Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Addysg a Hyfforddi (QCF)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA14712
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, 12 weeks, delivered between 9am and 1pm at the college’s Wrexham site on Parc y Gelli Road (LL12 7AB)

Ffoniwch Goleg Cambria ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at jeanette.edwards@cambria.ac.uk i gael dyddiadau’r cwrs.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli, Addysgu, Asesu ac Addysg
Dyddiad Dechrau
15 Jan 2027
Dyddiad gorffen
23 Apr 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant yn gyflwyniad i addysgu a fydd yn rhoi cipolwg ar swyddi, cyfrifoldebau a pherthnasau mewn addysg a hyfforddiant. Yn ogystal â hyn bydd yn rhoi gwybodaeth ar sut i gynllunio a chyflwyno sesiynau addysgu cynhwysol, a sut i asesu a rhoi adborth adeiladol.

Mae’r cymhwyster hwn yn gallu eich helpu chi i symud ymlaen i swyddi hyfforddi mewn ystod eang o sefydliadau yn y sector dysgu gydol oes.

(Uned 301) Deall swyddi, cyfrifoldebau a pherthnasau mewn addysg a hyfforddiant

Galluogi’r dysgwr i ddeall swydd a chyfrifoldebau athro a’r berthynas rhwng gwahanol weithwyr proffesiynol ym meysydd addysg a hyfforddiant.
Mae’n cynnwys cyfrifoldeb dros gynnal amgylchedd diogel a chefnogol. [3 chredyd]


(Uned 302) Deall a defnyddio dulliau cynhwysol addysgu a dysgu mewn addysg a hyfforddiant

Galluogi’r dysgwr i ddeall a defnyddio dulliau cynhwysol addysgu a dysgu. Mae’n cynnwys sut i greu amgylchedd dysgu sy’n ennyn diddordeb myfyrwyr ac yn eu cymell, a gallu cynllunio, cyflwyno a gwerthuso dulliau ac ymagweddau sy’n cael eu defnyddio. [6 chredyd]


(Uned 305) Deall asesu mewn addysg a hyfforddiant

Galluogi’r dysgwyr i ddeall sut mae gwahanol fathau a dulliau asesu yn cael eu defnyddio. Mae’n cynnwys modd o gynnwys dysgwyr wrth asesu a’r gofynion cadw cofnodion yn effeithiol. Mae’n cynnwys sesiwn ymarferol micro-addysgu 30 munud o hyd i gymheiriaid am bwnc a ddewisir o arbenigedd pwnc eich hun. [3 chredyd]



Er mwyn ennill y Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant yn llawn, mae’n rhaid i ddysgwyr ennill 12 credyd.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad i’r rhaglen, er y bydd angen i bob dysgwr gwblhau asesiadau ar-lein Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) mewn llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol.

Mae’n bosib dilyn elfennau o’r cwrs o bell drwy ddolenni Google Meet, ond rhaid mynd i sesiynau penodol wyneb yn wyneb e.e. y micro-addysgu unigol.
Bydd dysgwyr yn llunio Portffolio Tystiolaeth a fydd yn cynnwys 3 aseiniad ysgrifenedig (ar gyfer unedau 301, 302 a 305) ac aseiniad ymarferol, h.y. sesiwn micro-addysgu 20 munud o hyd i gymheiriaid (uned 302).
Mae’r cymhwyster hwn yn gallu eich helpu chi i symud ymlaen i swyddi addysgu/hyfforddi mewn ystod eang o sefydliadau yn y sector dysgu gydol oes. Mae’r rhain yn cynnwys sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r sector preifat.
£570.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Chneifio Llysfasi a Diwrnod Agored
06/06/2026
Dewch i ymuno â ni ar ein safle Llysfasi ddydd Sadwrn 6 Mehefin ar gyfer ein diwrnod agored!

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost