Cymhwyster Lefel 4 VTCT mewn Triniaethau Estheteg Uwch

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA20182
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, 16 wythnos o ddysgu cyfunol.
14.09.2026 – 18.01.27
Dydd Llun
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol
Dyddiad Dechrau
14 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jan 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei lywio gan gyflogwyr a safonau cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer harddwch esthetig ac wedi'i ddatblygu gan arbenigwyr technegol. Mae'n cynnwys yr holl elfennau sy'n ofynnol i weithio'n effeithiol fel ymarferydd esthetig cwbl fasnachol.

Rhaid i ddysgwyr gyflawni'r uned orfodol:
• Egwyddorion, ymarfer a moeseg therapïau esthetig uwch
• Ymgynghoriad ymchwiliol ar gyfer therapïau esthetig uwch
• Gwyddoniaeth croen ar gyfer therapïau esthetig uwch

Mae'n ofynnol i ddysgwyr fynd ymlaen i ddewis o leiaf 3 uned ddewisol:
- Gwella ymddangosiad gan ddefnyddio technegau dermablaenio
- Darparu triniaethau cosmetig nodwyddo’r croen
- Darparu triniaethau pilio’r croen
- Darparu triniaethau amledd radio
- Defnyddio systemau LASER i leihau twf gwallt
- Defnyddio systemau LASER i adnewyddu’r croen
- Defnyddio systemau Golau Pwls Dwys i leihau twf gwallt
- Defnyddio systemau Golau Pwls Dwys i adnewyddu’r croen

Sylwch: rhaid astudio Gwybodaeth Graidd ar gyfer Laser a Golau Pwls Dwys ar y cyd ag unrhyw uned Golau Pwls Dwys neu Laser.
Mae’n ofynnol i ddysgwyr feddu ar gymhwyster therapi harddwch rheoledig lefel 2 a 3 neu gyfwerth fel rhagofyniad ar gyfer y cymhwyster hwn.

Wedi’i anelu at ymarferwyr cymwys lefel 3 sy’n 18 oed a hŷn.
– Portffolio o dystiolaeth / Astudiaethau achos
-Aseiniadau
-Arholiadau damcaniaeth wedi’u gosod yn allanol
-Arholiad ymarferol wedi’i osod yn allanol.

Prif bwrpas y cymhwyster hwn ydy paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth fel ymarferydd esthetig sy’n darparu triniaethau esthetig uwch. Mae ystod a lled y cymhwyster hwn yn golygu ei fod yn paratoi dysgwyr i weithio mewn amrywiaeth eang o leoliadau gwaith fel salon, sba neu glinig.

£950.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost