Dyweda’ Dy Ddweud, Gwna’ Ffrindiau Newydd a Gwna’ Wahaniaeth
Mae Llais y Myfyrwyr yn gymuned o ddysgwyr sy’n cydweithio i rannu syniadau, gwella bywyd yn y coleg a sicrhau bod lleisiau dysgwyr yn cael eu clywed.
Mae’n gyfle gwych i gyfarfod â phobl o gyrsiau, safleoedd a chefndiroedd gwahanol, gan dy helpu di i deimlo’n rhan o gymuned ehangach Coleg Cambria o ddechrau dy daith.
P’un ai dy fod di eisiau helpu i siapio profiadau dysgwyr, datblygu sgiliau newydd neu gyfarfod â phobl newydd, mae yna le i bawb yn Llais Myfyrwyr.
Rhowch wybod i ni am eich syniadau!
Gallai cymryd rhan gyda Llais Myfyrwyr dy helpu di i:
- Gyfarfod â phobl newydd a gwneud ffrindiau
- Adeiladu hyder a sgiliau cyfathrebu
- Rhannu dy syniadau a dy farn
- Helpu i wella profiad y coleg i’r holl ddysgwyr
- Datblygu sgiliau arwain a gwaith tîm
- Ennill profiad gwerthfawr i gefnogi ceisiadau yn y dyfodol, ceisiadau ar gyfer y brifysgol a CVs
Yng Ngholeg Cambria, rydyn ni eisiau i bob dysgwr gael llais.
Does dim angen ni ti fod mewn rôl na mynd i bob cyfarfod i gymryd rhan. Rydyn ni’n croesawu adborth, awgrymiadau a syniadau gan yr holl ddysgwyr drwy gydol y flwyddyn.
Os oes yna unrhyw beth rwyt ti eisiau ei wella, newid neu ei ddathlu, mae’r Llais Myfyrwyr yn darparu cyfleoedd i rannu dy feddyliau a gwneud gwahaniaeth.
Dyweda’ dy ddweud yma – clicia’r ddolen.
Bob mis Medi, mae pob dosbarth yn enwebu dau Gynrychiolydd Dosbarth.
Mae Cynrychiolwyr Dosbarth yn casglu adborth gan eu cyd-fyfyrwyr, yn trafod syniadau ac yn helpu i gynrychioli barn y rhai sydd ar eu cwrs.
Mae’n gyfle gwych i ddatblygu sgiliau arwain, cyfarfod â phobl newydd a chael effaith gadarnhaol o fewn y coleg.
Os oes gennyt ti ddiddordeb, siarada’ efo dy Anogwr Cynnydd ar ôl i ti ddechrau yn y coleg.
Mae Llais Myfyrwyr yn cynnig cyfleoedd drwy gydol y flwyddyn i gymryd rhan, cyfarfod â dysgwyr newydd a helpu i siapio bywyd yn y coleg.
P’un ai dy fod di’n hyderus ac yn llawn syniadau neu dy fod di’n teimlo’n nerfus am ddechrau yn y coleg, mae Llais Myfyrwyr yn ffordd groesawgar o ddod yn rhan o gymuned y coleg ac i ti gael dweud dy ddweud.