Background Splash

Gan Alex Stockton

GradCUC1

Mae Canolfan Brifysgol Coleg Cambria wedi trefnu sesiynau i ddysgwyr trwy borth trefnu sesiynau newydd. Mae’r sesiynau’n cynnig arweiniad i unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio cymhwyster Addysg Uwch, gan gynnwys cyngor ar opsiynau gradd, argymhellion cwrs, ceisiadau, cyllid ac ariannu a rhagor.

Maent yn cael eu cynnal yn ystod mis Awst a Medi gyda Rheolwr Partneriaethau AU a Chydymffurfio, Donna Pritchard, ac Emma Hurst, Deon AU a Mynediad i AU.

Wrth adfyfyrio ar wasanaeth trefnu sesiwn gyngor y Ganolfan Brifysgol, dywedodd Mrs Hurst: “Mae hyn yn opsiwn newydd i ddarpar ddysgwyr AU.

“Mae dewis y cwrs cywir a llywio’r broses gwneud cais yn gallu teimlo’n llethol felly mae hyn yn cymryd ychydig o’r pwysau a’r poeni i ffwrdd ac yn galluogi i ddysgwyr gyrchu arbenigedd a chyngor yn uniongyrchol cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

“Mi fydda i a Donna wrth law i drafod unrhyw faterion sy’n ymwneud ag addysg uwch yng Ngholeg Cambria ac rydyn ni’n hapus i ateb cwestiynau ar unrhyw beth o fenthyciadau myfyrwyr i argymhellion cwrs i unrhyw un sydd eisiau archwilio gyrfaoedd gwahanol a chymryd y cam nesaf yn eu taith dysgu.”

Ychwanegodd Donna: “Rydyn ni’n meddwl bydd y gwasanaeth yn werthfawr yn arbennig i unrhyw un sydd eisiau mynd drwy’r broses clirio neu sy’n cynllunio i ddechrau cwrs ym mis Medi ond dydyn nhw ddim yn sicr pa gymhwyster fydd yn alinio gyda’u dyheadau nhw.

“Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion blaenllaw ac mae gennym ni gysylltiadau yn y diwydiant ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, felly mi fyddwn ni’n gallu helpu gydag unrhyw beth.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost