Telerau ac Amodau’r Gystadleuaeth i Fyfyrwyr

1. Mae’r gystadleuaeth ar agor i holl fyfyrwyr presennol Coleg Cambria.

2. I gymryd rhan mae’n rhaid i fyfyrwyr:

* Rhannu neges swyddogol y gystadleuaeth o gyfrif cyfryngau cymdeithasol Coleg Cambria.
* Gwneud sylwadau ar y neges drwy gwblhau’r frawddeg: **“Y peth gora’ am y coleg hyd yma…”**

3. **Bydd y gystadleuaeth yn cau am 11:59pm ar 11 Medi 2026.** Ni fydd unrhyw un sy’n cystadlu ar ôl yr amser hwn yn cael ei ystyried.

4. Bydd un enillydd terfynol yn derbyn **Taleb Amazon Gwerth £50 a nwyddau Coleg Cambria**.

5. Bydd enillwyr ychwanegol yn cael eu dewis ac yn ennill **nwyddau Coleg Cambria’n unig**.

6. Bydd enillwyr yn cael eu dewis o’r cyfranwyr cymwys a byddwn yn cysylltu â nhw ar y platfform cyfryngau cymdeithasol wnaethon nhw ei ddefnyddio i gymryd rhan.

7. **Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar 18 Medi 2026.**

8. Os na fydd yr enillydd yn ymateb o fewn 7 diwrnod ar ôl cysylltu â nhw bydd Coleg Cambria yn cadw’r hawl i ddewis enillydd arall.

9. Mae gwobrau yn anhrosglwyddadwy ac ni chynigir gwobr ariannol yn lle.

10. Mae Coleg Cambria yn cadw’r hawl i ddiwygio, canslo neu ohirio’r gystadleuaeth pan fo angen.

11. Dydi’r gystadleuaeth hon heb gael ei noddi, ardystio neu’n gysylltiedig â Facebook, Instagram, neu TikTok.

12. Drwy gystadlu mae myfyrwyr yn cytuno i Goleg Cambria ddefnyddio ymatebion i’r gystadleuaeth ar gyfer dibenion hyrwyddo ar draws ei sianeli marchnata.