Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP01061 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs 1 blwyddyn llawn amser (5 diwrnod yr wythnos). |
Adran | Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 21 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Lluniwch eich Dyfodol: Rhaglen Peirianneg Uwch!
Ydych chi'n barod i ddilyn gyrfa ddeinamig mewn peirianneg neu symud ymlaen at addysg uwch? Mae'r cwrs Peirianneg Uwch hwn wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer dysgwyr fel chi sydd â’r bwriad o sicrhau Prentisiaeth Fodern a rhagori mewn Peirianneg Fecanyddol, Trydanol/Electronig, Awyrofod, neu Weithgynhyrchu.
Yr Hyn Fyddwch Chi'n ei Gyflawni
Yn ystod y rhaglen gynhwysfawr hon byddwch yn ennill dau gymhwyster uchel eu parch gan roi sylfaen gadarn i chi ar gyfer eich dyfodol:
Diploma Lefel 2 mewn Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg (PEO)
● Prototeipio Cyflym (Argraffu 3D)
● Cynnal Offer Mecanyddol
● Gosod a Phrofi Electroneg
● Iechyd a Diogelwch
● Gweithio’n Effeithlon ac yn Effeithiol mewn Peirianneg
● Cyfathrebu Gwybodaeth Dechnegol
Dyfarniad Lefel 3 BTEC mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch
● Mathemateg ar gyfer Peirianneg
● Cyfathrebu ar gyfer Peirianneg
● Egwyddorion Trydanol ac Electronig
● Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle Peirianneg
● Egwyddorion Mecanyddol
● Technoleg Drydanol
Byddwch hefyd yn cwblhau sgiliau hanfodol mewn Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd.
Canolbwyntio ar Gyflogaeth
Fel rhaglen Uwch mae ffocws amlwg ar eich paratoi ar gyfer cyflogaeth drwy gydol y flwyddyn. Byddwch yn derbyn sesiynau cymorth ychwanegol gyda thiwtoriaid arbenigol i ddatblygu eich CV ac i wella eich sgiliau cyfweliad. Bydd ein Siop Swyddi fewnol hefyd yn eich helpu i ddod o hyd ac i wneud cais am swyddi prentisiaeth gweithgar gyda'n cwmnïau partner.
Ennill Profiad yn y Byd Go Iawn
Mae'r rhaglen hon yn cynnig y fantais anhygoel o hyd at bum wythnos o brofiad gwaith a hynny o bosibl gydag un o'n cwmnïau peirianneg partner. Bydd y cyfle amhrisiadwy hwn yn rhoi blas i chi o’ch darpar yrfa posibl ac yn caniatáu ichi ddechrau rhwydweithio â chysylltiadau yn y diwydiant. Ond dylech nodi fod lleoliadau profiad gwaith o bosib yn digwydd yn ystod cyfnodau gwyliau coleg nodweddiadol (e.e., hanner tymor mis Hydref, y Pasg, ac ati). Er y bydd y coleg yn cynnig cefnogaeth i ddod o hyd i brofiad gwaith, mae dysgwyr yn gyfrifol am sicrhau eu lleoliadau eu hunain.
Yn barod i beiriannu eich llwyddiant?
Gwnewch gais rŵan a dechreuwch eich taith tuag at ddyfodol mwy disglair!

5 TGAU ar radd C/4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf),
Mathemateg (Mathemateg Lefel Uwch yn fuddiol) a Gwyddoniaeth.
Ni allwch ailsefyll eich arholiadau TGAU ochr yn ochr â’r cwrs hwn.
I fod yn gymwys i gael mynediad i’r rhaglen mae’n rhaid i ddysgwyr fod rhwng 16 a 24 oed ar 31 Awst.
Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.

Byddwch yn dangos eich cynnydd trwy gyfuniad o aseiniadau, profion, tasgau ymarferol a chwestiynau sy’n seiliedig ar wybodaeth.
Bydd eich Sgiliau Hanfodol hefyd yn cael eu hasesu’n barhaus drwy gydol y cwrs.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus byddwch yn agor drysau i amrywiaeth o gamau cyffrous:
● Prentisiaeth Peirianneg/Gweithgynhyrchu.
● Symud ymlaen i ddilyn cwrs Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC am flwyddyn bellach o astudio lle byddwch yn cwblhau 120 credyd pellach o unedau BTEC. Mae enghreifftiau o unedau’n cynnwys Mathemateg Bellach, Egwyddorion Mecanyddol Pellach, Egwyddorion Trydanol/Electronig Pellach, Prosiect Peirianneg, Astudiaethau Busnes Electroneg a Pheirianneg, ymhlith eraill.
● Bydd cwblhau’r Diploma Estynedig BTEC yn cefnogi dilyniant tuag
at ddechrau astudio Addysg Uwch yn llawn amser (Prifysgol).

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026