Bydd Coleg Cambria, Grŵp Llandrillo Menai, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam – sy’n bartneriaid yng Nghynghrair Trydyddol Gogledd Cymru (CTGC) – yn dod at ei gilydd ar gyfer Llwybrau Llwyddiant yn Venue Cymru yn Llandudno ar ddydd Sadwrn, 17 Hydref o 10am-3pm.
Mae’r digwyddiad dwyieithog am ddim yn cynnwys mwy na 1,000 o gyfleoedd a 25 a rhagor o gyflogwyr gan gynnwys llwybrau at goleg a phrifysgol, prentisiaeth, hyfforddiant a chyflogaeth.
Daw yn sgil ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru sy’n dangos fod gan Ogledd Cymru’r gyfradd amcan uchaf o NEET allan o ranbarthau economaidd Cymru gyda 15.1%* o bobl 16 i 24 oed ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant dros gyfnod o dair blynedd gyda’r cyfnod yn dod i ben yn Rhagfyr 2025.
Mae partneriaid CTGC yn dweud fod cydweithio mwy agos rhwng addysg a diwydiant yn gallu chwarae rôl bwysig iawn gyda helpu pobl ifanc i ddeall y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw ac i ddeall pa lwybr sy’n gweithio orau iddyn nhw.
Meddai Yana Williams, Prif Weithredwr Coleg Cambria: “Mae Llwybrau Llwyddiant yn adlewyrchu cryfder Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru a’r ymrwymiad a ranwn mewn gwneud yn siŵr fod gan bobl ifanc lwybrau amlwg a hygyrch i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
“Mae cydweithio rhwng darparwyr addysg a chyflogwyr ar hyd y rhanbarth yn fwy pwysig nag erioed yn enwedig wrth i ni edrych ar fynd i’r afael ag anghenion sgiliau er mwyn gwneud yn siŵr fod neb yn cael ei adael ar ôl.
“Bydd y digwyddiad hwn yn dod â’r cyfleoedd hynny ynghyd mewn un lle gan roi’r wybodaeth, cyngor a chysylltiadau sydd ei angen ar y bobl ifanc a’u teuluoedd i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol.”
Amlygodd Aled Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai y pwysigrwydd o gynnig llwybrau amlwg a hygyrch i ddyfodol pobl ifanc o bob cwr o Ogledd Cymru, “Yn Grŵp Llandrillo Menai rydyn ni’n gweld doniau ac uchelgais pobl ifanc ledled Gogledd Cymru. Gyda safleoedd a darpariaeth yn gwasanaethu cymunedau ar hyd y rhanbarth rydyn ni eisiau i fyfyrwyr gael mynediad at gyfleoedd o ansawdd a llwybrau amlwg i’w dyfodol.
“Mae digwyddiad Llwybrau Llwyddiant yn Venue Cymru yn gyfle gwych i ddod ag addysg, hyfforddiant a chyflogwyr ynghyd o dan yr un to gan roi’r cyfle i bobl ifanc a’u teuluoedd i edrych ar y llu o gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw ar draws Gogledd Cymru ac iddyn nhw allu gwneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol.
Meddai’r Athro Edmund Burke, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: “Mae pobl ifanc yn wynebu ystod gymhleth o ddewisiadau addysg a chyflogaeth. Trwy gydweithio fel y prif sefydliadau sy’n gwasanaethau ein rhanbarth trwy Gynghrair Trydyddol Gogledd Cymru gallwn fynegi’r dewisiadau hynny mewn ffordd fwy eglur.
Trwy brosiectau fel Llwybrau Llwyddiant mae’r Gynghrair yn rhoi mynediad uniongyrchol i bobl ifanc ar draws y rhanbarth at arweiniad a chyfleoedd ymarferol ac yn eu helpu nhw i wneud penderfyniadau mwy hyderus a gwybodus am eu dyfodol.
Mae Prifysgol Bangor yn falch o gefnogi’r cydweithio hwn ac i helpu pob myfyriwr i ddod o hyd i’r llwybr sy’n cyd-fynd â’u doniau, dyheadau a’u potensial.”
Ychwanegodd yr Athro Joe Yates, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Rydyn ni mor falch o fod yn aelod o Gynghrair Trydyddol Gogledd Cymru. Trwy gydweithio i greu llwybrau mwy amlwg i addysg a chyflogaeth gallwn helpu rhagor o bobl i ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus yn nes at adref, cryfhau ein cymunedau a gwneud yn siŵr fod gan fusnesau lleol fynediad at y doniau angenrheidiol i’w meithrin a fel eu bod yn ffynnu.
“Fel Prifysgol sy’n gwasanaethu cymunedau ledled Gogledd Cymru gwyddwn wrth i ni fuddsoddi mewn pobl leol bod y rhanbarth cyfan yn elwa. Mae CTGC yn helpu rhagor o ddysgwyr i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i allu aros yn yr ardal os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny a chyfrannu at gymunedau sy’n ffynnu, busnesau mwy cadarn a Gogledd Cymru fwy llewyrchus. Rydyn ni’n gobeithio y bydd llawer o bobl yn ymuno â ni yn Llandudno ar gyfer y digwyddiad Llwybrau Llwyddiant.”
Mae Llwybrau Llwyddiant wedi’i anelu ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 10-13, myfyrwyr sy’n ystyried eu cam nesaf, pobl ifanc sy’n ansicr ynglŷn â’r hyn a ddaw nesaf a rhieni a gofalwyr.
Gall ymwelwyr gwrdd â chyflogwyr a darparwyr addysg, cymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol, edrych ar yrfaoedd a chymwysterau gwahanol a chael cyngor ar eu camau nesaf.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i Llwybrau Llwyddiant | Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru.