BUSNES, RHEOLI AC ARWAIN

Mae cyrsiau Busnes, Rheoli ac Arwain yng Nghanolfan Brifysgol Cambria wedi’u hanelu at y rhai sydd mewn cyflogaeth briodol am dros 30 awr yr wythnos. Ochr yn ochr â gweithio byddwch yn cael eich rhyddhau o’r gwaith am y dydd i Ysgol Fusnes Cambria a fydd yn eich darparu gyda’r cymhwyster/cymwysterau i ddatblygu eich gyrfa ymhellach.

Wrth astudio yn yr Ysgol Fusnes ar safle Llaneurgain Coleg Cambria byddwch yn dysgu amrywiaeth o sgiliau mewn marchnata, adnoddau dynol, cyfrifeg a rhagor. Wrth fynd i’r afael â chwrs gyda Chanolfan Brifysgol Cambria efallai y byddwch yn dewis datblygu eich gyrfa mewn cyfrifeg, marchnata, logisteg neu ddiwydiant arall.

Cliciwch ar gwrs isod i weld y gofynion mynediad a darganfod rhagor am yr hyn y mae ein cyrsiau busnes, rheoli ac arwain yn eu cynnig.

Siaradwch â'r tîm

Os hoffech chi siarad â’n darlithwyr profiadol, ffoniwch neu anfonwch e-bost at ein tîm heddiw a threfnu sgwrs.

mail svg

ebost

he@cambria.ac.uk

Ymweld â'n Galeri

Dewch i gael cip o amgylch y safle a gweld sut beth yw astudio gyda ni yng Nghanolfan Brifysgol Cambria neu dysgwch ragor am Ganolfan Brifysgol Cambria a’n cyfleusterau o’r radd flaenaf.

Astudiaethau Achos
A profile picture of a student

Jac Hughes

Yn astudio – Gradd Rheoli Busnes Cymhwysol

Ar hyn o bryd – Yn cael ei gyflogi gan Airbus UK

“Agwedd orau fy nghwrs yw ei fod yn caniatáu i mi astudio’n rhan-amser gan roi hyblygrwydd i mi weithio o amgylch astudiaethau academaidd. Mae gallu cymhwyso fy nysgu yn uniongyrchol i fy ngwaith wedi cynnig cyfle unigryw i mi.

“Mae’r darlithwyr yn barod iawn i helpu ac maen nhw bob amser yn gwneud ymdrech i fy nghefnogi. Mae’r cyfleusterau’n wych ac yn cynnig amgylcheddau unigryw ar gyfer gweithio.

“Mae’r cwrs wedi rhoi cyfleoedd dysgu amrywiol i mi ym maes busnes ac wedi gwella fy ngwybodaeth o’r pwnc yn aruthrol. Bydd hyn yn y dyfodol yn fy nghefnogi i gyflawni fy uchelgais gyrfaol o ddod yn arweinydd”.

Dangos Rhagor
Krzysztof Folta

Krzysztof Folta

Astudio – Gradd Rheolaeth Fusnes Gymhwysol

Ar hyn o bryd – Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn Coleg Cambria 2026

“Nid yn unig y mae Coleg Cambria yn cynnig cyfleusterau anhygoel ac amgylchedd llawn cymorth ar gyfer dysgu a datblygu, ond hefyd mae criw gwych o ddarlithwyr sy’n cyfuno profiad diwydiant ag ymagwedd academaidd gref at y cwrs a bob amser yn frwdfrydig iawn am y pwnc.

Mae’r coleg yn cynnig ystod eang o gyrsiau, felly mae siarad â rhywun i weld beth sydd ar gael a pha gwrs neu gymhwyster sydd fwyaf addas i’ch cynlluniau a’ch amgylchiadau yn y dyfodol yn ddefnyddiol iawn.

Ar ôl fy mhrentisiaeth dwi’n gobeithio sicrhau rôl barhaol amser llawn yn Airbus, mae astudio fy ngradd yn y coleg yn caniatáu imi wneud cysylltiadau rhwng yr amgylchedd gwaith a damcaniaethau ac mae datblygu cysylltiadau o’r fath yn fy helpu i ddeall y busnes, y diwydiant ehangach a byd masnach yn well.

Mae cael fy enwebu fel dysgwr Addysg Uwch y flwyddyn yn rhywbeth dwi’n hynod ddiolchgar amdano a bydd yn bendant yn brofiad y byddaf yn meddwl yn ôl arno gyda gwên. Diolch i’m holl ddarlithwyr, fy nghyflogwr a’r coleg am gyfle mor anhygoel!”

Dangos Rhagor
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
25/11/2026

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
26/11/2026

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Mae eich dyfodol yn dechrau yma!

Ceisiadau ar agor mewn...

Days
Hours
Minutes
Seconds