Cafodd Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, ei arwain o amgylch Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy fel rhan o ‘Wythnos y Colegau 2026’ Cymdeithas y Colegau, sydd eleni’n canolbwyntio ar y thema genedlaethol Sgiliau i Bawb
Croesawyd Mr Rowlands i’r coleg gan Gyfarwyddwr Datblygu’r Gymraeg, Llinos Roberts, cyn iddo ymweld â Chanolfan Gosmetoleg newydd y coleg. Yno cafodd gyfle i weld gweithgarwch sy’n canolbwyntio ar y gymuned, yng nghwmni Is-Bennaeth Astudiaethau Technegol, Vicky Edwards, a Natalie Connor, Is-Bennaeth Sgiliau Bywyd ac Addysg Oedolion. Cafodd hefyd gyfle i gwrdd â dysgwyr a chlywed ganddynt am eu profiadau.
Yn dilyn yr ymweliad dywedodd Mr Rowlands: “Mae Coleg Cambria yn chwarae rôl bwysig yng ngogledd-ddwyrain Cymru drwy helpu i uwchsgilio’r genhedlaeth nesaf a chydweithio â chyflogwyr i sicrhau bod ein heconomi leol yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol.
“Rwyf bob amser yn mwynhau cyfarfod â’r tîm yn y coleg, ac mae eu hymdrechion diweddaraf wedi creu argraff fawr arnaf.”
Mae’r Ganolfan Gosmetoleg wedi’i hadeiladu’n bwrpasol i helpu pobl sy’n aml yn wynebu rhwystrau wrth gael mynediad at driniaethau – gan gynnwys y rheini sydd â dementia, canser, awtistiaeth, symptomau’r menopos, heriau iechyd meddwl neu gyflyrau cymhleth eraill. Mae’n amgylchedd diogel a chroesawgar sy’n cynnig tawelwch meddwl i gleientiaid, gydag ystafelloedd triniaeth fodern, technoleg arloesol a staff arbenigol wedi’u hyfforddi i’r safon uchaf.
Ers agor yr adeilad, mae 180 o ddysgwyr wedi cael y cyfle i ddatblygu sgiliau therapi proffesiynol, clinigol a chyfannol, tra bod mwy na 125 o gleientiaid cymunedol wedi cael mynediad at driniaethau arbenigol a mentrau lles drwy ei Hwb Gosmetoleg.
Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Hosbis Tŷ’r Eos, Cynghrair y Menopos, Cymdeithas Alzheimer a mentrau Gwrth-Hiliol Cymru, mae’r Academi wedi gallu hyrwyddo tylino oncoleg a chyffyrddiad therapiwtig, triniaethau sy’n seiliedig ar y menopos, ymwybyddiaeth o salonau sy’n deall dementia, gofal cadarnhaol ar gyfer y gymuned LGBTQ+, ac ymarfer diwylliannol cymwys.
Yna aeth Mr Rowlands ymlaen i weld yr adran ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) a chwrdd â Chyfarwyddwr y Cwricwlwm, Sam Moore. Cafodd hefyd gyfle i siarad â’r dysgwyr am eu siwrneiau addysgol a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Yn ystod yr ymweliad, rhannodd dysgwyr cymunedol eu profiadau. Un o’r dysgwyr hyn oedd Jason Adams. Dechreuodd Jason astudio yn Nglannau Dyfrdwy ar ôl cael ei wneud yn ddi-waith o’i swydd yn Toyota ar ôl wyth mlynedd o wasanaeth, yn rhannol oherwydd bod arthritis yn cyfyngu ar ei allu i barhau â gwaith llaw.
Heb gymwysterau blaenorol mewn Saesneg a mathemateg, mae bellach yn anelu at symud ymlaen i gwrs Mynediad i Addysg Uwch gyda’r uchelgais o weithio ym maes gwaith cymdeithasol. Soniodd hefyd am ei benderfyniad i greu cyfleoedd newydd i’w deulu.
Wrth ddangos ei gwerthfawrogiad i’r AS, dywedodd y Pennaeth, Sue Price: “Roedden ni wrth ein bodd yn croesawu Sam i Lannau Dyfrdwy yn ystod Wythnos y Colegau. Roedd yn gyfle gwych i ddangos ehangder y gweithgareddau ar draws ein safle ac, yn bwysicaf oll, i ddathlu ein dysgwyr.
“Mae’r wythnos yn tynnu sylw nid yn unig at gyflawniadau Coleg Cambria, ond hefyd at y rôl hanfodol y mae’r sector addysg bellach yn ei chwarae wrth greu cyfleoedd a helpu pobl ym mhob cam o fywyd.”
Ychwanegodd y Prif Weithredwr, Yana Williams: “Diolch i Sam am ymuno â ni yn ystod dathliad cenedlaethol mor bwysig.
“Mae Wythnos y Colegau yn ein galluogi i daflu goleuni ar ein partneriaethau, ein heffaith ar gymunedau ac, yn bwysicaf oll, ar ein dysgwyr sy’n parhau i fod wrth wraidd popeth a wnawn.”