main logo
Background Splash

Gan Alex Stockton

Cambodia1

Aeth ugain o fyfyrwyr Coleg Cambria ar daith heb ei hail i Gambodia, lle gwnaethon nhw addysgu sgiliau Saesneg i blant mewn Canolfan Addysg Atodol.

Gwnaeth y grŵp – o gyrsiau Cyfryngau ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol – gyflwyno pum awr o weithdai ar TGCh a sgiliau cyfryngau i 75 o fyfyrwyr ysgol uwchradd hefyd mewn sefydliad partner gyda Khmer New Generation Organization (KNGO).

Gwnaethon nhw chwarae gemau a chynnal gweithgareddau a chanolbwyntio ar sillafu, lliwiau a rhifau, gan sicrhau bod pawb yn mwyhau a chael hwyl.

Cafodd yr ymweliad ei drefnu mewn partneriaeth â Challenges Abroad, sy’n darparu ac yn arwain anturiaethau moesol i bobl ifanc yn fyd-eang, a Future Sense Cambodia.

Mae Cyfarwyddwr Cwricwlwm Therapïau Gofal Cambria, Julie Guzzo yn canmol y myfyrwyr am eu hymrwymiad ac angerdd am helpu eraill yn ystod y rhaglen, oherwydd gwnaethon nhw hefyd helpu i gasglu plastig a sbwriel ar ochrau ffyrdd a dysgu geiriau a dywediadau Cambodiaidd.

“Yn ystod eu hamser mi wnaethon nhw weithio ar eu prosiectau mawr terfynol, cynhyrchu ffilmiau byr, flogiau, datblygu sgiliau ffotograffiaeth ac ymdrochi eu hunain mewn diwylliant ac amgylchedd amrywiol,” meddai hi.

“Mi wnaethon nhw gadw mewn cyswllt gyda phawb adre hefyd gan bostio diweddariadau bob dydd ar gyfryngau cymdeithasol ac mi wnaethon nhw gynhyrchu fideo hyrwyddo ysbrydoledig Lliwiau Cambodia gyda chlipiau o’r daith.

“Roedd yn brofiad anhygoel i bawb, ac yn enghraifft arall o ba mor werthfawr ydy tyfu ein partneriaeth gyda Challenges Abroad, sydd wir yn gwneud gwahaniaeth mawr ar draws y byd.”

Dywedodd y dysgwyr bod y daith yn “emosiynol iawn” gan fod eu bod nhw wedi gweithio gyda’r “plant mwyaf hyfryd a charedig erioed”, “profiad hollol anhygoel” “aethon ni y tu hwnt i’r hyn roedden ni’n gyfforddus gyda”.

Mae’r coleg – sydd â safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a Llaneurgain – hefyd wedi trefnu alldeithiau addysgol i Sbaen, Fietnam a’r Eidal dros y misoedd diwethaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost