Astudiodd Louise Barnard, 25, o Gwaenysgor, ger Prestatyn, Safon Uwch mewn Mathemateg, Cemeg, Ffiseg a Bagloriaeth Cymru yn Ysgol Chweched Glannau Dyfrdwy Cambria cyn symud ymlaen i astudio Meddygaeth a Llawfeddygaeth (MBBS) ym Mhrifysgol Newcastle.
Roedd ei gradd yn cynnwys lleoliad gwaith meddygol yn Fietnam, lle cafodd brofiad ymarferol o fewn system gofal iechyd anghyfarwydd a defnyddiodd y lleoliad fel man dechrau i deithio’n ehangach ar draws De-ddwyrain Asia – profiad y mae’n ei gyfrif ymhlith uchafbwyntiau ei hamser yn y brifysgol.
Ar ôl cwblhau ei gradd feddygol yn llwyddiannus, mae Louise bellach yn ymgymryd â’i Hyfforddiant Sylfaen fel meddyg preswyl yn Glasgow. Mae hi’n bwriadu treulio amser yn gweithio dramor cyn gwneud cais am Hyfforddiant Meddygaeth Fewnol, gydag oncoleg yn parhau i fod yn nod hirdymor iddi.
Ochr yn ochr â’i swydd glinigol, mae hi hefyd yn astudio ar gyfer Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Feddygol gyda Phrifysgol Warwick, gan ei pharatoi ar gyfer y cyfrifoldebau addysgu sy’n rhan bwysig o yrfa meddyg.
Gan adfyfyrio ar ei thaith, dywedodd Louise: “Er bod gan yr ysgol feddygol ei heriau, roedd yn brofiad hynod werth chweil a’m paratôdd yn dda ar gyfer fy ngyrfa hyd yn hyn.
“Un uchafbwynt penodol oedd y cyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith meddygol yn Fietnam a oedd yn caniatáu i mi brofi system a diwylliant gofal iechyd gwahanol iawn, yn ogystal â theithio o amgylch De-ddwyrain Asia.”
Mae Louise yn rhoi clod i’w hamser yng Ngholeg Cambria am roi’r sylfaen a’r hunangred oedd eu hangen arni cyn symud i’r brifysgol.
“Wrth edrych yn ôl, dwi’n teimlo bod Coleg Cambria wedi helpu i ddatblygu fy annibyniaeth a’m hyder fel dysgwr sy’n oedolyn, a wnaeth y newid i’r brifysgol yn llawer llyfnach.
“Mi faswn i’n argymell astudio yno yn fawr iawn a dwi’n ddiolchgar iawn i’r athrawon a wnaeth fy annog a’m cefnogi drwy gydol fy Safon Uwch ac yn ystod fy ngheisiadau prifysgol.”
Ychwanegodd: “Hoffwn i hefyd ddymuno pen-blwydd hapus iawn yn 10 oed i Chweched Glannau Dyfrdwy – mae’n wych gweld pa mor bell y mae wedi dod.”
Mae ei chyngor i fyfyrwyr sy’n pwyso a mesur eu cam nesaf ar ôl ysgol yn syml.
“I unrhyw un sy’n ansicr ynglŷn â’u llwybr gyrfa; anelwch yn uchel, byddwch yn rhagweithiol wrth chwilio am gyfleoedd i ennill profiad, gofynnwch ddigon o gwestiynau, a dewch o hyd i fentor a all gynnig arweiniad a chefnogaeth ar hyd y ffordd.”
Dywedodd Mim Riddell, Pennaeth Chweched Glannau Dyfrdwy a Phennaeth Cynorthwyol ar gyfer Astudiaethau Academaidd: “Mae cyflawniadau Louise yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy ymroddiad, gwydnwch ac angerdd gwirioneddol dros ddysgu.
“Drwy gydol ei hamser yn Ysgol Chweched Glannau Dyfrdwy, dangosodd yr ymrwymiad a’r uchelgais sydd eu hangen i ddilyn un o’r cyrsiau prifysgol fwyaf heriol, ac mae wedi bod yn wych gweld hi’n symud ymlaen i yrfa lle mae hi eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”