Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LA19226 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Rhan Amser, 8 wythnos – 02/03/27 – 04/05/27 |
Adran | Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol |
Dyddiad Dechrau | 02 Mar 2027 |
Dyddiad gorffen | 04 May 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r Dyfarniad Lefel 2 mewn Sgiliau Ffotograffiaeth yn cynnig y cyfle i gael golwg pellach ar hanfodion ffotograffiaeth mewn modd galwedigaethol ac yn seiliedig ar brosiect. Bydd y cwrs yn datblygu sgiliau i ddeall cyd-destunau ac ymagweddau ffotograffiaeth a nodweddion a rheoliadau ar gyfer systemau camera. Bydd yr ail uned yn ei galluogi i ddatblygu ymchwil a sgiliau ffotograffiaeth ymarferol wrth greu portffolio ffotograffiaeth.
Fel rheol bydd angen 4 TGAU neu ragor arnoch yn A*- D, neu gwblhau cymhwyster Lefel 1 perthnaso.
Mae’r cwrs yn cynnwys dwy uned a fydd yn cael ei asesu ar sail llwyddo/methu. Bydd yr holl asesiadau yn gofyn i chi greu portffolio gyda thystiolaeth o sgiliau ymchwil, ymarferol a gwerthuso. Byddwch yn cael eich asesu ar eich portffolio a’ch perfformiad ymarferol ac yn cyflawni cynyrchiadau galwedigaethol go iawn ar gyfer y ddwy uned.
Gall y cwrs arwain yn uniongyrchol at nifer o yrfaoedd ffotograffiaeth mewn priodasau a digwyddiadau, ffotonewyddiaduriaeth, ffasiwn, asiant eiddo masnachol a thirol, portread a theithio.
£175.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026