Tystysgrif Sylfaen Lefel 3 CIPD mewn Arferion Pobl

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA14278
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, Dylid cwblhau’r dysgu o fewn 12 mis. (34 wythnos fel arfer). Ffoniwch Goleg Cambria ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk i gael dyddiadau’r cwrs.


Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
08 Sep 2026
Dyddiad gorffen
08 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

DARPARIAETH / CYMORTH TIWTOR:

Dyma raglen sy'n cael ei haddysgu, gydag amserlen i gael cymorth gan diwtor ar gyfer asesiadau. Mae'n cael ei chyflwyno'n rhan-amser rhwng 1pm a 5pm (4 awr) bob wythnos. Mae'r rhaglen yn cynnwys 4 uned graidd orfodol:

* Busnes, Diwylliant a Newid Mewn Cyd-destun
* Egwyddorion Dadansoddi Data
* Ymddygiadau Craidd i Weithwyr Proffesiynol Pobl.
* Hanfodion Arferion Pobl

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd aelodau’r cwrs yn gymwys ar gyfer Aelodaeth Sylfaen y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (Dynodiad: CIPD Sylfaen)

Mae’r cymhwyster hwn yn cyflwyno aelodau’r cwrs i ystod eang o wybodaeth berthnasol ac arbenigedd mewn arferion pobl. Mae lleoedd ar y cwrs yn cael eu cymeradwyo yn dilyn trafodaeth anffurfiol gydag arweinydd y rhaglen.
Mae’r cwrs hwn yn addas i’r rhai hynny sydd:

* yn astudio, yn dyheu am neu’n cychwyn ar yrfa mewn Arferion Pobl.
* eisoes yn gweithio mewn rôl cefnogi Arferion Pobl ac eisiau datblygu gwybodaeth ehangach o’r maes er mwyn darparu gwerth uniongyrchol, tymor byr ar gyfer eu sefydliad.
* eisiau datblygu’r wybodaeth arbenigol, sgiliau a dealltwriaeth sydd eu hangen i fod yn weithwyr proffesiynol pobl.
* yn berchnogion neu reolwyr busnesau bach.
Nid oes unrhyw arholiadau.

Caiff pob uned ei hasesu trwy amrywiaeth o dasgau asesu a allai gynnwys aseiniadau, astudiaethau achos, dadansoddi ystadegau neu weithgareddau ymarferol. Bydd disgwyl i aelodau’r cwrs asesu eu datblygiad eu hunain a chynnal Cofnod DPP/Cofnod Dysgu a gaiff ei gyflwyno a’i adolygu.



Mae’r cymhwyster yn hwyluso datblygiad gyrfa er mwyn symud ymlaen i rôl gweithiwr broffesiynol pobl. Bydd yn arwain at gymwysterau ychwanegol sydd wedi’u cymeradwyo gan QCF yn y gweithle fel cymhwyster Diploma Cyswllt CIPD mewn naill ai Rheoli Pobl neu Ddysgu a Datblygu Sefydliadol neu gymwysterau eraill sydd wedi’u cymeradwyo gan QCF yn y gweithle.



£2100.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost