Home > Myfyrwyr Newydd 25/26 > Cludiant i Fyfyrwyr Newydd
Yng Ngholeg Cambria, rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig ydy cael cludiant dibynadwy a fforddiadwy pan rydych chi’n dechrau mewn lle newydd.
O docynnau bws i amserlenni, mi wnawn ni eich helpu chi i ddeall eich opsiynau a chynllunio’ch taith mewn ffordd sy’n gweddu’ch ffordd o fyw.
Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, peidiwch â phoeni – cysylltwch â cludiant@cambria.ac.uk am unrhyw ymholiadau.
Cliciwch yma neu sganiwch y Cod QR isod.
Rydyn ni yma i’ch helpu chi i fynd i’r coleg ac oddi yno’n ddiogel a hawdd. Dyma ychydig o atebion i gwestiynau cyffredin am gludiant yn Cambria:
Dyma’r gost fesul tymor:
£90 y tymor i fyfyrwyr 16-18 oed
£160 y tymor i fyfyrwyr 19 oed a throsodd
Bydd opsiwn hefyd i dalu am y flwyddyn gyfan:
£270 i fyfyrwyr 16-18 oed
£480 i fyfyrwyr 19+ oed
Dyma gyfraniad at eich tocyn bws gyda Choleg Cambria yn talu’r gost sy’n weddill.
Waiting on Bethan for this
Os ydych chi’n ansicr ynglŷn â’ch arhosfan bws neu’ch llwybr dynodedig, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk neu Gludiant ar cludiant@cambria.ac.uk.
Gall ein tîm roi arweiniad a’ch helpu i wybod beth ydy eich trefniadau cludiant cywir.
Ar gyfer mynediad mis Medi 2026, cliciwch ar y ddolen hon a llenwch y ffurflen google, mi wnawn ni anfon dolen talu atoch chi. Gallwch chi gysylltu â Gwasanaethau Myfyrwyr am ragor o wybodaeth.
Os ydych chi’n methu’r bws: Eich cyfrifoldeb chi ydy gwneud yn siŵr eich bod chi yn eich safle bws dynodedig mewn pryd. Os ydych chi’n methu’r bws, bydd angen i chi wneud trefniadau eraill i gyrraedd y coleg.
Os dydy’r bws ddim yn dod: Ffoniwch Rif Ffôn Cludiant y Coleg ar 01978 515454 neu ewch i weld y tîm Gwasanaethau Myfyrwyr.
Mi wnawn ni ymchwilio i’r broblem gyda’r darparwr bysiau a’ch cynghori chi ar y camau nesaf.
Oes, efallai y bydd cymorth ariannol ar gael. Os ydych chi’n poeni am sut yr ydych yn mynd i allu fforddio’r ffi cludiant â chymhorthdal, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr.
Gall ein tîm drafod opsiynau fel y Gronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF), Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) (ar gyfer pobl 16-18 oed), neu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach (WGLG-FE) (ar gyfer dysgwyr 19+).
Darganfyddwch a ydych chi’n gymwys a sut i wneud cais yma – https://cambria.ac.uk/supporting-you/student-support/general-student-support/
Gwnewch gais cyn gynted â phosibl.
Oes, mi fydd yn rhaid i’r holl ddysgwyr sy’n teithio ar gludiant y coleg fod â Thocyn Bws Coleg Cambria dynodedig. Mae hwn yn gerdyn penodol ar gyfer cludiant, sy’n wahanol i’ch cerdyn adnabod cyffredinol y coleg. Dylech chi fod yn barod i ddangos y tocyn yma i’r gyrrwr.
Peidiwch â phoeni, byddwch yn gallu cael mynediad at fersiwn ddigidol o’ch cerdyn ID drwy Ap Cambria. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi lawrlwytho’r Ap.
Oes, mae pob safle Coleg Cambria yn darparu mannau dynodedig ar gyfer parcio beiciau diogel. Gwiriwch fapiau’r safle neu gofynnwch i’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr am union leoliadau rheseli beiciau diogel. Ar gyfer sgwteri, gwnewch yn siŵr eu bod nhw wedi’u parcio’n ddiogel ac nad ydyn nhw’n rhwystro llwybrau.
Os ydych chi’n colli’ch cerdyn ID Coleg Cambria (sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio fel eich tocyn bws) rhowch wybod i’r Gwasanaethau Myfyrwyr cyn gynted â phosib. Os oes gennych docyn bws Arriva a’ch bod wedi colli’r tocyn hwnnw yna rhaid talu ffi o £15.00 i gael un newydd. Bydd ffi am gerdyn ID newydd sydd wedi’i golli am y pumed tro neu ragor.
Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’ch llwybr, peidiwch â phoeni! Rydyn ni wrth law i ddod o hyd i’r ffordd gyflymaf a hawsaf i chi’n cyrraedd ni. Ffoniwch ni ar 0300 30 30 007 ac mi wnawn ni roi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i deithio’n ddiogel i’r coleg ac yn ôl.
Gallwch chi hefyd weld amserlenni bysiau’r coleg a’r mannau casglu gan ddefnyddio’r lawrlwythiadau defnyddiol isod.