Bydd Erin sy’n 23 oed, o’r Bala, yn cyfuno’r swydd ran-amser gyda rhedeg ei fferm deuluol, gan roi cipolwg uniongyrchol i fyfyrwyr ar realiti busnes, a realiti masnachol ac ymarferol amaethyddiaeth fodern.
Aeth Erin i’r afael â rhagor o gyfrifoldeb dros Fferm Pandy yn ddeunaw oed, a phum mlynedd yn ddiweddarach, mae hi wedi arallgyfeirio ei gweithgareddau wrth ddod yn eiriolwr amlwg dros bobl ifanc ym maes amaethyddiaeth.
“Mae’r fferm mewn sefyllfa dda, ac rydyn ni wedi bod yn brysur iawn dros yr haf gyda datblygiadau yno, felly roeddwn i’n teimlo mai dyma’r amser iawn i dreulio rhagor o amser yn helpu i ddylanwadu ar bobl ifanc ym myd amaeth a’u cefnogi nhw,” meddai Erin.
“Mae gan Llysfasi gyfleusterau gwych ac, mae’n fferm weithredol, sy’n bwysig, felly mae dysgwyr yn medru dysgu’r theori ond hefyd cael profiad ymarferol. Mi fydda’ i’n canolbwyntio’n bennaf ar yr ochr fusnes a chynhyrchu anifeiliaid, ac oherwydd fy mod i’n dal i redeg y fferm fy hun, mi fydda’ i’n medru dod â’r profiad cyfredol hwnnw i’r ystafell ddosbarth.”
Yn ffermwr bedwaredd genhedlaeth, mae Erin wedi adeiladu ar y profiad hwnnw drwy ddatblygu Pandy Farm Experience ochr yn ochr â’r fferm ei hun, gan groesawu ymwelwyr i ddysgu am dda byw, cŵn defaid, diwylliant Cymru a bywyd ar fferm weithiol.
“Mae yna gymaint o gyfleoedd mewn amaethyddiaeth,” meddai hi.
“Mae gennym ni’r adnoddau a’r tir fel ffermwyr, ond mae’n rhaid i ni fod yn greadigol o ran sut rydyn ni’n eu defnyddio nhw, o ystyried yr heriau mae’r diwydiant yn eu hwynebu. Mi fydda’ i hefyd yn medru rhannu fy ngwybodaeth am y rhaglenni cyllido a’r cymorth sydd ar gael, yn enwedig gyda thechnoleg yn newid pethau mor sydyn.”
Yn siaradwr Cymraeg, gwnaeth Erin gwblhau gradd gyda Open University ac yna astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae hi’n weithredol ar draws y gymuned amaethyddol drwy NFU Cymru a Cyswllt Ffermio.
Mae hi hefyd wedi adeiladu proffil cenedlaethol drwy ffermio a thrin cŵn defaid, mae hi wedi bod ar raglen Countryfile, ac mae hi’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’r sector i gynulleidfaoedd iau.
Daw ei phenodiad yng nghanol buddsoddiad parhaus yn Llysfasi, gan gynnwys yr Hwb Arloesi newydd a llety i fyfyrwyr sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd.
Ychwanegodd Erin: “Dwi wir yn mwynhau addysgu a dwi wedi bod yn hyderus yn siarad â phobl ers erioed – mae fy mam yn athrawes, felly dwi wedi meddwl archwilio addysgu ers erioed.
“Mae’n bennod newydd a dwi’n gyffrous iawn. Dwi’n mwynhau bod yn brysur ac mae medru ffermio ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesa’ gobeithio yn gyfle arbennig.”
Dywedodd Elin Roberts, Pennaeth Cynorthwyol ac arweinydd safle Llysfasi: “Mae Erin yn dod â phrofiad cyfredol, ymarferol a masnachol i’r swydd, a fydd yn hynod werthfawr i’n dysgwyr.
“Mae hi’n deall yr heriau sy’n wynebu busnesau ffermio yn uniongyrchol, ac mae cael ffermwr ifanc, dwyieithog i rannu’r profiad hwnnw gyda’n myfyrwyr yn ychwanegiad gwych i’r tîm.