Background Splash

Cyhoeddi - 20/08/2026

A group of learners sat on sofas having a conversation whilst smiling

Mae darlithwyr, ymgynghorwyr a staff derbyniadau yn barod i gynnig arweiniad, sicrwydd a chyngor ymarferol i unrhyw un sy’n ansicr am eu graddau neu sy’n ystyried eu camau nesaf.

P’un ai bod dysgwyr yn archwilio Safon Uwch, prentisiaethau, neu hyfforddiant galwedigaethol, mae Cambria yno i helpu, gyda safleoedd yng Nglannau Dyfrdwy, Wrecsam, Llaneurgain a Llysfasi.

Dywedodd Pennaeth Sue Price bod y coleg wedi ymrwymo i sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo’n hyderus ac wedi’u cefnogi wrth iddyn nhw gynllunio eu dyfodol.

“Rydyn ni’n deall bod hyn yn gallu bod yn amser pwysig ac emosiynol i lawer o ddysgwyr a’u teuluoedd,” meddai hi.

“Yng Ngholeg Cambria, ein blaenoriaeth ydy darparu cyngor clir ac archwilio’r holl opsiynau sydd ar gael. P’un ai eich bod chi’n anelu am Safon Uwch, yn edrych ar brentisiaethau neu mae gennych chi ddiddordeb mewn dysgu yn y gwaith, mi wnawn ni eich helpu chi i ddarganfod y llwybr cywir i chi.”

Ychwanegodd Mrs Price: “Rydyn ni hefyd yma i’r disgyblion sydd efallai heb gael y graddau roedden nhw wedi gobeithio eu cael. Yn Cambria mae yna gymaint o opsiynau a chyrsiau gwahanol, gwaeth beth fo’ch canlyniadau, ac mi fyddwn ni’n gallu eich helpu chi.

“Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni os ydych chi’n ansicr am unrhyw beth. Mae gennym ni dîm arbennig a gofalgar sy’n barod i’ch arwain chi tuag at gam nesa’ cadarnhaol.”

Yn ogystal â chefnogaeth wyneb yn wyneb, mae’r coleg yn cynnig gwasanaeth sgwrsio byw a diweddariadau rheolaidd drwy ei wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Am ragor o wybodaeth neu i siarad gydag aelod o’r tîm derbyniadau, ewch i https://cambria.ac.uk/ymgyrchoedd/cadarnhau-eich-lle-2/?lang=cy, ffoniwch 0300 30 30 007, neu anfonwch e-bost at ymholiadau@cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Mae Amser Dal I Fod I Wneud Cais Ar Gyfer Mis Medi!