Mae’r band gwerin-bop Igloo Hearts – y pâr priod Katie a James MacGregor – yn astudio’r Gymraeg ar safle Iâl Coleg Cambria, lle mae Canolfan Ragoriaeth y Gymraeg Camu, sydd newydd gael ei thrawsnewid, yn helpu pobl o bob gallu i feithrin hyder yn yr iaith.
I Katie, sy’n gyfrifydd wrth ei gwaith, dechreuodd y daith ochr yn ochr â’i mam, pan ymunodd y ddwy â dosbarthiadau nos yn dilyn cyfnod o 858 diwrnod yn olynol ar Duolingo.
“Roedd yn rhywbeth roedd Mam a fi yn medru gwneud efo’n gilydd; roedden ni’n gwneud ein gwaith cartref, yn chwerthin a gwir yn ei fwynhau,” meddai hi.
Yn fuan wedyn, cafodd Igloo Hearts ei wahodd i glyweliad ar gyfer sioe dalent Y Llais S4C, gyda Katie wedi ymddangos yn flaenorol ar raglen Channel 4, The Piano.
Daeth ei chlyweliad cyntaf wythnosau ar ôl iddi ddechrau gwersi. Yn drasig, cafodd ei mam ddiagnosis wedyn o ganser y pancreas cam pedwar a bu farw ym mis Mawrth.
“Cafodd ein bywydau eu troi wyneb i waered, ond mi wnaethon ni ddal i fynd drwy ei thriniaeth a rhoddodd y gwersi Cymraeg rhywbeth i ni ganolbwyntio arno,” meddai Katie.
“Roedd hi wrth ei bodd gydag anthemau rygbi Cymraeg ac roedd hi mor gefnogol. Pan wnaethon ni gyrraedd cam y cadeiriau o Y Llais, mi wnaeth Ywain Gwynedd (Yws Gwynedd) droi i ni, a chafodd y cam nesa’ ei ddarlledu ar Sul y Mamau.
“Erbyn hynny, yn anffodus roedden ni wedi colli Mam, ond fe wnaeth hi fy ysbrydoli i barhau. Rŵan, rydyn ni’n siarad Cymraeg gartref, yn gwylio teledu Cymraeg, yn gwrando ar gerddoriaeth ac yn ymgolli yn yr iaith a’r diwylliant.”
Mae James, sy’n gweithio yn y diwydiant awyrofod, wedi ymuno â Katie yn Cambria ers hynny, ac mae’n dweud bod perfformio ac ysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi dod yn fwyfwy pwysig iddyn nhw.
“Mae gen i waith dal i fyny, ond mae Cambria yn chwarae rhan bwysig yn ein taith,” meddai.
“Mae’n gallu bod yn frawychus pan rydych chi ar gam cynnar, ond mae pawb wedi bod mor gefnogol. Rydyn ni eisiau hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg a pharhau i symud ymlaen a rhoi cynnig ar bethau.”
Mae’r uchelgais hwnnw wedi cymryd cam arall ymlaen ar ôl i Igloo Hearts sicrhau cefnogaeth ar gyfer prosiect creadigol yn y Gymraeg sy’n rhedeg tan ddiwedd 2026.
Gan gydweithio â NEW Sinfonia, The Gentle Good a Menter Iaith, byddan nhw’n cynnal gweithdai ar gyfer siaradwyr Cymraeg a phobl ar bob cam o’u taith, gan ddefnyddio’r celfyddydau creadigol i gael gwared ar ofnau ynghylch peidio â bod yn “ddigon rhugl”.
Bydd y prosiect yn cynnwys dosbarth meistr ar gyfansoddi caneuon yn y Gymraeg gan The Gentle Good, ac yn gorffen gyda chyngerdd bach yn arddangos gwaith a gafodd ei greu drwy’r rhaglen.
Mae Igloo Hearts, y cafodd eu halbwm cyntaf Eyes Closed Against the Sun ei ryddhau fis Tachwedd diwethaf, hefyd yn gweithio ar albwm dilynol ar gyfer mis Ebrill nesaf ac yn gobeithio cynnwys cân wreiddiol yn y Gymraeg.
Y tiwtor David Fagan sy’n eu cefnogi nhw yn Cambria; mae ef ei hun yn gyn-ddysgwr Cymraeg a ddechreuodd ddysgu’r iaith tra oedd yn gweithio fel cyfreithiwr, er mwyn gallu cyfathrebu â chleientiaid oedd yn siarad Cymraeg.
Yn y pen draw, arweiniodd ei gynnydd at yr yrfa o ddysgu, ac yr haf hwn enillodd y wobr fawreddog ‘Dechrau Arni’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Mae gan bawb eu rheswm eu hunain am ddysgu Cymraeg ac mae pawb yn datblygu’n wahanol,” meddai David.
“Mae Katie a James yn gwneud yn dda iawn. Does dim pwysau; rydych chi’n meithrin y pethau sylfaenol, yn magu hyder ac yn dod o hyd i’ch ffordd eich hun. Mae ysbryd gwych o gyd-gyfeillgarwch ac ymdeimlad gwirioneddol o gymuned. Gadewch i’r iaith ddod atoch chi.”
Mae’r gymuned honno’n cael ei chryfhau gan ganolfan Camu ar safle Iâl Coleg Cambria, sydd wedi’i hadnewyddu ac yn cynnwys ystafelloedd dosbarth modern, mannau cymdeithasol newydd, caffi a thechnoleg o’r radd flaenaf sydd wedi’i chynllunio i greu amgylchedd trochi ar gyfer addysg yn y Gymraeg.
Ychwanegodd Katie: “Mi fuasem ni’n hoffi i’r prosiect yma annog pobl i ddod draw, rhoi cynnig arni a pheidio â phoeni am fod yn berffaith. Yn y pen draw, rydyn ni eisiau recordio corff o waith yn Gymraeg. Mae hyn yn teimlo fel dechrau rhywbeth cyffrous iawn.”