrnod.

Roedd staff ar draws safleoedd y coleg wrth law y bore yma i rannu’r foment, gyda digon o wenu a nifer o eiliadau emosiynol ymhlith y dathliadau.

Daw’r canlyniadau ar adeg o fuddsoddiad parhaus ar draws safleoedd Cambria. Yn dilyn cwblhau cyfadeilad iechyd, llesiant ac addysg Nant gwerth £14 miliwn ar safle Iâl yn Wrecsam, mae’r coleg wedi agor Hwb Arloesi gwerth £10 miliwn yn Llysfasi, canolfan arloesi carbon niwtral ar gyfer dysgwyr cyrsiau’r tir ac amaethyddiaeth, gyda bloc llety myfyrwyr 50 ystafell wely yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd.

Yn Iâl, mae dysgwyr hefyd wedi croesawu canolfan Undeb Myfyrwyr newydd – gyda Cambria wedi cael ei henwi’n Undeb Coleg Addysg Bellach (AB) y Flwyddyn yng Ngwobrau mawreddog NUS Cymru – gan roi lle pwrpasol iddyn nhw ar gyfer clybiau, cymdeithasau, arweiniad ariannol a chymorth llesiant.

Dywedodd y Pennaeth Sue Price fod canlyniadau eleni yn adlewyrchu ymdrech myfyrwyr, staff, gofalwyr a theuluoedd, gan gadarnhau lle Cambria yng “nghalon y gymuned”.

“Mae ein myfyrwyr yn haeddu clod enfawr am yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni,” meddai.

“Mae eu gwaith caled a’u penderfyniad i lwyddo wedi bod yn ysbrydoledig, ac mae’r canlyniadau yma yn dangos yn union beth mae’r ymdrech honno wedi’i gynhyrchu.”

Ychwanegodd Mrs Price: “O’r diwrnod cyntaf, mae ein staff wedi arwain a herio myfyrwyr i gyrraedd eu potensial. Hoffwn i ddiolch i deuluoedd hefyd, am eu cefnogaeth a’u cred yn nyfodol eu plant. Dydy hyn ddim yn medru digwydd heb y gefnogaeth honno gartref.”

Mae Cambria bellach yn paratoi i groesawu ei garfan nesaf o ddysgwyr ym mis Medi, gyda chyrsiau newydd a buddsoddiad parhaus ar draws ei holl safleoedd.

“Rydyn ni’n gyffrous i adeiladu ar y momentwm yma,” meddai Ms Williams.

“Gyda chyfleusterau cadarn, cwricwlwm eang ac amgylchedd cefnogol, mae Coleg Cambria yn barod ar gyfer y genhedlaeth nesaf.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Mae Amser Dal I Fod I Wneud Cais Ar Gyfer Mis Medi!