Dyfarniad Lefel 2 CPCAB mewn Cyflwyniad i Sgiliau Cwnsela

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA99213
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, Cyflwynir y cwrs hwn dros 14 wythnos, 5:30 – 8:30pm – 18/02/2027 to 10/06/2027

Y tiwtor ydy neu Emma Riley.
Anfonwch e-bost emma.riley@cambria.ac.uk atos oes gennych chi unrhyw ymholiadau
Adran
Cwnsela, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Dechrau
18 Feb 2027
Dyddiad gorffen
10 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r cymwyseddau sylfaenol i ddysgwyr ddefnyddio sgiliau cwnsela yn foesegol ac yn ddiogel mewn amrywiaeth o gyd-destunau a swyddi.

Ar y cwrs hwn byddwch yn astudio pynciau gan gynnwys:
Sgiliau gwrando
Sefydlu ffiniau
Hunanymwybyddiaeth
Arfer adfyfyriol

Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer:
Pobl sy’n dymuno datblygu sgiliau cwnsela
Pobl sy’n dymuno gwella eu perthnasau proffesiynol a phersonol fel rhan o ddatblygiad personol.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn.

Bydd angen i ddysgwyr gwblhau portffolio o dystiolaeth yn ystod y cwrs hwn; cwblheir yr holl waith yn ddigidol gan ddefnyddio Google Suite a Google Classroom.

Mae ymrwymiad i fynychu yn hanfodol er mwyn bodloni’r oriau dysgu dan arweiniad ar gyfer y cymhwyster.
Graddfa ‘pasio’ sy’n cael ei hasesu yn erbyn canlyniadau dysgu penodol.

Mae’n ofynnol i ddysgwyr gwblhau adolygiadau dysgu wythnosol ac adborth gan gymheiriaid, yn ogystal ag ymgysylltu â thrafodaethau yn y dosbarth a sesiynau ymarfer sgiliau. Bydd yr holl waith a gwblheir drwy gydol y cwrs yn ffurfio portffolio terfynol o dystiolaeth.

Mae’r cwrs hwn hefyd yn seiliedig ar werthoedd, ac mae cymhwysedd yn ymwneud â gwerthoedd a ddangosir yn unol â meini prawf, yn ogystal â gwaith academaidd.

Gall y cwrs hwn ddarparu sgiliau ychwanegol i’r rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth a gall arwain at ragor o gyfleoedd i hyrwyddo a datblygu.

Efallai y cewch gyfle I barhau â gyrfa mewn cwnsela drwy symud ymlaen I Dystysgrif Lefel 2.

£200.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

SIOE ADDYSG UWCH A GYRFAOEDD GOGLEDD CYMRU
17/10/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Mae Amser Dal I Fod I Wneud Cais Ar Gyfer Mis Medi!