Home > Ynghylch > Amdanom Ni > Tîm Arwain > Prif Swyddog Gweithredu’r Is-gyfarwyddiaeth
Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Ymunodd Ann â’r Coleg yn Ebrill 1993 fel Nyrs Feithrin. Cyn hyn, bu Ann yn gweithio fel nani preifat. Dros y 12 mis nesaf llwyddodd Ann i ddod yn Rheolwr Meithrinfa sydd bellach yn rheoli’r feithrinfa yng Nglannau Dyfrdwy. Mae ganddi wybodaeth a phrofiad helaeth o ddatblygu gofal plant ac mae’r feithrinfa wedi cyflawni arolygiadau rhagorol gan ESTYN ac AGC dros y blynyddoedd.
Ar ôl dechrau’i yrfa yn gweithio mewn siop fferm yn 17 oed, aeth Matt ymlaen i wneud enw iddo’i hun yn Horseradish Catering yng nghae ras Caer, lle cododd drwy’r rhengoedd i fod yn arweinydd gweithredol yn 2015. Yn ystod y pum mlynedd nesaf, bu Matt yn arwain tîm rheoli arlwyo a groesawai ymhell dros filiwn o ymwelwyr y flwyddyn, ar draws sawl lleoliad. Ymunodd Matt â’r coleg yn gynnar yn 2021. Mae gan Matt brofiad lletygarwch helaeth yn sgil rheoli mewn lleoliadau sy’n cynnwys bwytai, undebau myfyrwyr, canolfannau cynadledda a gwestai.
Mae Sarah wedi gweithio i’r Coleg ers 2012. Mae hi’n rheolwr salon profiadol, ac roedd yn arfer gweithio fel rheolwr sba ac mewn sbas moethus pen ucha’r farchnad ledled y wlad. Mae gan Sarah hanes o weithio ym maes rheoli addysg ac mae ganddi sgiliau rhagorol mewn asesu, sicrhau ansawdd mewnol, annog a datblygu dysgwyr. Mae Sarah yn fentor addysgu a dysgu yn y Coleg hefyd.
Ymunodd Lee â’r Coleg yn gynnar yn 2011, fel un o sylfaenwyr y Tîm Gwella Busnes. Mae wedi ennill ystod o brofiad Gwella Busnes ar ôl gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau a busnesau yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Mae’r profiad hwn wedi chwarae rhan allweddol yn esblygiad y Coleg. Mae Lee hefyd wedi bod yn rhan o strategaethau arloesi a phrosiectau gweithredu tactegol ar draws y Coleg ac mae’n aelod gweithgar o Grwpiau Tasg STEM ac Arloesedd y Coleg.
Fe wnaeth Jack ddechrau ei yrfa yng Ngholeg Cambria yn 2014 fel Darlithydd Celfyddydau Perfformio. Aeth ymlaen i fod yn Arweinydd y Cwricwlwm yn adran y Diwydiannau Creadigol cyn trosglwyddo i Adnoddau Dynol, gan gyfrannu at y tîm Dysgu Proffesiynol. Aeth Jack ymlaen wedyn i ymgymryd â swydd reoli yn y tîm Ansawdd yn 2024. Gyda phrofiad helaeth ac arbenigedd mewn addysgu, dysgu ac asesu, mae Jack wedi ymrwymo’n ddwfn i feithrin ansawdd a rhagoriaeth yn yr ystafell ddosbarth.
Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mae Jane wedi gweithio yn y Coleg ers 2006 gan ddechrau fel Gweinyddydd ar gontract cyfnod penodol o 6 mis. Yn dilyn hyn, symudodd ymlaen i fod yn Oruchwyliwr Swyddfa, yn Swyddog Hawliadau a Monitro, yn Gydlynydd Ariannu Allanol ac wedyn yn Rheolwr Gweithrediadau Gwasanaethau Data Dysgwyr ym mis Medi 2023. Mae Jane yn angerddol am lwyddiant y Coleg a’r cyfleoedd y mae’n eu darparu i unigolion o ran datblygu sgiliau a gwybodaeth i wella dysgu a llwybrau gyrfa.
Mae Jane wedi gweithio yn y Coleg ers 2006 gan ddechrau fel Gweinyddydd ar gontract cyfnod penodol o 6 mis. Yn dilyn hyn, aeth ymlaen i fod yn Oruchwyliwr Swyddfa, Swyddog Hawlio a Monitro, Cydlynydd Cyllid Allanol a Rheolwr Gweithrediadau Gwasanaethau Data i Ddysgwyr ym mis Medi 2023. Mae Jane yn angerddol am lwyddiant y Coleg a’r cyfleoedd y mae’n eu darparu i unigolion wrth ddatblygu sgiliau a gwybodaeth i ddatblygu dysgu a llwybrau gyrfa.
Dewch i gyfarfod â’n uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn hynod angerddol am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel gyrwyr datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Ymunodd Andrew â’r coleg yn 2001 ar ôl astudio yn y coleg wrth gwblhau prentisiaeth. Mae wedi cael swydd fel Rheolwr Seilwaith ar ôl gweithio fel swyddog cymorth Rhwydwaith ers sawl blwyddyn. Mae Andrew wedi arwain ar lawer o brosiectau allweddol, a bydd yn parhau i wneud hynny gan sicrhau bod seilwaith y coleg yn cael ei gadw’n gyfredol ac yn ddiogel wrth arwain y tîm cymorth.
Ar ôl gadael y brifysgol, dechreuodd Graeme weithio yng Ngholeg Llysfasi fel Technegydd TG cyn cael ei ddyrchafu’n Swyddog TG ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Yn dilyn yr uno a greodd Coleg Cambria, daeth Graeme yn arweinydd Technoleg TG ar gyfer safle Iâl a Ffordd y Bersham. Mae gan Graeme dros 25 mlynedd o brofiad mewn dylunio, gweithredu a rheoli systemau TG i’w defnyddio yn y sector addysg ac ar hyn o bryd mae’n arbenigo mewn darparu datrysiadau technoleg trwy wasanaethau cwmwl. Mae’n mwynhau cefnogi staff a myfyrwyr Coleg Cambria ar eu taith dechnolegol.
Ymunodd Nigel â Choleg Cambria yn 2013 fel Dirprwy Gyfarwyddwr y maes Technolegau Cyfrifiadura. Cyn hyn, bu’n gweithio yn adran Dysgu yn y Gwaith Coleg Iâl, lle’r oedd yn gyfrifol am Brentisiaethau TG a hyfforddiant TG. Mae Nigel yn angerddol am bopeth digidol yn ymwneud â deallusrwydd artiffisial, technoleg a hyfforddiant Technegol Gwybodaeth.
Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Treuliodd Dawn 16 mlynedd yn gweithio mewn nifer o rolau cyfrifeg i fanwerthwr bwyd cenedlaethol ac mae’n aelod o Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheolaeth. Ymunodd â’r Coleg fel Rheolwr Cyllid a thrwy dwf y coleg, datblygodd ei rôl i fod yn Gyfrifydd Rheolaeth. Yn 2021, cafodd Dawn swydd fel Rheolwr Cyllid yn Cambria ac mae’n angerddol am weithio ar draws y sefydliad, gan ddarparu cymorth i ddeiliaid cyllidebau a sicrhau bod y Coleg yn cyflawni ei amcanion ariannol.
Dewch i gyfarfod â’r uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am swyddogaeth addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.