Gyda’n gilydd, rydyn ni’n cryfhau Dysgu i Oedolion a Sgiliau Digidol ar draws ein rhanbarth

Mae’r coleg wedi lansio cyfres o sesiynau Saesneg, Mathemateg a Llythrennedd Digidol yn Sir y Fflint, Wrecsam a Llanelwy, Sir Ddinbych, wedi’u harwain gan Gyfarwyddwr Cwricwlwm Dysgu i Oedolion a Sgiliau Dysgu yn y Gwaith Claire Howells a Swyddog Cyswllt Dysgu i Oedolion, Dean Nolan. Mae dosbarthiadau’n cael eu cyflwyno mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a […]
Mae dysgwyr yn teithio o bob cwr o’r DU i ymuno â’n Tîm Rheoli Anifeiliaid ysbrydoledig yn Llaneurgain

Mae Coleg Cambria Llaneurgain yn gartref i un o amgylcheddau academaidd mwyaf delfrydol y DU, ac yno y byddwch yn dod o hyd i grŵp o staff a darlithwyr ymroddedig lle mae eu hangerdd dros les anifeiliaid, cadwraeth ac addysg wedi bod yn ysbrydoli myfyrwyr ers blynyddoedd. O rywogaethau egsotig i ofal domestig, damcaniaeth wyddonol […]
Mae’r dylunydd blodau Kate Jordan yn dathlu haf ffyniannus gyda’i busnes sydd yn ei blodau a phortffolio amrywiol o waith creadigol sy’n cwmpasu teledu, ffasiwn, a gosodiadau ar raddfa fawr

Mae Kate, o Dremeirchion ger Llanelwy – y meddwl creadigol y tu ôl i The Craft Shed Flowers – wedi hen arfer bod yn seren y sioe. Cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Cambria, roedd hi’n gyfrifol am greu coron enillydd y rhaglen I’m A Celebrity…Get Me Out Of Here! Pan gafodd ei ffilmio yng Nghastell Gwrych yn […]
Cyfreithiwr y DYFODOL wedi pasio’r prawf eithaf ac yn gweithredu’r gyfraith gyda phrentisiaeth fawreddog

Mae Simona Kostova wedi canmol ei hamser yn y coleg – sydd gyda safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a Llaneurgain – ar ôl sicrhau prentisiaeth gradd cyfreithiwr. Wedi’i magu ym Mwcle ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Elfed mae teulu Simona yn dod o Fwlgaria yn wreiddiol. Mae hi wedi bod yn ffynnu yng […]
MAE MYFYRWRAIG ddwyieithog ymroddedig yn paratoi i gymryd y camau nesaf yn ei thaith academaidd ar ôl “cyfnod eithriadol” yn y coleg

Mae Nimue Thomas, 18 oed, cyn-ddisgybl yn Ysgol Dinas Brân, wedi cael cynnig i astudio Gwareiddiad Clasurol ym Mhrifysgol Durham – un o sefydliadau blaenllaw’r DU – ar ôl cwblhau Safon Uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg, Hanes, Gwareiddiad Clasurol, a Bagloriaeth Cymru Lefel 3. Wrth sôn am ei hamser yng Ngholeg Cambria Iâl yn Wrecsam, dywedodd […]
GADAWODD heriau dyslecsia a dyfodol ansicr Adem Erdogan yn pendroni beth i’w wneud nesaf ar ôl gadael yr ysgol uwchradd

Cefnogaeth ei rieni, a anogodd y dyn 25 oed i edrych ar yr hyn oedd gan Goleg Cambria i’w gynnig, ac o ganlyniad treuliodd y blynyddoedd nesaf yn dilyn gyrfa mewn ecoleg a chadwraeth. Yn 16 oed, tybiodd Adem y byddai’n dod o hyd i swydd fel gweithiwr llaw neu beiriannydd “fel yr oedd y […]
Mae wyth o’n sêr newydd a’n partneriaid yn y diwydiant yn paratoi i gystadlu yn un o gystadlaethau sgiliau mwyaf mawreddog y DU – ac maen nhw’n barod i ddisgleirio ar dywarchen gartref

Bydd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK eleni – a elwir yn ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’ – yn digwydd yng Nghymru am y tro cyntaf o Dachwedd 26–28, gyda chystadlaethau’n cael eu cynnal ar draws pum lleoliad. Gan gynrychioli safleoedd Cambria yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi, a Llaneurgain, bydd tîm elitaidd y coleg o fyfyrwyr a phrentisiaid […]
Y pobydd ifanc Ella Muddiman yn derbyn y wobr Hugh Weeks mawr ei pharch, gan gydnabod ei hangerdd a’i chefnogaeth eithriadol i eraill yn y sector

Wedi’i chyflwyno gan y Gynghrair ar gyfer Myfyrwyr a Hyfforddeion Pobyddiaeth (ABST), mae’r Wobr yn anrhydeddu er cof am Hugh Weeks, cyn-Lywydd ABST ac unigolyn dylanwadol yn y diwydiant becws a melysion. Gwobrwyir i fyfyriwr sydd nid yn unig yn rhagori yn eu crefft ond sydd hefyd yn dangos ymrwymiad rhagorol i’r diwydiant a’u cyfoedion. […]
Cefnogi Diwylliant Cymru – Rydym wedi cyflwyno cyfres newydd o gyrsiau i baratoi ymwelwyr a busnesau ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol

Cynhelir gŵyl eleni yn Wrecsam, ac mae Coleg Cambria, sy’n darparu cyrsiau ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yng ngogledd ddwyrain Cymru yn cefnogi dysgwyr o bob gallu sy’n bwriadu mynychu’n bersonol neu’n broffesiynol. Meddai Cyfarwyddwr Datblygu’r Gymraeg Cambria, Llinos Roberts – cadeirydd pwyllgor gwaith yr ŵyl a gynhelir ar 2-9 Awst fod y […]
CYN-FYFYRWRAIG wnaeth ennill gwobr gyfryngau mawreddog yn parhau i ysbrydoli gyda’i thaith academaidd a phersonol

Cafodd Faith Dodd o Wrecsam ei henwi’n Ohebydd Ifanc y Flwyddyn BBC Cymru tra roedd hi’n astudio Lefel A yng Ngholeg Cambria. Derbyniodd Faith gydnabyddiaeth yn genedlaethol am ei dewrder yn rhannu ei phrofiadau personol o fyw gydag Anhwylder Obsesiynol Cymhellol (OCD) gan ddefnyddio newyddiaduraeth i godi ymwybyddiaeth ac i helpu eraill. Bellach yn 22 […]