Astudiodd Lili Gonzalez-Lewis, 18 oed, o Wrecsam, Safon Uwch mewn Bioleg, Cemeg, Ffiseg a Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn Chweched Iâl ar ôl gadael Ysgol Uwchradd Rhosnesni.
Cafodd hi gynigion i astudio Meddygaeth yng Nghaerdydd, Lerpwl a Bangor cyn dewis Caerdydd yn dilyn cynhadledd WAMMS (Cynllun Mentora Ehangu Mynediad i Feddygaeth) a drefnwyd gan Ysgol Feddygol Caerdydd yn Ysbyty Prifysgol Cymru.
Ar ôl cael profiad gwaith clinigol yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt, datblygodd Lili ddiddordeb arbennig mewn llawdriniaeth ac anestheteg. Mae hi bellach yn gobeithio dod yn anesthetydd ymgynghorol.
Fodd bynnag, dechreuodd ei phenderfyniad i ddilyn meddygaeth yn llawer cynharach.
“Cafodd fy mhenderfyniad i astudio Meddygaeth ei sbarduno gan y gofal tosturiol, sy’n canolbwyntio ar y claf, a welais yn cael ei ddarparu gan feddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i aelodau fy nheulu drwy gydol fy mywyd,” meddai Lili.
“Ar ôl gweld yr effaith ddofn y gall hyn ei chael ar gleifion a’u teuluoedd, penderfynais fy mod i am efelychu’r gwerthoedd hynny yn fy ngyrfa yn y dyfodol. Gwnaeth fy ymchwil fy hun a’r cyfleoedd a gefais drwy’r coleg a Chymdeithasau Meddygol SEREN fy nghaniatáu i mi ddysgu rhagor am yr yrfa, gan ddyfnhau fy niddordeb mewn dilyn Meddygaeth ymhellach.”
Dywedodd Lili fod y cyngor a’r anogaeth a gafodd gan staff yn Chweched Iâl wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ystod y broses ymgeisio heriol i’r ysgol feddygol.
“Mae Nora Richardson, Dr Olwen Kiff a’m holl diwtoriaid eraill yn Chweched Iâl wedi bod yn hynod o ddefnyddiol a chefnogol drwy gydol fy nhaith.
“Gwnes i ymuno efo Cymdeithas Feddygol y coleg ar ddechrau Blwyddyn 12. Roedd y cyfleoedd a gefais fel rhan o hyn o gymorth mawr gyda fy nghais; gan roi gwybodaeth i mi am y broses ymgeisio, cyngor ar baratoi ar gyfer UCAT, a ffug gyfweliadau, a oedd yn arbennig o ddefnyddiol i mi wrth fy helpu i gael yr ymarfer oedd ei angen arna’ i ar gyfer fy nghyfweliadau ysgol feddygol.”
Mae hi hefyd yn dweud bod Rhaglen Feddygol SEREN Wrecsam wedi chwarae rhan fawr yn ei helpu i sicrhau ei chynigion.
“Roedd hwnnw’n gyfle amhrisiadwy, a helpodd fi i gyflawni fy nghynigion Meddygaeth a rhoi cyfleoedd i mi fel cyfweliadau ffug, sesiynau sgiliau clinigol a’r gallu i ddysgu rhagor am realiti bywyd fel myfyriwr meddygol a meddyg. Gwnaeth yr adnoddau yma roi’r hyder oedd ei angen arna’ i i wneud cais i ysgol feddygol ac ennill fy nghynigion.”
Dywedodd Gareth Jones, Pennaeth Cynorthwyol a Phennaeth Chweched Iâl: “Mae Lili wedi gweithio’n eithriadol o galed dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac wedi ymrwymo’n llwyr i gyflawni ei nod. Gwnaeth y gorau o’r gefnogaeth oedd ar gael, enillodd brofiad gwerthfawr ac ni chollodd olwg erioed ar yr hyn yr oedd am ei gyflawni.
“Mae meddygaeth yn un o’r cyrsiau gradd mwyaf cystadleuol yn y wlad, gan wneud hwn yn gyflawniad gwych. Rydyn ni i gyd yn hynod falch o Lili ac yn methu aros i weld beth mae hi’n ei wneud nesa’.”