Tystysgrif Lefel 2 Cynorthwywyr Twtio Cŵn

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA06300
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, Dydd Mawrth 9.30am – 2.45pm
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Dyddiad Dechrau
08 Sep 2026
Dyddiad gorffen
15 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r lefel hon yn ddelfrydol os ydych chi eisiau dechrau gweithio yn y diwydiant twtio cŵn, ac eisiau dysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio dan oruchwyliaeth mewn salon twtio cŵn.

Er mwyn ennill y cymhwyster hwn, mae’n rhaid i chi gyflawni ystod o unedau gorfodol.

Beth fydd y cwrs yn ei gynnwys?
● Paratoi a thwtio cŵn cyn eu golchi
● Golchi cŵn
● Sychu cŵn a’u paratoi ar gyfer steilio
● Trimio cotiau cŵn a’u paratoi ar gyfer steilio
● Symud a chodi cŵn
● Cynnal glendid a bioddiogelwch yr amgylchedd trin cŵn
● Ymddygiad proffesiynol
● Cyflwyniad i nodweddion anatomegol, nodweddion brîd ac ymddygiad cŵn

Mae’r cwrs wedi’i anelu at:
● Gweithwyr twtio cŵn heb gymhwyso
● Cyhmorthwyr twtio cŵn heb gymhwyso
● Pobl sy'n awyddus i ddilyn y llwybr gyrfa hwn o fewn y diwydiant gofal anifeiliaid
● Oedolion sy'n chwilio am newid gyrfa

Ein cwrs twtio cŵn yw’r cam cyntaf i ddod yn weithiwr twtio cŵn neu adeiladu ar yrfa bresennol yn y diwydiant. Bydd eich hyfforddiant yn canolbwyntio ar egwyddorion ac arferion technegau modern twtio cŵn.
Byddwch yn gweithio â nifer o fridiau a mathau o gotiau gan gynnwys, llyfn, byr, cyfuniad, gwlân,
sidanaidd, dwbl, blew hir a blew cras, gan sicrhau y gallwch eu paratoi ar gyfer eu steilio.
Byddwch yn datblygu sgiliau stripio â llaw, technegau siswrn sylfaenol a thechnegau clipio
sylfaenol fel rhan o’r cwrs hwn.

Mae’r salon yn llawn cyfarpar, gydag offer mwyaf poblogaidd y diwydiant. Bydd angen siaced twtio â logo arni - gweler y rhestr cit.

Bob blwyddyn, rydym yn ymweld â sioe gŵn fwyaf y byd ‘Crufts’, lle gallwch ymweld â ‘Discover
Dogs’ neu stondinau masnach yn yr NEC.

Mae’r cwrs Tystysgrif Lefel 2 i Gymhorthwyr Twtio Cŵn i unrhyw un sydd eisiau dechrau
gweithio yn y diwydiant. Nid oes angen unrhyw gymwysterau twtio cŵn blaenorol arnoch chi.
Er bod gweithio yn y diwydiant yn fantais, nid yw’n ofynnol.
Bydd asesiadau ymarferol a theori ar gyfer yr holl unedau gorfodol a dewisol. Bydd y cwrs yn cynnwys elfen arholiad hefyd.
Byddant yn casglu portffolio o dystiolaeth.
Dewisiadau Gyrfa.
● Cyflogaeth fel cymhorthydd twtio cŵn
● Diploma Lefel 3 mewn Twtio Cŵn
● Dechrau yn y diwydiant
● Gofal Anifeiliaid Lefel 2 neu 3
£1600.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Chneifio Llysfasi a Diwrnod Agored
06/06/2026
Dewch i ymuno â ni ar ein safle Llysfasi ddydd Sadwrn 6 Mehefin ar gyfer ein diwrnod agored!

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost