HNC Technoleg Drydanol ac Electronig

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP51313
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, Cwrs 2 flynedd – rhan-amser, Rhyddhau o’r gwaith am y Diwrnod.

Bydd gofyn i fyfyrwyr ar y cwrs hwn ymgymryd â chyfnodau hunanastudiaeth, yn ychwanegol at yr oriau a addysgir.

Bydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno drwy sesiynau wyneb yn wyneb ar Safle Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria.

Sylwch, lle nad yw’n bosib cwblhau lleoliadau gwaith oherwydd rhesymau diogelwch, byddwn yn addasu modiwlau i gynnwys prosiectau sy’n gysylltiedig â’r gwaith er mwyn i ni barhau i allu datblygu eich sgiliau yn y gwaith.
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
16 Sep 2025
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Cynigi’r HNC mewn Technoleg Electroneg yng Ngholeg Cambria (Campws Glannau Dyfrdwy), trwy gytundeb cydweithredol gyda Phrifysgol Wrecsam.
Mae’n cynnwys asudiaeth ran-amser dros dwy flynedd gyda rhyddhad un-dydd, lle fydd angen cwblhau modiwlau galwedigaethol-benodol.



Nod y rhaglen yw paratoi myfyrwyr ar gyfer ystod o yrfaoedd technegol, proffesiynol a rheolaethol uwch mewn peirianneg trwy ddarparu astudiaethau arbenigol sy'n berthnasol i'r galwedigaethau a'r proffesiynau hynny y mae myfyrwyr yn cael eu cyflogi ynddynt.

Mae HNCs yn gymwysterau meincnod ar gyfer Technegwyr Peirianneg, a gydnabyddir gan ddiwydiant ac sy'n hanfodol ar gyfer rhai swyddi yn Lluoedd EM. Mae ein cwrs HNC yn eich cyflwyno i hanfodion gwyddoniaeth peirianneg fecanyddol, sgiliau busnes a rheoli y bydd eu hangen arnoch i lwyddo ac yn rhoi cyfle i chi hogi eich sgiliau mathemateg a TG.

Mae hwn yn gwrs ar gyfer ymgeiswyr sy'n cael eu cyflogi mewn maes peirianneg perthnasol. Bydd yn ofynnol i gyflogwyr gefnogi eu gweithwyr gydag amser i fynychu’r cwrs a chynnal eu hastudiaethau, heb unrhyw ofyniad i’r oriau gael eu gwneud yn rhywle arall, na didyniadau mewn cyflog.


Modiwlau Blwyddyn 1

ENG447 - Electroneg
ENG430 - Dylunio Peirianneg
ENG429 - Gwyddoniaeth Electronig
ENG427 -Peirianneg Mathemateg
ENG438 - Offeryniaeth a Rheolaeth

Modiwlau Blwyddyn 2

ENG432 - Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy (20 credyd)
ENG426 - Technegau Busnes a Rheoli (20 credyd)
ENG503 - Prosiect (20 credyd)
ENG505 - Egwyddorion Trydanol ac Electronig (10 credyd)


I gael mynediad i gwrs HNC Technoleg Electroneg, dylai ymgeisydd llwyddiannus ddal:

Dilyniant o rhaglenni Lefel 3 Coleg Cambria

Lefel 3 – Dydd Rhyddhau – Cymwysterau mewn pwnc perthnasol (64 pwynt UCAS) wedi cyrraedd MM

neu

Lefel 3 – Diploma Estynedig – Cymwysterau mewn pwnc perthnasol (64 pwynt UCAS) wedi cyrraedd MPP

Ymgeiswyr Eraill

Profiad mewn maes cyfatebol, gyda chymwyster lefel 3.
Bydd rhain yn cael eu archwilio fesul achos, er mwyn pennu addasrwydd ar gyfer y cwrs.
Efallai bydd angen prawf mynediad ar-lein i ddadansoddi safon gwybodaeth mathemateg a pheirianeg fecanyddol.

neu

Safon Uwch (gyda UG ychwanegol) mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth, wedi cyrraedd AB (64 pwynt UCAS)


Cymysgedd o adroddiadau ysgrifenedig, cyflwyniadau, portffolios, gweithgareddau ymarferol ac arholiadau.
Ar ôl cwblhau’r cwrs, gallai’r dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau Addysg Uwch pellach megis Peirianneg Ddiwydiannol Sylfaen (FdEng) a’r radd BEng (Anrh).
£2,000 pob flwyddyn academaidd (24 / 26)
(£4,000 i gyd dros 2 flynedd 24 / 26)

Gallai ffioedd godi yn unol â chwyddiant ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy’n dechrau eu hastudiaethau yn 2025/26 neu 2026/27.

Defnyddiwch Brifysgol Wrecsam fel y Sefydliad ar eich cais Cyllid Myfyrwyr.

[Sylwch gall manyleb y cwrs hwn newid]

Nid oes angen gwig benodol.

Bydd pob dysgwr angen yr offer canlynol ar gyfer pob gwers o’r cwrs HNC:
Llyfr nodiadau
Pen a Phensil
Rheolydd
Cyfrifianell Wyddonol
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?