Home > CE
Diolch!
Diolch am wneud ymholiad am gwrs yn Cambria!
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd aelod o staff yn cysylltu â chi o fewn tri i bum diwrnod gwaith ar ôl i chi gyflwyno eich ymholiad a byddant yn cysylltu â chi dros y ffôn neu e-bost.
Byddwch yn gallu dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cwrs a p’un a yw’r cwrs yn addas i chi a’ch cynlluniau yn y dyfodol.
Gofynnwch gymaint o gwestiynau â phosibl, mae ein staff yn fwy na pharod i’ch helpu.
Pam y byddwn ni’n gofyn cwestiynau penodol i chi ar y ffôn o bosib
Ar yr alwad gydag aelod o staff, efallai y byddant yn gofyn i chi am sefyllfa eich cyflogaeth. Rydym yn gofyn hyn oherwydd efallai y byddwch yn gallu cael cyllid penodol gan y Llywodraeth i wneud eich cwrs yn fwy fforddiadwy neu GAEL EI ARIANNU hyd yn oed! Bydd y gwahanol opsiynau ariannu sydd ar gael i chi yn cael eu trafod gyda chi ar yr alwad.
Beth i wneud os nad ydych chi’n cael galwad gennym ni
Yn yr achos annhebygol na fyddwch yn clywed gan ein tîm o fewn tri i bum diwrnod gwaith, anfonwch e-bost at enquiries@cambria.ac.uk gyda’ch enw llawn, dyddiad geni a’r cwrs y gwnaethoch gysylltu â ni yn ei gylch.
Digwyddiadau Agored
Os hoffech chi ddod i’n Digwyddiadau Agored, sy’n cael eu cynnal ar draws ein holl safleoedd, darganfyddwch ragor yma neu gwiriwch isod am ragor o fanylion os ydynt ar gael.
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle gwych i siarad â’n tiwtoriaid am y cwrs/cyrsiau sydd o ddiddordeb i chi, gweld ein cyfleusterau a dysgu am y cymorth a fydd ar gael i chi pan fyddwch chi’n dechrau eich taith yn Cambria.
Ein Diwrnodau Agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a dysgu am yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.