Background Splash

Cyhoeddi - 06/10/2026

Olivia Ashley

Mae Olivia Ashley, 20 oed, o Brestatyn, yn astudio ar gyfer HNC mewn Technoleg Fecanyddol yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy wrth gwblhau prentisiaeth grefft pedair blynedd gyda Teledyne Qioptiq, cwmni sydd wedi’i leoli yn Llanelwy.

Mae’r cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Prestatyn yn un o bump o ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr y Prentis sydd wedi gwella fwyaf (rhanbarth Glannau Merswy a Gogledd Cymru) gan y Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) ar gyfer 2026; bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn y Cinio Blynyddol yng Nghaer ar 16 Hydref.

Dechreuodd Olivia ar y cwrs HNC ar ôl cwblhau amrywiaeth o gymwysterau proffesiynol ac ymarferol. Roedd symud ymlaen i’r cwrs lefel uwch yn her sylweddol, yn enwedig o ran y modiwlau gwyddonol, ac roedd angen cryn dipyn o baratoi ac ymrwymiad i wneud y newid yn llwyddiannus.

Fe wnaeth asesiadau cynnar amlygu maint yr her, ond fe wnaeth cymorth ychwanegol ac ymroddiad Olivia arwain at welliant sylweddol, gan sicrhau sgôr o 73% yn ei harholiad Egwyddorion Mecanyddol ym mis Ionawr.

Mae ei chynnydd yn arbennig o arwyddocaol o ystyried cyfnod anodd pan oedd hi i ffwrdd o’r coleg. Collodd Olivia ei thaid ar Ddydd Calan ac, ar yr un pryd bron, cafodd ei brawd iau Declan, sy’n 17 oed, ddiagnosis o ganser a chafodd driniaeth cemotherapi. Mae bellach yn gwella’n dda, tra bod ei nain hefyd yn cael triniaeth ar gyfer tiwmor ar yr ymennydd.

Yn hytrach na gadael i’r heriau hynny amharu ar ei hastudiaethau, dywedodd Olivia bod y nerth wnaeth ei theulu ei ddangos wedi rhoi’r ysbrydoliaeth iddi barhau.

“Roedd yn her ar y dechrau gan nad oedd gen i’r sylfaen yna a doeddwn i ddim wedi paratoi ar gyfer y cam nesaf, ond dw i wedi cael cymaint o gefnogaeth,” meddai.

“Mae pawb wedi bod yno ym mhob cam o’r ffordd, a dw i wedi mwynhau pob munud ohono. Mae wir wedi rhoi hwb i fy hyder i.

“Mae fy nheulu wedi fy ysbrydoli i barhau a chanolbwyntio ar fy ngwaith coleg. Mae Declan wedi bod mor ddewr ac yn gwella’n dda – mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi.”

“Roeddwn i wedi synnu’n fawr o gael fy rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y wobr. Mae cael fy nghydnabod yn unig yn gamp fawr a dw i mor falch.”

Gwirfoddolodd Olivia hefyd i fod yn Gynrychiolydd Myfyrwyr o fewn wythnosau i ddechrau’r rhaglen.

Fe wnaeth Salah Berdouk, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Peirianneg Uwch yng Ngholeg Cambria, ganmol ei chynnydd, gan nodi ei bod wedi datblygu o fod yn cael trafferth gyda’r pethau sylfaenol, i arwain ei chyd-fyfyrwyr.

Mae Olivia bellach yn gweithio ym maes gorchuddio mewn siambr wactod yn Teledyne Qioptiq, ac ar y trywydd iawn i ddod yn Weithredwr Gradd 6 pan fydd yn cwblhau ei phrentisiaeth. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn technolegau optegol a ffotonig uwch ar gyfer marchnadoedd sy’n cynnwys amddiffyn, awyrofod a gofod.

Gyda chefnogaeth barhaus gan ei chariad Jake a’i theulu, mae Olivia hefyd yn falch o gynrychioli merched ifanc ym maes STEM ac yn gobeithio y bydd mwy yn ystyried prentisiaethau peirianneg.

“Faswn i’n bendant yn annog mwy o ferched ifanc i wneud cais,” meddai.

“Mae’n yrfa wych ac mae angen i ni weld mwy o ferched yn mynd amdani. Mae prentisiaeth yn llwybr gwych oherwydd gallwch ennill a dysgu ar yr un pryd.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Mae eich dyfodol yn dechrau yma!

Ceisiadau ar agor mewn...

Days
Hours
Minutes
Seconds