Cymorth i Fyfyrwyr

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

A Welsh flag blowing in the wind
Bod yn Ddwyieithog yng Ngholeg Cambria

Yng Ngholeg Cambria rydym wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau dwyieithog a fydd yn arwain at yrfa a bywyd llwyddiannus.

Mae dwyieithrwydd yn agor drysau i chi yn y byd gwaith ac yn cynyddu eich cyflogadwyedd. Gall gyfoethogi eich bywyd cymdeithasol a gwella eich meddwl a’ch creadigrwydd hefyd.

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog

Os ydych chi wedi astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn yr ysgol, gallwch chi barhau i wneud hynny yng Ngholeg Cambria.

Mae llawer o’n cyrsiau’n cael eu cyflwyno’n ddwyieithog a gallant roi’r cyfle i chi barhau i ddatblygu eich sgiliau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Gallwch chi wneud y canlynol yn Gymraeg:

  • Cyflwyno gwaith ysgrifenedig a chael nodiadau dwyieithog
  • Astudio cyrsiau neu fodiwlau penodol
  • Cwblhau profiad gwaith mewn amrywiaeth o amgylcheddau lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad
  • Asesiadau, cyfweliadau mynediad, tiwtorialau, mentora a chyfarfodydd.
Datblygu eich Sgiliau Cymraeg

Os nad oes gennych chi sgiliau Cymraeg neu os hoffech chi ddatblygu eich sgiliau, mae llu o gyfleoedd i chi wella a magu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn eich maes pwnc.

Gallwch chi wneud y canlynol:

  • Cwblhau unedau sy’n berthnasol i’ch pwnc
  • Cwblhau cyrsiau blasu ar-lein
  • Mynd i ddosbarthiadau Cymraeg i ddatblygu eich sgiliau
  • Mynd i ddosbarthiadau Cymraeg i ddechreuwyr os nad oes gennych chi wybodaeth.

Os hoffech chi astudio yn Gymraeg neu ddatblygu eich sgiliau, gall ein tîm Cymraeg eich cefnogi chi wrth gynnig mentora ac arweiniad 1-1 i chi. Gallant eich helpu chi i wella eich sgiliau Cymraeg ysgrifenedig a gallant gyfieithu terminoleg a thermau technegol.

Hwyl yn Gymraeg

Mae gennym ystod o weithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol ar gael i chi eu mwynhau o wyliau Cymraeg i deithiau dros nos.

Mae ein Swyddog Cangen Cymraeg yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol ar bob safle ac yn cadw mewn cysylltiad trwy ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Diddordeb mewn Dysgu yn Gymraeg?

I wneud ymholiad am ddysgu yn Gymraeg, llenwch y ffurflen isod.

"*" indicates required fields

Full Name*
Known As
This field is for validation purposes and should be left unchanged.

Am ragor o fanylion cysylltwch â ni

Accessibility Tools
SunMonTueWedThuFriSat
303112345678910111213141516171819202122232425262728293012345678910