Astudiodd Nathan Hall, 23 oed, o Dreffynnon, y Gyfraith, Busnes, Ffrangeg a Bagloriaeth Cymru ar safle Chweched Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria cyn ymuno â’r cwmni cyfreithiol byd-eang Ashurst Perkins Coie. Yno, mae’n gweithio fel Cyfreithiwr dan Hyfforddiant wrth iddo gwblhau ei radd israddedig yn y Gyfraith.
Yn hytrach na dilyn llwybr prifysgol llawn amser traddodiadol, llwyddodd Nathan i gael lle yn astudio Prentisiaeth Gradd Cyfreithiwr hynod gystadleuol, gan dreulio pedwar diwrnod yr wythnos yn ennill profiad ymarferol yn Llundain gan astudio ar gyfer ei radd un diwrnod yr wythnos.
Mae disgwyl iddo raddio eleni ac mae ar fin dechrau ar ran olaf ei brentisiaeth.
Yn ystod ei hyfforddiant, mae wedi gweithio yn nhîm Rheoleiddio Ariannol a Threth y cwmni ac wedi cwblhau cyfnod secondiad chwe mis gyda’r banc buddsoddi byd-eang, Goldman Sachs.
Dywedodd Nathan fod y llwybr prentisiaeth wedi rhoi profiad amhrisiadwy iddo yn ogystal â rhoi cyfle iddo ennill gradd.
“Rydw i wedi cael amser anhygoel,” meddai.
“Rydw i newydd orffen fy ngradd israddedig yn y Gyfraith ac mi fydda i’n graddio eleni. Rydw i ar fin dechrau ar ddwy flynedd olaf o fy mhrentisiaeth fel cyfreithiwr dan hyfforddiant yn Ashurst Perkins Coie.”
“Mae’r profiad wedi bod yn wych ac wedi rhoi cyfleoedd i mi na allwn i fod wedi’u dychmygu, gan gynnwys gweithio gyda gwahanol dimau cyfreithiol a threulio chwe mis yn Goldman Sachs fel gweithiwr cyfreithiol ar secondiad.”
Wrth edrych yn ôl ar ei amser yng Ngholeg Cambria, dywedodd Nathan fod y gefnogaeth a gafodd wedi rhoi’r hyder iddo edrych ar opsiynau gyrfa y tu hwnt i’r llwybr prifysgol traddodiadol.
“Roedd Cambria yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddysgu am opsiynau gyrfa y tu hwnt i’r llwybr prifysgol traddodiadol, gan gynnwys cyn-fyfyrwyr yn dychwelyd i siarad am eu profiadau eu hunain,” meddai.
“Roeddwn i hefyd wrth fy modd gyda’r annibyniaeth a’r ffaith bod Cambria yn ymddiried ynoch chi o’r cychwyn cyntaf, sy’n gwneud y cam nesaf ar ôl y Chweched Dosbarth yn llawer llai brawychus.
“Byddwn i’n bendant yn annog unrhyw un i ystyried astudio yno. Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael fy nghefnogi drwy gydol y ddwy flynedd, er gwaethaf heriau’r pandemig, cyfnodau clo a phopeth arall.”
Dywedodd Nathan: “Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i’r holl staff am roi’r sgiliau a’r hyder i mi yr oeddwn i eu hangen er mwyn i mi gymryd y cam nesaf i fyd gwaith.
“Wrth i Chweched Glannau Dyfrdwy ddathlu ei ben-blwydd yn 10 oed, hoffwn i longyfarch pawb sydd wedi helpu i’w wneud yn llwyddiant mor enfawr. Mae’n lle sydd wedi rhoi’r hyder i mi er mwyn fy ngalluogi i ddilyn llwybr gwahanol, ac rydw i’n hynod ddiolchgar o gael bod yn rhan o’i stori.”
Mae Nathan yn annog pobl ifanc i gadw meddwl agored am eu dyfodol.
“Byddwn i’n eich cynghori i siarad â chymaint o bobl â phosibl sy’n gweithio ym meysydd gyrfa sydd o ddiddordeb i chi. Yn aml iawn, gallwch chi ddysgu dipyn mwy o sgwrs bum munud nag y medrwch chi oddi ar wefan cwmni.
“Cadwch eich opsiynau ar agor hefyd. Mae’n hollol dderbyniol, ac yn gwneud synnwyr, gwneud cais i’r brifysgol wrth i chi edrych ar gyfleoedd prentisiaeth ar yr un pryd.”
Dywedodd Mim Riddell, Pennaeth Chweched Glannau Dyfrdwy a Dirprwy Bennaeth Astudiaethau Academaidd yng Ngholeg Cambria: “Mae taith Nathan yn enghraifft wych o’r llwybrau amrywiol sydd ar gael i bobl ifanc uchelgeisiol ar ôl y coleg.
“Mae prentisiaethau gradd yn cyfuno astudiaethau academaidd â phrofiad gwerthfawr yn y gweithle, ac mae Nathan wedi manteisio ar y cyfle hwnnw i adeiladu gyrfa ragorol. Rydyn ni’n hynod falch o bopeth y mae wedi’i gyflawni ac yn dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol.”
Am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.