City & Guilds Diploma Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA07407
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, 15 mis.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli, Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Cyngor ac Arweiniad
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Gweinyddu Busnes yn galluogi'r dysgwr i ddatblygu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o sut i weithio a chyfathrebu mewn amgylchedd busnes a rheoli eu gwaith eu hunain a datblygiad proffesiynol. Byddant yn meithrin sgiliau mewn nifer o weithgareddau gweinyddol gan gynnwys rheoli gwybodaeth, cynorthwyo gyda chyfarfodydd a chynhyrchu dogfennau. Bydd y rhaglen yn helpu dysgwyr i ennill gwybodaeth ymarferol wrth ddarparu cymorth gweinyddol arferol a mwy cymhleth.

Mae cymwysterau Lefel 2 wedi'u hanelu'n gyffredinol at weinyddwyr, swyddogion iau, derbynwyr, derbynwyr meddygol, ysgrifenyddion cyfreithiol iau neu ysgrifenyddion meddygol iau.

Bydd asesiad cychwynnol manwl yn cael ei gynnal. Mae’r Tîm Asesu yng Ngholeg Cambria yn gweithio’n agos gyda busnesau, adrannau, rheolwyr a gweithwyr i gyflwyno cymwysterau wedi’u teilwra yn seiliedig ar swyddi unigol.

Bydd cymorth strwythuredig ar gael yn y gweithle a chymorth hyblyg yn y coleg.
Bydd cymorth gan yr asesydd dros y ffôn / e-bost ar gael hefyd.

Sesiwn ymsefydlu 1 x sesiwn 3 awr i gynnwys holiadur cyn y cwrs a chofrestru. Gellir teilwra’r asesiad o unedau i fodloni anghenion y dysgwr a’r cyflogwr a gellir ei gyflwyno yn y gweithle.
Pan fydd swydd dysgwr yn bodloni’r meini prawf efallai y gallant symud ymlaen i Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes.
I gael gwybod y gost, ffoniwch ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006
neu anfonwch e-bost at:employers@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost