Background Splash

Cyhoeddi - 20/07/2026

Siemens Healthineers building for a news post

Bydd y Coleg yn cydweithio â Siemens Healthineers yn Llanberis gyda mwy na 40 o weithwyr yn cymryd rhan mewn prentisiaethau Lefel 3 i Lefel 5 a rhaglenni datblygu proffesiynol yn cael eu cynnig ar y safle o’r haf hwn ymlaen, gan greu llwybrau dysgu wedi’u teilwra o amgylch anghenion y busnes a’i weithlu.

Mae’r bartneriaeth yn tynnu sylw at enw da parhaus Cambria mewn darparu cyfleoedd hyfforddi sy’n hyblyg ac yn cael eu harwain gan gyflogwyr ac sy’n helpu sefydliadau i ddatblygu talent, cryfhau’r gallu i arwain a chreu proses o ddatblygu arweinwyr ar gyfer y dyfodol.

Gyda chymorth y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol mae’r rhaglen yn ymateb i ymrwymiad Siemens Healthineers mewn buddsoddi yn ei phobl, cryfhau gallu rheoli a chreu cyfleoedd clir i weithwyr ddatblygu yn eu gyrfa.

Meddai Jane Keys, Pennaeth Cynorthwyol ar gyfer Ymgysylltu â Chyflogwyr yng Ngholeg Cambria: “Rydyn ni’n gweld galw cynyddol gan gyflogwyr sy’n chwilio am raglenni datblygu’r gweithlu sy’n hyblyg ac wedi’u teilwra’n arbennig ac sy’n cyd-fynd â’u gofynion gweithredol.

“Cysylltodd Siemens Healthineers o Lanberis â ni i drafod y rhaglenni arwain a rheoli sydd ar gael trwy ein Hysgol Fusnes yn Llaneurgain ac fe ddaeth yn amlwg yn reit sydyn fod cyfle i greu rhywbeth a oedd yn bodloni eu gofynion penodol.

“Roedden nhw eisiau darparwr hyfforddiant a allai ymateb i’w gofynion yn ogystal â bod yn hyblyg, ac roedden ni’n gallu datblygu rhaglen y gellir ei chyflwyno ar y safle, gan wneud y broses ddysgu mor hygyrch â phosibl i’w timau gan leihau’r amser y byddai gweithwyr i ffwrdd o’u gweithle.

“Mae’n enghraifft wych o sut y gallwn ni weithio mewn partneriaeth gyda chyflogwyr i ddatblygu sgiliau o bwys sy’n elwa’r unigolion a’r busnesau.”

Mae’r coleg – sydd hefyd â safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy a Llysfasi – yn cynnig ystod eang o gymwysterau proffesiynol, prentisiaethau a rhaglenni datblygu proffesiynol parhaus i gyflogwyr yn y sectorau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector.

Os ydyn nhw’n cael eu cyflwyno ar un o safleoedd y coleg neu’n uniongyrchol yn y gweithle, mae rhaglenni wedi’u teilwra i ofynion busnes unigol, gan wneud yn siŵr bod dysgu yn hygyrch, yn berthnasol ac yn cyd-fynd ag amcanion strategol.

Dywedodd Jo Swanston, Partner Busnes AD yn Siemens Healthineers Llanberis: “Mae’r rhaglenni hyn yn hanfodol wrth gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus ar draws ein gweithlu ac maent yn cyd-fynd yn agos â’n hymrwymiad i fuddsoddi yn ein pobl fel prif ysgogydd llwyddiant sefydliadol.

“Drwy gyfarparu gweithwyr gyda’r arbenigedd technegol a’r gallu i arwain, rydyn ni’n cryfhau ein dewis o dalent yn fewnol ac yn gwella ymgysylltiad yn ogystal â chadw gafael ar ein gweithwyr, ac yn sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda i ddiwallu gofynion y busnes ar gyfer y dyfodol.

“Mae’r ffocws ar lwybrau datblygu strwythuredig hefyd yn helpu i greu cyfleoedd clir ar gyfer dilyniant mewn gyrfa yn ogystal â helpu i gynllunio olyniaeth, ac yn ein galluogi i adeiladu gweithlu cadarn sy’n perfformio i safon uchel ac yn gallu addasu i amgylchedd gofal iechyd sy’n esblygu ac sy’n gallu parhau i gyflawni canlyniadau o safon uchel.

“Mae darparu hyfforddiant ar y safle yn ei gwneud yn llawer mwy hygyrch i’n gweithwyr ac yn lleihau’r aflonyddwch i weithrediadau o ddydd i ddydd. Mae hefyd yn golygu profiad dysgu mwy ymatebol ac integredig.”

Ychwanegodd Jane: “Boed hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar un o’n safleoedd neu’n uniongyrchol yn y gweithle, rydyn ni’n gweld galw cynyddol gan gyflogwyr am raglenni hyblyg sydd wedi’u teilwra ac sy’n cyd-fynd â’u hamcanion busnes ac anghenion eu gweithlu.

“Ein rôl ni ydy gwrando, deall yr heriau y mae sefydliadau’n eu hwynebu a datblygu atebion hyfforddi sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w pobl, eu perfformiad a’u twf yn y dyfodol.”

Ewch i www.cambria.ac.uk am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Ewch i wefan Siemens Healthineers i gael rhagor o wybodaeth: Siemens Healthineers.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost