Byddwn yn cynnal Cynhadledd Cigyddiaeth Cymru, a’r cyntaf o’i fath, yn adeilad Hafod, Iâl, Wrecsam, ar ddydd Mawrth, 27 Hydref o 10am-3pm.
Wedi’i noddi gan Castell Howell, bydd y digwyddiad am ddim yn ddelfrydol i unrhyw un sy’n gweithio mewn cigyddiaeth, lletygarwch, gweithgynhyrchu a bwyd a diod gyda’r trefnwyr yn gobeithio denu hyd at 100 o ymwelwyr.
Mae’r holl stondinau arddangos wedi’u llenwi’n barod a bydd y rhaglen yn cynnwys siaradwyr gwâdd, stondinau masnach, cyfleoedd i rwydweithio a phanel holi ac ateb a’r siawns i ddarganfod cymorth gyda chyllid a hyfforddiant.
Daw yn sgil Academi Cigyddiaeth Cambria yn dathlu ei phen-blwydd cyntaf ar ôl lansio yn nhymor yr hydref y llynedd yn Iâl i ddatblygu unigolion dawnus y dyfodol ac i hyrwyddo cigyddiaeth fel gyrfa fodern, grefftus a chynaliadwy.
Mae Matt Edwards yn gigydd sydd wedi ennill sawl gwobr ac yn Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith ar gyfer Gweithgynhyrchu Bwyd Cambria ac yn y gorffennol wedi ennill medal aur yng nghystadleuaeth WorldSkills UK ac wedi chwarae rôl allweddol yn natblygiad yr academi.
Meddai Kate Muddiman, Rheolwr Dysgu yn y Gwaith Cambria: “Mae’r Academi wedi rhoi’r cyfle i ni edrych mewn mwy o fanylder ar y cyfleoedd anhygoel o ran doniau, crefftwaith a gyrfaoedd yn y diwydiant cigyddiaeth a dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi parhau i ddatblygu perthnasau gyda chyflogwyr a’r diwydiant ehangach.
“Rydyn ni eisiau cadw’r gwaith da i fynd ac i ddod â phobl at ei gilydd a dyna pam fod y Gynhadledd Cigyddiaeth Cymru yn achlysur mor gyffrous.
“Mae rhywbeth at ddant pawb sydd â chysylltiad gyda chigyddiaeth, lletygarwch, gweithgynhyrchu neu fwyd a diod, boed hynny’n fusnes annibynnol bach neu’n gyflogwr sylweddol. Y nod ydy rhannu syniadau, gwneud cysylltiadau ac i edrych ar yr heriau a’r cyfleoedd.”
Mae’r siaradwyr yn cynnwys Matt Loughrey o’r sefydliad The Burnt Chef Project a fydd yn trafod iechyd meddwl yn y diwydiant bwyd, a Terry Fennel, Prif Weithredwr Cymwysterau Bwyd a Diod (FDQ Ltd), gan ganolbwyntio ar brentisiaethau cigyddiaeth yng Nghymru, eu buddion a’u cymhellion.
Bydd sesiwn holi ac ateb yn cael ei gynnal gan ei gydweithiwr FDQ, Matthew Bell, ac yn cynnwys panel o gyn-brentisiaid, cyflogwyr a phartneriaid yn y diwydiant.
Bydd Castell Howell a The Institute of Meat yn cyfrannu at raglen wedi’i dylunio i annog cydweithio a rhannu arbenigedd ar draws y sector.
Gall ymwelwyr ddod o hyd i wybodaeth am y cyllid sydd ar gael yn y diwydiant cig, a’r cymorth ariannol i wneud cyrsiau byr trwy Gronfa Twf Lleol Wrecsam yn ogystal ag edrych ar gyfleoedd prentisiaeth a datblygu proffesiynol.
Ychwanegodd Kate: “Mae sgiliau, recriwtio a chadw gafael ar bobl dalentog yn parhau i fod yn hynod o bwysig ond mae llesiant, arloesi a gwneud yn siŵr fod cyflogwyr yn gwybod pa gymorth sydd ar gael yr un mor bwysig hefyd.
“Rydyn ni eisiau i bobl adael gyda chysylltiadau newydd, syniadau newydd a gwell dealltwriaeth o’r hyfforddiant a’r cyllid allai helpu eu busnesau a’u gweithle ddatblygu.”
Mae’r gynhadledd yn dilyn y model llwyddiannus a sefydlwyd ar gyfer Cynhadledd Pobi Cymru Cambria y llynedd.
Ychwanegodd Kate: “Ar ôl llwyddiant y Gynhadledd Pobi rydyn ni’n gobeithio y gallwn ddechrau rhywbeth i adeiladu arno a’i fod yn cael ei weld yn y dyfodol fel dyddiad pwysig yn y calendr diwydiant.”
Mae mynediad, cinio a pharcio ar y safle am ddim ond mae llefydd yn brin.