Background Splash

Cyhoeddi - 15/10/2026

Healthcare Heroes

Gwnaeth Coleg Cambria groesawu disgyblion ysgol, myfyrwyr a chynrychiolwyr y diwydiant i’w arddangosfa Arwyr Gofal Iechyd 2026 yn Wrecsam, gan dynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Daeth y digwyddiad hefyd â chynrychiolwyr o Gynghrair Trydyddol Gogledd Cymru ynghyd – partneriaeth sy’n cynnwys Coleg Cambria, Prifysgol Wrecsam, Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai.

Mae’r Gynghrair yn gweithio i gryfhau’r cydweithrediad ar draws addysg bellach ac uwch, gan greu llwybrau cliriach i ddysgwyr a helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau ac anghenion y gweithlu ar draws y rhanbarth.

Cafodd y digwyddiad Arwyr Gofal Iechyd yn adeilad Nant Cambria (gwerth £14 miliwn) yn Iâl, gan ddenu tua 190 o ddysgwyr, wyth cyflogwr lleol a phedwar siaradwr gwadd ar gyfer rhaglen o sgyrsiau ysbrydoledig, gweithgareddau ymarferol a chyngor gyrfaoedd.

Ymunodd mwy na 100 o ddisgyblion o ysgolion ledled Gogledd Cymru â thua 80 o fyfyrwyr Coleg Cambria, gan gwrdd â gweithwyr proffesiynol a dysgu am y cymwysterau, y profiad a’r rhinweddau personol sydd eu hangen i lwyddo yn y sector.

Ymhlith y sefydliadau a oedd yn cael eu cynrychioli roedd Gofalwn.Cymru, Pendine Park, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB), PSS Shared Lives Wales, Mental Health Care UK a Llewelyn Healthcare Group.

Roedd y rhaglen yn cynnwys sesiynau cylchdro, gan roi cyfle i gyfranogwyr glywed gan siaradwyr ysbrydoledig, cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol a siarad yn uniongyrchol â chyflogwyr am realiti gweithio ym maes gofal iechyd.

Roedd adeilad Nant yn gefndir priodol, gyda’i wardiau ysbyty efelychiedig safon y diwydiant a’i gyfleusterau addysgu arbenigol a gafodd eu dylunio i baratoi myfyrwyr ar gyfer amgylcheddau gwaith go iawn.

Dywedodd Dr Steven Peacock, Is-bennaeth ar gyfer STEM ac Astudiaethau Academaidd yng Ngholeg Cambria: “Nod Arwyr Gofal Iechyd ydy dangos pobl ifanc sut beth ydy gyrfa yn y sector yma a rhoi’r hyder iddyn nhw i ystyried cyfleoedd efallai dydyn nhw heb feddwl amdanyn nhw o’r blaen.

“Mae yna amrywiaeth anferth o swyddi ar gael, a digwyddiadau fel hyn i ddod â’r cyfleoedd hynny yn fyw. Mae cyfarfod â chyflogwyr, clywed eu profiadau a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol yn medru gwneud gwahaniaeth gwirioneddol pan mae myfyrwyr yn meddwl am eu camau nesa’.

“Rydyn ni’n ddiolchgar i Medr, ein cydweithwyr yng Nghynghrair Trydyddol Gogledd Cymru, y siaradwyr gwadd a’r cyflogwyr a gefnogodd y digwyddiad. Mae eu cyfraniad yn ein helpu ni i gysylltu addysg â’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.”

Roedd yr arddangosfa yn dilyn llwyddiant digwyddiadau blaenorol Arwyr Gofal Iechyd ac yn adlewyrchu’r pwyslais cynyddol ar gydweithio rhwng darparwyr addysg a chyflogwyr.

Yn gynharach eleni, gwnaeth Coleg Cambria gryfhau ei berthynas hir sefydlog â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy gytundeb a oedd yn canolbwyntio ar ehangu cyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ar draws y rhanbarth.

Mae Medr hefyd wedi cefnogi datblygiad y Ganolfan Sgiliau Uwch, menter ranbarthol ar wahân sy’n cynnwys Coleg Cambria a Phrifysgol Wrecsam, ac sydd wedi’i chynllunio i gryfhau cysylltiadau rhwng addysg a diwydiant ac ymateb i anghenion newidiol y gweithlu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Mae eich dyfodol yn dechrau yma!

Ceisiadau ar agor mewn...

Days
Hours
Minutes
Seconds