Dyfarniad Lefel 2 ILM mewn Sgiliau Mentora Effeithiol

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA15152
Lleoliad
Online
Hyd
Rhan Amser, Rhan-Amser – Tua 4 mis – 4 sesiwn (9 – 1pm) wedi’u rhannu dros gyfnod o 4 mis.

Caiff y cwrs ei gynnal ar-lein (Gwnewch yn siŵr bod gennych chi’r offer angenrheidiol i ddefnyddio Google Meet a Google Classroom)

Bydd angen amser ar ymgeiswyr hefyd i weithio ar eu tasgau asesu y tu allan i’r sesiynau hyfforddi.

Adran
Busnes, Arwain a Rheoli, Addysgu, Asesu ac Addysg, Hyfforddi a Mentora
Dyddiad Dechrau
06 Nov 2026
Dyddiad gorffen
27 Jan 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Dyma gymhwyster ar gyfer y rhai hynny sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau er mwyn deall ac ymgymryd â mentora effeithiol mewn nifer o sefyllfaoedd gwahanol. Mae'r cymhwyster hwn yn cynnig cyfle i ddod i ddeall swyddogaeth a natur mentora, sut i ddefnyddio sgiliau mentora i adfyfyrio ar eich perfformiad eich hun a dysgu technegau gwrando a holi allweddol. Bydd dysgwyr yn deall sut i drefnu gweithgareddau mentora a chynllunio ar gyfer sesiynau mentora effeithiol. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys adfyfyrio ar eich perfformiad eich hun a diffinio nodau, cynnydd a gweithredoedd. Bydd hyn hefyd yn galluogi dysgwyr i ennill sgiliau a gwybodaeth er mwyn datblygu arferion mentora effeithiol yn unol â'u swyddi a'u cyfrifoldebau sefydliadol eu hunain, gan ddatblygu diwylliant mentora trwy gyflwyno sgiliau a thechnegau mentora allweddol.
Mae’n rhaid i ganolfannau sicrhau bod dysgwyr mewn sefyllfa i fodloni gofynion y cymhwyster.

Cysylltwch â Jeanette Edwards i drafod y rhaglen nesaf a fydd yn cael ei chynnal sut i wneud cais trwy’r cyferiaid e-bost: jeanette.edwards@cambria.ac.uk
Aseiniad ysgrifenedig a’r dysgwyr i ganfod rhywun addas i’w fentora yn y gweithle i gasglu eu tystiolaeth ymarferol a fydd yn cynnwys llunio cofnodion o’r gweithgaredd mentora, e.e. contract/contractau, dogfennau cynllunio, arsylwi’n uniongyrchol ar berfformiad y dysgwr gan eu tiwtor, holi ar lafar neu’n ysgrifenedig, datganiadau personol, adborth gan y sawl sy’n cael ei fentora, goruchwyliaeth wedi’i gofnodi.
Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfleoedd i symud ymlaen i ennill cymwysterau eraill fel:
Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Annog Effeithiol
Tystysgrif ILM Lefel 3 mewn Annog a Mentora Effeithiol
Tystysgrif Lefel 5 ILM mewn Annog a Mentora Effeithiol
£500.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Chneifio Llysfasi a Diwrnod Agored
06/06/2026
Dewch i ymuno â ni ar ein safle Llysfasi ddydd Sadwrn 6 Mehefin ar gyfer ein diwrnod agored!

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost