Background Splash

Cyhoeddi - 24/02/2026

A KNIFE crime campaigner whose son was killed in a tragic case of mistaken identity just yards from their family home delivered a deeply moving and inspiring talk to students in Wrexham.

Siaradodd Pooja Kanda gyda hyd at 120 o ddysgwyr yn y Sefydliad Technoleg – rhan o safle Ffordd y Bers Coleg Cambria – yn ystod dwy sesiwn ymwybyddiaeth, gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn.

Rhannodd Pooja stori dorcalonnus ei mab Ronan, a oedd yn 16 oed pan gafodd ei lofruddio yn Wolverhampton yn 2022 ar ôl i ymosodwyr ei gamgymryd am rywun arall.

“Nid Ronan oedd y targed, ond cafodd ei fywyd ei gipio oddi wrtho,” dywedodd hi wrth yr ystafell.

“Deg cam arall ac mi fyddai wedi cyrraedd adre’. Roedd yn achos o gamgymeriad hunaniaeth.”

Disgrifiodd sut roedd Ronan wedi mynd allan i weld ffrind ar ôl gorffen ei arholiadau TGAU, trît bach ar ôl wythnosau o waith caled.

“Mi wnaeth o byth weld ei ganlyniadau TGAU. Mi wnes i. Cafodd raddau A ac mi wnaeth o weithio mor galed i’w cael nhw, codi 6am i adolygu,” meddai hi.

“Roedd Ronan yn fab delfrydol. Roedd o’n boblogaidd iawn, yn garedig, a doedd o byth ofn bod yn y fersiwn cryfa’ o’i hun.”

Roedd Ronan yn gefnogwr CPD Lerpwl, ac yn adnabyddus am ei hiwmor ac am fod yn agos atoch chi.

Ychwanegodd Pooja: “Roedd fy mywyd yn anhygoel ac yn llawn chwerthin. Yna collais fy mab, a fy hun. Mae’r trawma dwi’n ei deimlo o’r diwrnod hwnnw hyd heddiw 100% yn hunllef – mae’r ffilm arswyd rydych chi’n ei wylio yn realiti i mi.”

Esboniodd hi nad oedd hi’n ymwybodol o raddfa droseddau â chyllyll yn ei chymuned tan y noson honno.

“Pan ddigwyddodd hyn, doedd gen i ddim syniad fod gennym ni gymaint o broblem. Roedd rhaid i mi chwilio ar-lein i ddarganfod beth oedd machete. Dydy pobl ddim yn meddwl y gallai ddigwydd iddyn nhw. Roeddwn i’n meddwl hynny hefyd, ac roeddwn i mor anghywir.”

Gan ddal sylw yn yr ystafell gyda dewrder a gonestrwydd, siaradodd Pooja am sut y daeth ei galar yn ymgyrch dros newid, gan ddechrau gyda deiseb, gorymdaith a lobïo’r Llywodraeth – gan gynnwys arweinydd yr wrthblaid ar y pryd Keir Starmer – a arweiniodd yn y pen draw at Gyfraith Ronan.

“Dechreuodd fy mrwydr y diwrnod hwnnw. Yr hyn dwi’n ei wneud, yr hyn dwi’n ymladd drosto, dwi’n gobeithio y bydd yn amddiffyn plant pobl eraill,” meddai hi.

“Bob tro dwi’n siarad fel hyn, dwi’n mynd drwy gymaint, ond mi wnâi wneud hyn eto ac eto os ydy’n eich atal chi rhag dod yn ddioddefwr. Fyddwn ni byth yn rhoi gorau i ledaenu stori Ronan a’i olau sy’n disgleirio.”

Anogodd Pooja ddysgwyr i aros yn ddiogel, cerdded i ffwrdd o berygl, a siarad â rhieni, athrawon neu’r heddlu os ydyn nhw byth yn teimlo’n bryderus.

“Beth sy’n bwysig ydy eich bod chi’n cerdded allan o’r drws heddiw ac yn gwneud gwahaniaeth yn eich bywyd,” ychwanegodd hi. “Mae un eiliad yn gallu newid popeth. Mae atal yn allweddol.”

Cafodd y cyflwyniadau eu harwain gan Karl Jackson, Pennaeth Cynorthwyol y Sefydliad Technoleg ac Arweinydd Safle Ffordd y Bers.

Diolchodd i Pooja am rannu stori Ronan a dywedodd: “Mae Pooja yn wirioneddol ysbrydoledig ac anhygoel. Daliodd ei dewrder a’i hangerdd yr ystafell o’r dechrau i’r diwedd, a bydd ei neges yn aros gyda’n dysgwyr.

“Ar ran pawb yng Ngholeg Cambria, hoffwn i ddiolch iddi am ddod ac am bopeth y mae hi’n parhau i’w wneud.”

Yn ystod ei hymweliad, gwelodd Pooja hefyd gerflun anhygoel y Ddraig Gyllyll ar y safle, gwaith celf wedi’i wneud â llaw sy’n dangos draig yn amddiffyn plentyn bach, sydd wedi’i hadeiladu o arfau wedi’u datgomisiynu wedi’u gan Heddlu Gogledd Cymru.

Wedi’i henwi’n ‘JohnFree’, cafodd y ddraig ei chreu mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam ac mae’n cynnwys cyllyll cegin, cleddyfau samurai a bidogau wedi’u weldio i mewn i fframiau dur.

Wedi’i oleuo yn y nos yn lliwiau cenedlaethol Cymru, mae’n sefyll fel atgof pwerus o’r effaith y gall troseddau cyllyll ei chael ar unigolion, teuluoedd a chymunedau, ac fel tystiolaeth i’r rhan y mae addysg a chydweithio yn ei chwarae mewn atal.

Am ragor o wybodaeth ac i gefnogi ymgyrch Pooja, ewch i ddarllen Stori Ronan a darllenwch flog Ymgynghoriad ar y system drwyddedu | Blog

Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria. 

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost