Home > Ynghylch > Amdanom Ni > Tîm Arwain
Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredol, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Cafodd Yana swydd fel Prif Weithredwr Cambria ym mis Ionawr 2020. Cyn hyn bu’n Bennaeth a Phrif Weithredwr yng Ngholeg Hugh Baird yn Lerpwl am 8 mlynedd. Mae Yana wedi bod yn ymwneud â chefnogi’r sector Addysg Bellach ar draws nifer o gyrff lleol a chenedlaethol ers blynyddoedd lawer. Wedi ei magu yng Ngogledd Cymru, aeth Yana i’r ysgol yn yr Wyddgrug ac yna ymlaen i Brifysgol Caerdydd.
Mae Steve wedi gweithio yn Cambria ers 1994 ac mae ganddo flynyddoedd lawer o brofiad fel uwch arweinydd. Mae ganddo brofiad helaeth o arwain prosiectau strategol allweddol, cyflawni strategaeth ystad uchelgeisiol a sicrhau bod cyllid ac adnoddau digonol ar gael i gyflawni amcanion strategol Cambria. Mae Steve yn ceisio dod â gweledigaeth, ysgogiad, profiad a gwelliannau ar draws y Gwasanaethau Corfforaethol a Masnachol. Mae wedi’i hyfforddi’n broffesiynol fel cyfrifydd siartredig.
Mae Cath yn Gymrawd y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, gyda dros 30 mlynedd o brofiad mewn sectorau amrywiol, gan gynnwys Iechyd, Llywodraeth Leol ac Addysg. Ymunodd â Cambria ym mis Medi 2020 ar ôl bod yn Is-Bennaeth (Pobl, Datblygiad Sefydliadol a Diwylliant) yng Ngholeg Hugh Baird yn Lerpwl. Mae Cath yn atebol am swyddogaethau Adnoddau Dynol, Marchnata, Derbyniadau a Digidol, Gwasanaethau Dysgwyr, a Chanolfannau Adnoddau Dysgu.
Ymunodd Sue â Cambria fel Pennaeth yn 2016. Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad yn y sector Addysg Bellach ar ôl gweithio mewn sawl coleg yng Ngogledd Orllewin Lloegr. Mae Sue hefyd wedi gweithio yn y Gwasanaeth Sifil yn y Gwasanaeth Prentisiaethau Cenedlaethol a’r Asiantaeth Ariannu Sgiliau. Mae gan Sue gefndir academaidd a galwedigaethol, mae wedi’i hyfforddi’n athrawes ac mae ganddi radd Meistr mewn Rheolaeth Addysgol.
Mae Llinos wedi gweithio yn y Coleg ers 18 mlynedd yn dilyn gyrfa lwyddiannus ym myd teledu a chysylltiadau cyhoeddus. Ymunodd yn wreiddiol fel Darlithydd Astudiaethau Cyfryngau a Chymraeg ac mae wedi bod yn ei rôl bresennol ers creu Coleg Cambria ym mis Awst 2013. Mae gan Llinos brofiad helaeth o gynllunio a pholisi iaith ac mae’n arwain darpariaeth Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Cafodd Lee-ann ei phenodi i rôl Cymhorthydd Gweithredol yng Ngholeg Cambria ym mis Awst 2013 yn dilyn uno Colegau Glannau Dyfrdwy ac Iâl. Cyn hynny, bu Lee-ann yn gweithio yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy mewn nifer o rolau cyn dod yn Gymhorthydd Personol i’r Pennaeth yn 2007. Yn ogystal â darparu cymorth gweinyddol i’r Prif Weithredwr a’r Uwch Dîm Rheoli, mae Lee-ann hefyd yn rheoli’r tîm Cymorthyddion Personol a Thimau Gweinyddol y coleg.
Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredol, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mae Steve wedi gweithio yn y Coleg ers 1994 ac mae ganddo flynyddoedd lawer o brofiad fel uwch arweinydd. Mae ganddo brofiad helaeth o arwain prosiectau strategol allweddol, cyflawni strategaeth ystad uchelgeisiol a sicrhau bod cyllid ac adnoddau digonol ar gael i gyflawni amcanion strategol y sefydliad. Mae Steve yn ceisio dod â gweledigaeth, ysgogiad a phrofiad a fydd yn cyflawni gwelliannau ar draws y Gwasanaethau Corfforaethol a Masnachol. Mae ei hyfforddiant proffesiynol fel cyfrifydd siartredig.
Ymunodd Maria â’r Coleg ym mis Tachwedd 2020 fel Pennaeth Gweithrediadau Masnachol. Cyn hynny, treuliodd Maria bron i 5 mlynedd yng Ngholeg Hugh Baird yn Lerpwl lle roedd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymgysylltu Busnes. Yn ogystal, roedd hi hefyd yn gyfrifol am amrywiol feysydd cwricwlaidd a masnachol. Yn y gorffennol mae Maria wedi rheoli Centre Hotels mawr ar draws y Gogledd Orllewin ac mae ganddi Radd BA mewn Busnes a’r Gyfraith. Ar hyn o bryd mae Maria yn astudio MA mewn Addysg.
Ymunodd Stacey â Choleg Cambria ym mis Awst 2020 fel Is-Bennaeth Ansawdd. Mae hi wedi cael nifer o swyddi arwain yn y cwricwlwm, ond yn fwy diweddar yn canolbwyntio ar ansawdd mewn nifer o Golegau AB. Mae gan Stacey brofiad sylweddol o wella ansawdd ar bob lefel o sefydliad, ac angerdd dros hynny. Yn ogystal, mae Stacey yn Arolygydd Estyn cyfredol ac yn gyn Arolygydd Ofsted.
Ymunodd Kelly â Choleg Cambria o ganlyniad i nifer o gyfuniadau. Gwnaeth ddechrau ei gyrfa yng Ngholeg Garddwriaeth Cymru yn 2001, lle’r oedd yn rheoli’r data ac archwiliadau MIS. Mae ganddi flynyddoedd o brofiad mewn MIS a rheoli timau mewn coleg AB, ac ar ôl hynny daeth yn Bennaeth Systemau Gwybodaeth ym mis Medi 2023. Mae Kelly yn angerddol am ei swydd, gwaith tîm a dyfodol y coleg.
Ymunodd Adam â’r Coleg ym 1997 fel TG ac mae wedi bod yn gweithio mewn sawl swydd wahanol yn yr adran Technoleg Gwybodaeth wrth iddi gynyddu dros y blynyddoedd. Mae Adam wedi gweithredu a rheoli llawer o newidiadau mewn technolegau digidol dros 25+ o flynyddoedd ac mae wedi bod yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Technoleg ers Mehefin 2022. Mae Adam yn angerddol am fabwysiadu technolegau newydd a’u defnyddio i ddod ag effaith gadarnhaol i waith ac astudiaethau cydweithwyr a myfyrwyr Cambria.
Ymunodd Alex â Cambria yn 2013 fel Darlithydd Peirianneg, cyn symud i reoli’r adrannau Awyrennau a Pheirianneg Uwch yng Nglannau Dyfrdwy. Mae Alex yn gyn-fyfyriwr safleoedd Glannau Dyfrdwy ac Iâl, wedi astudio Peirianneg Uwch a chyrsiau Safon Uwch, cyn symud ymlaen i swydd Peirianneg Gweithgynhyrchu a Phrosiectau mewn cwmni awyrennau lleol. Ar hyn o bryd, mae Alex yn arwain tîm Ystadau a Chyfleusterau ar holl safleoedd Cambria ac yn arwain rhaglenni adeiladau newydd y coleg, i sicrhau bod Cambria yn parhau i ddarparu amgylcheddau addysgu a dysgu newydd ysbrydoledig, gan helpu i sicrhau bod y coleg yn parhau i fod darparwr blaenllaw Addysg Bellach ac Addysg Uwch yng Nghymru.
Ymunodd Teresa â’r Coleg ym mis Awst 2021 ac mae’n Gyfrifydd Siartredig â chymhwyster CIMA gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae gan Teresa flynyddoedd lawer o brofiad yn gweithio ar lefel Uwch Reolwyr, yn adrodd i Fyrddau i sicrhau adnoddau digonol i gyflwyno Cynlluniau Strategol a hefyd wedi treulio tua 3 blynedd fel Llywodraethwr mewn ysgol gynradd leol.
Mae Teresa yn arwain y Tîm Cyllid yn y Coleg sy’n cynnwys Cyfrifon Rheoli, Cyflogres, Caffael, Prynu a Gwerthu ac mae ei rolau blaenorol wedi cynnwys Addysg, Bancio, Tai a Llywodraeth Leol.
Ymunodd Graham â’r sector addysg yn 1987 fel darlithydd Gwaith Saer ac Asiedydd cyn cael nifer o swyddi rheoli yn y coleg. Yn ystod y cyfnod hwn roedd Graham yn Gyfarwyddwr y Gyfadran Adeiladu a Pheirianneg ac yn gyfrifol am yr adran Ystadau cyn symud i’w swydd bresennol fel Rheolwr Prosiectau Cyfalaf pan gafodd Coleg Cambria ei ffurfio chwe blynedd yn ôl.
Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mae Cath yn Gymrawd y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, gyda dros 30 mlynedd o brofiad mewn sectorau amrywiol, gan gynnwys Iechyd, Llywodraeth Leol ac Addysg. Ymunodd â Cambria ym mis Medi 2020 ar ôl bod yn Is-Bennaeth (Pobl, Datblygiad Sefydliadol a Diwylliant) yng Ngholeg Hugh Baird yn Lerpwl. Mae Cath yn atebol am swyddogaethau Adnoddau Dynol, Marchnata, Derbyniadau a Digidol, Gwasanaethau Dysgwyr, a Chanolfannau Adnoddau Dysgu.
Ymunodd Diane â Cambria yn 2018 ar ôl treulio dros 20 mlynedd yn arwain timau adnoddau dynol yn fyd-eang ar draws y sectorau peirianneg, technoleg a gwasanaethau proffesiynol. Astudiodd ddiploma ôl-raddedig mewn Rheoli Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Salford ac mae’n gymrawd o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad. Mae Diane yn arbenigo mewn gweithgareddau newid trawsnewidiol sy’n ychwanegu gwerth ac yn gwella diwylliant ac effeithiolrwydd sefydliadol.
Gwnaeth Bethan raddio o Brifysgol Manceinion ac yna aeth hi ymlaen i gwblhau cwrs hyfforddi athrawon ym Mhrifysgol Caer. Treuliodd hi lawer o flynyddoedd yn gweithio yn yr Adran Gwasanaethau Myfyrwyr fel Ymgynghorydd ac yna fel Arweinydd Tîm, cyn gadael i ddod yn Rheolwr Sefydlu ac Adsefydlu ar gyfer Addysg, yn CEM Berwyn.
Ar ôl gadael Addysg Carchar, symudodd hi i Ddiwydiannau Carchar gan dreulio amser fel Rheolwr Canolfan Gyswllt, lle wnaeth hi reoli tîm o garcharorion a oedd yn gweithio ar y ffonau, yn datblygu sgiliau yn barod at gael eu rhyddhau ac atal atgwympo.
Dychwelodd hi i Goleg Cambria yn 2021, gan weithio fel Ymgynghorydd TRAC ac yna fel Anogwr Cynnydd. Cafodd ei swydd fel Rheolwr Gwasanaethau Myfyrwyr ym mis Awst 2022 a Phennaeth Gwasanaethau Dysgwyr yn 2023.
Ymunodd Owain â Choleg Cambria ym mis Mai 2020 fel Pennaeth Marchnata, Derbyniadau a Digidol. Mae ganddo brofiad helaeth o reoli marchnata ac arwain yn y sector Addysg Bellach. Mae Owain yn angerddol am ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a gwella taith y dysgwyr ar bob cyfle. Mae’n siarad Cymraeg ac mae ganddo hanes amlwg o wella ansawdd ar bob lefel.
Mae Emma wedi gweithio mewn swyddi a oedd yn ymwneud â myfyrwyr ers 2004 pan ddechreuodd hi weithio ym Mhrifysgol Metropolitan Leeds gyda’r tîm ehangu cyfranogiad ac yn ddiweddarach mewn swydd fugeiliol. Ymunodd hi â’r coleg yn 2010 fel hwylusydd learndirect wrth gefnogi dysgwyr y coleg a’r gymuned. Yn ystod ei chyfnod yng Ngholeg Cambria mae Emma wedi cwblhau ei gradd rheoli llyfrgell a symudodd hi yn ei blaen i ddarparu cymorth uniongyrchol i ddysgwyr gyda’u sgiliau academaidd. Mae Emma wedi ymrwymo i helpu dysgwyr i lwyddo wrth gyflwyno gwasanaeth llyfrgell cynhwysol ac effeithiol ac mae hi’n angerddol iawn am hynny.
Ymunodd Lizzie â Choleg Cambria ym mis Medi 2016 fel Rheolwr Cymorth Dysgu. Roedd ei phrofiad helaeth mewn Addysg Arbenigol ac Awdurdod Lleol yn cefnogi datblygiad y ddarpariaeth Sgiliau Byw’n Annibynnol a chymorth. Mae Lizzie yn Arolygydd Cymheiriaid Estyn, yn hwyluso prosiectau datblygu dysgu arbenigol ac yn defnyddio ei phrofiad blaenorol a’i gwybodaeth am ddiwygio i reoli gweithrediad Bil ALNET Llywodraeth Cymru.
Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Ymunodd Sue â Cambria fel Pennaeth yn 2016. Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad yn y sector Addysg Bellach ar ôl gweithio mewn sawl coleg yng Ngogledd Orllewin Lloegr. Mae Sue hefyd wedi gweithio yn y Gwasanaeth Sifil yn y Gwasanaeth Prentisiaethau Cenedlaethol a’r Asiantaeth Ariannu Sgiliau. Mae gan Sue gefndir academaidd a galwedigaethol, mae wedi’i hyfforddi’n athrawes ac mae ganddi radd Meistr mewn Rheolaeth Addysgol.
Ymunodd Vicky â thîm Cyllid y Coleg o adran Addysg Conwy. Gan arwain nifer o adrannau yn ystod ei chyfnod yn y Coleg mewn rolau cymorth a chwricwlaidd, mae gan Vicky brofiad helaeth o gefnogi ein cyflogwyr a’n dysgwyr. Gydag angerdd dros sicrhau lefelau uchel o wasanaeth cwsmeriaid ac addysgu a dysgu rhagorol, mae Vicky yn arwain ar sicrhau bod cyflogwyr Cambria yn cael yr hyfforddiant a’r datblygiad sydd eu hangen arnynt i gefnogi eu busnes gan gyrchu’r cymorth ariannol sydd ar gael.
Ymunodd Steven â’r Coleg ym mis Medi 2023, gyda phrofiad helaeth o uwch reoli AB ac AU, ac o addysgu ac ymchwil AU. Mae ganddo PhD o Brifysgol Caint. Mae Steven wedi ymrwymo i arloesi dan arweiniad pobl ac aliniad cydweithredol. Mae ganddo angerdd am gefnogi dilyniant mewn dysgu uwch, yn ogystal â gweithio gyda’r holl randdeiliaid i ddatblygu darpariaeth o ansawdd uchel gan ddod â sgiliau cyflogadwyedd a chyflawniad academaidd at ei gilydd ar gyfer meysydd blaenoriaeth lleol a chenedlaethol.
Ymunodd Nick â’r Coleg ym 1999 fel darlithydd a chwaraeodd ran flaenllaw yn natblygiad y ddarpariaeth peirianneg ac adeiladu. Yn ddiweddar cafodd ei secondio i swydd fasnachol gyda Phrifysgol Sheffield – AMRC Cymru. Galluogodd y cyfnod ar leoliad hwn Nick i gynorthwyo gyda datblygu’r ganolfan ymchwil ym Mrychdyn a sefydlu tîm sy’n ymroddedig i Dechnolegau Digidol mewn sawl sector gweithgynhyrchu. Mae Nick yn Arolygydd Arweiniol Maes Dysgu gydag Estyn.
Ymunodd Victoria â Cambria yn 2020 ar ôl cael nifer o swyddi arwain yn ystod ei gyrfa 22 mlynedd ym maes AB, gan gynnwys rheoli bugeiliol, llywio arloesedd mewn addysgu a dysgu a gwella ansawdd y cwricwlwm. Mae gan Victoria brofiad o arwain newid trawsnewidiol i lywio llwyddiant mewn ystod eang o feysydd cwricwlwm galwedigaethol yn ogystal â Phrentisiaethau a mentrau masnachol. Mae hi wedi ymrwymo i ddarparu sgiliau rhagorol i ddysgwyr i’w galluogi i lwyddo yn eu gyrfa ddewisol.
Mae Natalie yn uwch arweinydd yn y sector AB a ymunodd â Choleg Cambria ym mis Medi 2022. Mae wedi cael nifer o swyddi mewn colegau ac ysgolion ar draws gogledd Lloegr. Mae Natalie wedi rheoli nifer o feysydd cwricwlwm academaidd a galwedigaethol. Mae hi’n canolbwyntio ar brofiad dysgwyr, ansawdd a thwf yn ôl y galw. Mae datblygu sgiliau bywyd hanfodol myfyrwyr drwy roi’r sylfeini a’r sgiliau bywyd iddynt i agor rhagor o gyfleoedd, wedi bod yn nod allweddol yn ystod ei gyrfa.