Lefel 1 Sgiliau Rhagarweiniol mewn Adeiladu - Gosod Brics

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP87933
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
Adran
Gwaith Brics, Adeiladu a Gwaith Adeiladu, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Barod i adeiladu dyfodol cadarn? Y cwrs hwn yw eich cam cyntaf perffaith i'r diwydiant adeiladu, gan eich rhoi chi ar y llwybr i ddod yn osodwr brics medrus. Byddwch chi'n ennill yr hyder, y wybodaeth a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch chi ar gyfer gyrfa werth chweil.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu:
Mae'r rhaglen flwyddyn hon, syn cael ei chyflwyno dros dridiau'r wythnos, yn cyfuno profiad gweithdy ymarferol â dysgu hanfodol yn yr ystafell ddosbarth. Byddwch chi’n mynd i’r afael â:

*Iechyd, Diogelwch a Lles mewn Adeiladu
*Gweithio’n Effeithiol yn Niwydiant Adeiladu
*Ymwybyddiaeth o’r Amgylchedd
*Anheddau Preswyl sy'n Cael eu Hadeiladu
*Sgiliau Gosod Brics Sylfaenol
*Sgiliau Gosod Blociau Sylfaenol
*Adeiladu Waliau Ceudod
*Gwella eich Sgiliau Cyfathrebu a Rheoli Amser
*Cynllunio ar gyfer eich Gyrfa yn y Dyfodol
*Rhifedd a Llythrennedd yn y Diwydiant Adeiladu
*Gwneud Cais am Swyddi Adeiladu a Hunangyflogaeth yn y Diwydiant Adeiladu


Eich Taith Ddysgu a'ch Cymorth:
Rydyn ni yma i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd! Bydd gennych chi Anogwr Cynnydd a fydd yn gweithio gyda chi drwy gydol y rhaglen, gan sicrhau bod unrhyw anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu bodloni er mwyn i chi llwyddo. Bydd cyfle gennych i ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif. Bydd y cymwysterau hyn yn eich helpu chi i symud ymlaen i lefelau uwch o ddysgu.
Os byddwch yn gwneud cais o ysgol yng Nghymru: 4 TGAU gradd E neu uwch, gan gynnwys:

Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Iaith a Llenyddiaeth Cymraeg
(Gwobr Sengl neu Ddwbl)
A
Mathemateg a Rhifedd (Dyfarniad Dwbl)

Os byddwch yn gwneud cais o ysgol yn Lloegr: 4 TGAU gradd 2 neu uwch, gan gynnwys:

Iaith Saesneg
A
Mathemateg

I’r holl ddysgwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o Raglen Lefel Mynediad – rhaid eich bod wedi cyflawni eich prif gymhwyster, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd yr holl dargedau yn eich CDU.

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gyrchu cwrs lefel uwch.
Byddwch chi’n dysgu drwy amrywiaeth o asesiadau diddorol, gan gynnwys tasgau gweithdy ymarferol, adeiladu tystiolaeth portffolio ffotograffig, asesiadau ysgrifenedig diwedd uned, gwaith prosiect a thrafodaethau wedi’u recordio. Anogir dysgwyr i ddogfennu eu datblygiad a’u cynnydd eu hunain trwy dynnu lluniau o’u gwaith. Dylid anodi ffotograffau dysgwyr i ddangos eu dealltwriaeth o ganlyniadau dysgu a meysydd pwnc penodol.
Ar ôl cwblhau, byddwch chi wedi paratoi’n dda ar gyfer eich camau nesaf, boed hynny’n symud ymlaen i gwrs galwedigaethol lefel uwch, prentisiaeth, neu’n uniongyrchol i gyflogaeth. Gall y cwrs hwn agor drysau i gyfleoedd cyffrous ym maes adeiladu.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost