Cafodd pedair ffilm a gafodd eu cynhyrchu gan fyfyrwyr Coleg Cambria eu dewis i’w dangos ym mhumed Ŵyl Ffilmiau Arswyd Phantasmagoria yng Nghefn Mawr, Wrecsam.
Agorodd yr Arddangosfa o Waith Myfyrwyr yr ŵyl dridiau o hyd yn Neuadd George Edwards, gan gyflwyno eu gwaith i gynulleidfa ehangach ochr yn ochr â ffilmiau gan wneuthurwyr ffilm lleol ac annibynnol.
Roedd gwneuthurwyr ffilmiau ifanc Charley Walker a Kaz Parry ymhlith y rhai a oedd yn mynd i’r ŵyl gyda ffrindiau a theulu i weld eu gwaith yn cael ei ddangos ar sgrin yn yr ŵyl.
Roedd ffilm Charley, The Forrest, a ffilm Kaz, The Cellar, ymhlith pedwar cynhyrchiad Cambria a gafodd eu dewis, gyda mwy na 15 o gyd-fyfyrwyr yn bresennol i’w cefnogi ac i gasglu syniadau cyn dechrau ar eu gwaith cwrs eu hunain ar ffilmiau arswyd.
I Charley, mae’r profiad eisoes wedi agor drws arall, gan fod ei waith wedi gwneud argraff ar gwmnïau cynhyrchu lleol ac mae wedi cael cynnig o gyfarfod i drafod prosiectau posib yn y dyfodol.
“Dwi eisiau diolch i fy athrawon Cyfryngau a wnaeth hyn yn bosib oherwydd, i fod yn onest, roedd hi’n wych gweld fy enw ar y sgrin fawr!” meddai.
“Roeddwn i’n eithaf nerfus, oherwydd mae ots gen i beth mae pobl yn ei feddwl, ond roedd clywed yr adborth cadarnhaol gwirioneddol yn werth chweil.
“Mae medru siarad efo pobl yn y diwydiant wir wedi cadarnhau fy angerdd am y Cyfryngau a Ffilm.”
Roedd safon cynyrchiadau’r myfyrwyr wedi gwneud argraff ar gyflwynydd yr ŵyl, Marc Brimfield.
“Mae gwaith y myfyrwyr o Goleg Cambria wedi gwneud argraff wirioneddol arna’ i.” meddai.
“I’n cynulleidfa heno, hoffwn i’ch atgoffa chi mai dyma eu hymdrech gyntaf ar greu ffilmiau, ac mae’n dangos ansawdd anhygoel yn barod.”
Rhoddodd y digwyddiad arddangos hefyd flas i fyfyrwyr Cyfryngau Lefel UG presennol o’r hyn y gallan nhw ei gyflawni.
Dywedodd Ellie May Randles: “Pryd gallwn ni ddechrau ar y prosiect yma? Mae gen i gymaint o syniadau; dwi eisoes yn drafftio cynllun yn fy mhen yn barod.”
Dywedodd Laura Jones, Darlithydd yn y meysydd Cyfryngau a Ffilm ac Arweinydd Cwricwlwm yn Chweched Iâl, fod y noson wedi bod yn achlysur balch i bawb a fu’n rhan ohoni.
“Roedd hi’n noson mor llwyddiannus a llawen, ac roeddem ni mor falch o weld ffilmiau’r myfyrwyr ar y sgrin fawr,” meddai Laura.
“I’r rhan fwyaf ohonyn nhw, dyma eu profiad go iawn cyntaf o wneud ffilmiau; felly, roedd cael eu gwaith yn cael ei ddewis ar gyfer gŵyl a’i ddangos ochr yn ochr â gwaith gwneuthurwyr ffilm lleol eraill yn foment enfawr.”
“Yr hyn oedd yr un mor braf oedd gweld mwy na 15 o’n myfyrwyr eraill yn dod draw i’w cefnogi nhw. Byddan nhw’n dechrau ar eu prosiectau ffilmiau arswyd eu hunain yn fuan, ac fe wnaethon nhw adael yn llawn cyffro a syniadau.
“Ac mae’r ffaith bod cwmnïau cynhyrchu lleol eisoes wedi dangos diddordeb yn Charley yn dangos beth all ddeillio o gyfleoedd fel hyn.”
Bellach yn ei bumed flwyddyn, Phantasmagoria ydy’r unig ŵyl ffilmiau arswyd pwrpasol yn sir Wrecsam, gan ddod â thalent leol a gwneuthurwyr ffilmiau annibynnol o bell ac agos ynghyd.
Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 2 a 4 Hydref, ac roedd yn cynnwys sgriniadau, dangosiadau cyntaf, sesiynau holi ac ateb gyda gwneuthurwyr ffilmiau a digwyddiadau eraill drwy gydol y penwythnos.