Home > Canolfan Brifysgol > Gweld Pob Maes Pwnc > Mynediad i Addysg Uwch
MYNEDIAD I ADDYSG UWCH
Mynediad i Addysg Uwch
Mae cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yng Nghanolfan Brifysgol Cambria yn cynnig llwybr blwyddyn i astudio lefel gradd. Gall astudio cymhwyster Mynediad arwain at yrfa lwyddiannus gyda llawer o’r myfyrwyr yn mynd ymlaen i’r brifysgol ac yn dilyn gyrfaoedd newydd doedden nhw byth yn meddwl oedd yn bosibl.
Os wnaethoch chi adael yr ysgol heb y cymwysterau arferol fel TGAU neu Safon Uwch, efallai dyma’r cwrs i chi. Mae’r rhaglenni Mynediad i Addysg Uwch am ddim ac yn eich paratoi ar gyfer astudio yn y dyfodol, p’un ai rydych yn chwilio am ffordd i gael gyrfa mewn nyrsio, bydwreigiaeth neu raglenni gradd eraill yn y brifysgol, mae gennym rywbeth i’ch rhoi chi ar y trywydd iawn.
Rydym yn cynnig gwahanol ffyrdd i astudio ein cyrsiau Mynediad. Mae dewis y modd a fydd fwyaf addas ar gyfer eich dull dysgu ac amgylchiadau personol yn bwysig. Hefyd mae gennym gyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi ac Ionawr.
‘YN YSTOD Y DYDD’ – Mae’r llwybr hwn yn cael ei gynnal dros 4 diwrnod ar safle 9.30am – 2.30pm. Gyda’r dewis hwn mae’r holl addysgu’n cael ei wneud trwy addysgu wyneb yn wyneb ar safle.
‘CYFUNOL’ – Mae’r llwybr hwn yn gofyn i chi fynd ar y safle un diwrnod 9.15 – 6.30pm, a bydd gweddill y cwrs yn cael ei gyflwyno trwy e-ddysgu i chi gwblhau yn eich amser eich hun yn ystod yr wythnos.
Rydym yn cynnig cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yn y meysydd canlynol:
- Gofal Iechyd (opsiynau dysgu yn ystod y dydd & cyfunol)
- Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol (yn ystod y dydd a chyfunol)
Am ragor o fanylion dewiswch gwrs isod i weld y proffiliau cwrs.
Pa Gyrsiau Sydd Ar GaelDiploma Mynediad i Addysg Uwch Lefel 3 - Gwaith Cymdeithasol, Proffesiynau Addysg, Cwnsela, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol
- 01/09/2026
- Iâl
Mynediad Cyfun i Addysg Uwch (AU) - Gofal Iechyd
- 03/09/2026
- Glannau Dyfrdwy
Mynediad Cyfun i Addysg Uwch (AU) - Gofal Iechyd (Dechrau yn Mis Medi)
- 03/09/2026
- Iâl
Mynediad i AU - Gofal Iechyd
- 01/09/2026
- Iâl
Mynediad i AU - Gofal Iechyd
- 01/09/2026
- Glannau Dyfrdwy
Diploma Mynediad i Addysg Uwch Lefel 3 - Gwaith Cymdeithasol, Proffesiynau Addysg, Cwnsela, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol
- 01/09/2026
- Iâl
Mynediad Cyfun i Addysg Uwch (AU) - Gofal Iechyd
- 03/09/2026
- Glannau Dyfrdwy
Mynediad Cyfun i Addysg Uwch (AU) - Gofal Iechyd (Dechrau yn Mis Medi)
- 03/09/2026
- Iâl
Mynediad i AU - Gofal Iechyd
- 01/09/2026
- Iâl
Mynediad i AU - Gofal Iechyd
- 01/09/2026
- Glannau Dyfrdwy
Ez Young
Astudiais – Cwrs Lefel 3 Mynediad i Addysg Uwch – Gwyddorau Cymdeithasol a’r Dyniaethau
“Fy hoff beth am astudio yng Ngholeg Cambria yw bod y tiwtoriaid mor garedig, doniol, a pharod i helpu a deall. Roedd Coleg Cambria yn gwneud i mi deimlo fy mod yn cael cefnogaeth dda, boed hynny yn yr ystafell ddosbarth neu y tu allan iddi, ac rwy’n hynod ddiolchgar am hynny.
Fy ngobeithion ar gyfer y dyfodol yw graddio gyda gradd mewn cerddoriaeth a chynhyrchu sain, a dechrau’r broses o sefydlu fy ngwasanaeth therapi cerdd fy hun (i gefnogi unigolion eraill fel fi gyda’u hiechyd meddwl). Mae Coleg Cambria wedi cefnogi fy uchelgeisiau drwy gynnig anogaeth ac arweiniad, yn yr ystafell ddosbarth ac y tu allan iddi. Rhoddodd y coleg fwy o bobl y gallaf ymddiried ynddynt i mi; gwnaeth hynny wahaniaeth enfawr i fy mhrofiad dysgu, a’m helpodd i lwyddo yn y cyrsiau a’r cymwysterau a wneuthum.
Yn onest, rwy’n teimlo’n anrhydeddus iawn, ond ni allaf gredu fy mod wedi ennill gwobr i fyfyrwyr; rwy’n ddiolchgar iawn bod fy nhiwtoriaid wedi fy newis i dderbyn y wobr. Ni allaf ddiolch digon iddynt am yr holl gefnogaeth y maent wedi’i rhoi i mi drwy gydol y flwyddyn. Hoffwn hefyd ddweud pa mor ddiolchgar ydw i am yr holl gefnogaeth rwyf wedi’i chael y tu allan i’r ystafell ddosbarth hefyd. Byddaf wir yn gweld eisiau pawb pan fyddaf yn gadael!
Byddwn yn dweud wrth rywun sy’n ystyried gwneud cais i Goleg Cambria ei fod yn lle sy’n cynnig llawer o gefnogaeth, ac y dylen nhw fwrw ati.”
Ashley Littlemore
Astudiais – Lefel 3 Meddalwedd TG, y We a Thelathrebu i Weithwyr Proffesiynol
Ar hyn o bryd – Yn gweithio yn CSA Group
Y peth gorau am astudio yn Cambria fel dysgwr yn y gweithle yw’r gallu i ennill arian ac astudio ar yr un pryd; mae hefyd yn rhoi amser i mi ganolbwyntio ar bob agwedd ar fy mywyd.
Os ydych chi’n ystyried gwneud cais i Goleg Cambria, gwnewch yn siŵr ei fod yn gwrs sydd o ddiddordeb i chi ac yr ydych yn angerddol yn ei gylch, oherwydd pan fyddwch chi’n angerddol am rywbeth, mae astudio yn llawer haws.
Ar gyfer y dyfodol, rwy’n gobeithio cael swydd amser llawn ym maes Cymorth Technegol – bydd fy amser yn Cambria yn fy helpu gyda hyn gan ei fod wedi rhoi’r hyder i mi fynd ar drywydd fy mreuddwyd, sef gweithio yn y diwydiant TG.
Mae’n teimlo’n wych ennill Gwobr Myfyrwyr, gan nad oeddwn i’n disgwyl hynny o gwbl!
Cwestiynau Cyffredin
Os ydych chi’n gobeithio astudio yn y brifysgol ac yn 19 oed neu’n hŷn ond nid oes gennych chi’r cymwysterau ffurfiol, yna bydd Diploma Mynediad i AU yn eich darparu gyda’ch cymhwyster sydd ei angen arnoch chi.
Gallwch weld rhagor o fanylion am gyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yn Cambria ar ein sianel YouTube – Cyflwyniad i gyrsiau Mynediad i AU
Mae Diploma Mynediad i AU yn agored i unrhyw un sy’n 19 oed neu’n hŷn.
Os wnaethoch chi adael yr ysgol heb gymwysterau Safon Uwch neu gymhwyster cyfwerth ond rydych chi’n penderfynu eich bod chi eisiau mynd i’r brifysgol, mae Diploma Mynediad i AU yn ddatrysiad perffaith!
Gan fod Coleg Cambria wedi’i leoli yng Nghymru mae’r cyrsiau Mynediad i AU sy’n cael eu cynnig am ddim gan eu bod wedi’u hariannu’n llawn.
Byddai hyn yn dibynnu ar y math o gwrs rydych chi wedi cofrestru arno. Er enghraifft, mae cyrsiau yn ystod y dydd fel arfer yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr fod ar y safle 4 diwrnod yr wythnos, ond gall y rhai ar gwrs cyfunol fod ar y safle 1 diwrnod yr wythnos yn unig gydag 8 awr yn cael eu darparu o gartref. Fel arall, rydym yn cynnig fersiwn ar-lein sy’n gwbl ddysgu o bell.
Byddai eich amserlen ar gael cyn i chi ddechrau ar unrhyw gwrs i sicrhau digon o amser i wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol i sicrhau y gallwch chi fod yn bresennol.
Bydd cwrs Mynediad yn eich galluogi i ennill pwyntiau UCAS yn yr un modd â chyrsiau Safon Uwch neu ymarferol. Mae uchafswm o 144 o bwyntiau UCAS y gellir eu hennill o astudio Mynediad i AU.
Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion y DU yn derbyn cymwysterau Mynediad i AU. Mae nifer o’n dysgwyr Mynediad yn y gorffennol wedi symud ymlaen i astudio cwrs lefel Gradd mewn prifysgolion cydnabyddedig.
Gellir defnyddio cymhwyster mynediad i fynd i’r brifysgol am hyd at 3-5 mlynedd. Mae hyn oherwydd datblygiadau mewn diwydiannau a newidiadau yn y cwricwlwm.
Gall ein cyrsiau Mynediad i Ofal Iechyd arwain at yrfa mewn nyrsio gydag addysg bellach ar lefel Gradd.
Gall ein cyrsiau Mynediad i Ofal Iechyd arwain at yrfa mewn bydwreigiaeth gydag addysg bellach ar lefel Gradd.
Os mae gennych chi gymhwyster lefel 3+ gallwch chi astudio cwrs Mynediad. Efallai y bydd hyn yn opsiwn da i’r rhai sy’n gobeithio newid gyrfa.
Fideos Mynediad i AU
Ymweld â'n Galeri
Dewch i gael cip o amgylch y safle a gweld sut beth yw astudio gyda ni yng Nghanolfan Brifysgol Cambria neu dysgwch ragor am Ganolfan Brifysgol Cambria a’n cyfleusterau o’r radd flaenaf.