Diploma Lefel 1 mewn Gwaith Saer ac Asiedydd

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00299
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
Adran
Gwaith Saer ac Asiedydd, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Barod i adeiladu dyfodol cadarn? Y cwrs hwn yw eich cam cyntaf perffaith i'r diwydiant adeiladu, gan ganolbwyntio ar waith saer a gwaith asiedydd. Byddwch chi'n ennill y sgiliau a'r wybodaeth hanfodol i ddod yn saer coed neu'n asiedydd medrus.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu:
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu chi i ddatblygu hyder, gwybodaeth a sgiliau ymarferol mewn gwaith saer a gwaith asiedydd. Byddwch chi’n cael profiad ymarferol yn ein gweithdai ac yn ennill gwybodaeth ddamcaniaethol bwysig yn yr ystafell ddosbarth.

Dyma gipolwg ar yr hyn y byddwch chi'n ei astudio:
*Iechyd, diogelwch a lles mewn diwydiannau adeiladu a diwydiannau cysylltiedig
*Gweithio yn y maes adeiladu
*Ymwybyddiaeth amgylcheddol yn y maes adeiladu
*Cyrchu offer yn y maes adeiladu
*Anheddau preswyl yn y maes adeiladu
*Offer pŵer
*Sgiliau llaw saer
*Sgiliau saer ar safle
*Nwyddau dŵr glaw
*Gwaith coed

Bydd gennych chi’r cyfle i fynd i’r afael â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif Bydd y cymwysterau hyn yn eich helpu chi i symud ymlaen at lefelau uwch o ddysgu.

Eich Taith i Lwyddiant:
Drwy godol eich cwrs, byddwch chi’n cael eich cefnogi gan Anogwr Cynnydd a fydd yn eich helpu bob cam o'r ffordd. Byddan nhw'n sicrhau bod unrhyw gefnogaeth ddysgu sydd ei hangen arnoch chi ar waith, gan eich helpu chi i lwyddo. Mae'r cwrs hwn wedi'i gefnogi'n llawn i fodloni eich anghenion unigol a'ch gwahaniaethau dysgu.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, ac mae’n rhaid i ohonynt fod yn Fathemateg a Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith Gyntaf).

I ddysgwyr sydd am symud ymlaen i’r cwrs L1 hwn o raglen Mynediad, mae’n rhaid i chi fod wedi cyflawni eich prif gymhwyster, wedi symud ymlaen yn eich Mathemateg a’ch Saesneg, a bod wedi cyflawni’r holl dargedau yn eich cynllun dysgu unigol.

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Byddwch chi’n dangos yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu drwy amrywiaeth o asesiadau, gan gynnwys:

*Asesiadau ymarferol yn y gweithdy
*Arholiadau ysgrifenedig
*Arholiadau amlddewis ar-lein
*Gwaith prosiect
*Trafodaethau
*Gwaith portffolio
*Tystiolaeth ffotograffaidd
Ar ôl ei gwblhau, byddwch chi’n barod ar gyfer y camau nesaf cyffrous! Gallech chi symud ymlaen i gwrs galwedigaethol lefel uwch, ymuno â rhaglen TSC+, neu hyd yn oed ddod o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu. Mae’r cwrs hwn yn agor drysau i yrfa werth chweil!
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Chneifio Llysfasi a Diwrnod Agored
06/06/2026
Dewch i ymuno â ni ar ein safle Llysfasi ddydd Sadwrn 6 Mehefin ar gyfer ein diwrnod agored!

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost