Background Splash

Cyhoeddi - 11/06/2026

Hundreds of Learners Explore Future Careers at Our Employer Engagement Events

Wedi’u cynnal yn safleoedd Iâl Wrecsam a Glannau Dyfrdwy’r coleg, daeth y sesiynau llawn dop â thua 500 o ddysgwyr 16–18 oed ynghyd ag ystod eang o sefydliadau’r sector cyhoeddus a phreifat.

Rhoddodd y sesiynau gyfle i fyfyrwyr siarad yn uniongyrchol â chyflogwyr, archwilio llwybrau gyrfa yn y dyfodol, a chael cipolwg ar brentisiaethau, profiad gwaith, cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth sydd ar gael ledled y rhanbarth.

Ymhlith y sefydliadau a gymerodd ran roedd Iceland Foods, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Derwen Joinery Limited, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM, Heddlu Gogledd Cymru, Prysmian, Haven, Byddin Prydain a’r RAF.

Dywedodd Gari Thomas, Rheolwr Ymgysylltu â Chyflogwyr yng Ngholeg Cambria: “Mae’r digwyddiadau hyn yn hynod bwysig oherwydd eu bod yn rhoi cyfle i ddysgwyr ymgysylltu’n uniongyrchol a dechrau meddwl o ddifrif am eu gyrfaoedd a’u llwybrau dilyniant yn y dyfodol.

“Roedd yn hyfryd gweld cymaint o gyflogwyr yn y sector preifat a chyhoeddus yn rhoi o’u hamser i siarad â dysgwyr, ateb cwestiynau a rhannu eu profiadau ar draws amrywiaeth mor eang o broffesiynau.”

Ychwanegodd: “Rydym am i gyflogwyr weld Coleg Cambria fel partner agored a hygyrch. Mae cymaint o ffyrdd i ymgysylltu â’n dysgwyr, boed drwy ddigwyddiadau gyrfaoedd, sgyrsiau diwydiant, profiad gwaith, lleoliadau, prentisiaethau neu gymorth recriwtio.”

“Roedd y brwdfrydedd gan ddysgwyr ar draws y ddau safle yn wych i’w weld – fe ddangosodd pa mor werthfawr ydy’r cyfleoedd yma wrth feithrin hyder, ehangu gorwelion a helpu pobl ifanc i gydnabod y gwahanol lwybrau sydd ar agor iddyn nhw.”

Mae Coleg Cambria yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu â chyflogwyr drwy gydol y flwyddyn academaidd, wedi’u teilwra i feysydd cwricwlwm a diwydiannau penodol, gan gysylltu dysgwyr â sefydliadau sy’n cyd-fynd â’u huchelgeisiau gyrfa. Mae’r coleg bellach yn cynllunio digwyddiadau pellach sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd, profiad gwaith a lleoliadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf wrth iddo barhau i gryfhau cysylltiadau cyflogwyr rhanbarthol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Hwb Cyflogwyr Coleg Cambria neu dilynwch Goleg Cambria ar gyfryngau cymdeithasol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost