Background Splash

Cyhoeddi - 05/03/2026

A RISING Welsh food influencer and star baker was among the invited guests at a prestigious St David’s Day reception at 10 Downing Street

Aeth Naomi Griffiths, sy’n cwblhau ei phrentisiaeth ym Mecws Iâl Coleg Cambria yn Wrecsam, i’r dathliad, a ddaeth â ffigurau blaenllaw o fyd gwleidyddiaeth, chwaraeon, busnes a’r celfyddydau ynghyd i arddangos diwylliant, talent a chynnyrch y wlad.

“Roeddwn i’n meddwl mai jôc oedd o i ddechrau,” meddai Noami, gan gofio’r foment y cafodd hi ei gwahoddiad.

“Roedd rhaid i mi ddarllen yr e-bost ychydig o weithiau cyn i mi ei brosesu’n iawn. Roedd cael fy ngwahodd i rif 10 i gynrychioli Cymru yn anrhydedd anhygoel.

“Dwi dal ar ddechrau fy ngyrfa, felly roedd cael fy nghynnwys ochr yn ochr â phobl dwi wedi eu hedmygu am flynyddoedd yn swrrealaidd. Mae wedi gwneud i mi deimlo’n falch o fy nghynnydd ac am y gefnogaeth dwi wedi’i chael gan Goleg Cambria a’r gymuned leol.”

Aeth tua 120 o westeion i’r dathliad, gan gynnwys y Prif Weinidog Keir Starmer, aelodau o dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, y gantores glasurol Katherine Jenkins OBE, yr arwr rygbi Alun Wyn Jones a’r ddawnswraig broffesiynol Amy Dowden.

Cafodd adloniant ei ddarparu gan Gôr Meibion John’s Boys, gan sicrhau presenoldeb cadarn o Ogledd Cymru yn y digwyddiad yn Llundain.

Roedd bwyd a diod yn rhan o ddathliadau’r noson, gyda bwydlenni’n tynnu sylw at gynnyrch a diodydd o safon Gymreig gan gynhyrchwyr gan gynnwys Gwinllan Llanerch a Wrexham Lager.

Mae Naomi wedi adeiladu nifer fawr o ddilynwyr sy’n tyfu o hyd trwy ei llwyfan cyfryngau cymdeithasol Little Welsh Foodie, lle mae hi’n hyrwyddo pobi Cymreig, ryseitiau traddodiadol a busnesau lleol.

Yn ystod y dathliad cafod hi ffôn bwrpasol i dynnu lluniau y tu ôl i’r llenni, gan gynnig mewnwelediad i’w dilynwyr o du mewn i un o gyfeiriadau mwyaf eiconig y DU.

“Roedd yn ddathliad bythgofiadwy o bopeth sy’n gwneud Cymru mor arbennig,” ychwanegodd hi.

“Roedd sefyll yn yr ystafell a gweld cymaint o bobl Cymraeg mor ddawnus yn cael cydnabyddiaeth yn ysbrydoledig. Dwi’n gobeithio y bydd yn dangos i bobl ifanc eraill bod cyfleoedd fel hyn wir yn bosib.”

I weld y newyddion diweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost