Tystysgrif Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA15125
Lleoliad
Online/Northop
Hyd
Rhan Amser, uchafswm hyd y rhaglen o 12 mis.

8 sesiwn a addysgir wedi’u rhannu dros gyfnod o 6 mis, tiwtorial/goruchwylio unigol a sesiynau hyfforddi/mentora ymarferol.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli, Hyfforddi a Mentora
Dyddiad Dechrau
17 Sep 2026
Dyddiad gorffen
11 Mar 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer rheolwyr a'r rhai sydd â chyfrifoldeb am hyfforddi a mentora effeithiol fel rhan o'u rôl o fewn cyd-destun sefydliadol. Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sy’n dymuno symud i swydd ddatblygu neu ddechrau gyrfa fel anogwr neu fentor llawrydd.

Buddion i unigolion

*Gallu asesu eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch ymddygiadau eich hun fel anogwr a mentor
*Gwybod sut i reoli’r broses annog neu fentora mewn cyd-destun sefydliadol
*Gwella eich dealltwriaeth o sut mae’r cyd-destun sefydliadol yn gallu effeithio ar annog neu fentora
*Cynllunio, darparu a gwerthuso eich gwaith annog a mentora
*Cynllunio eich datblygiad yn y dyfodol ym maes annog neu fentora

Buddion ar gyfer cyflogwyr

Sicrhau bod gan yr unigolion rydych chi’n datblygu fel anogwyr a mentoriaid effeithiol y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnyn nhw
Datblygu diwylliant annog a mentora fel bod unigolion yn gallu gwella eu perfformiad a’u cynhyrchedd sefydliadol
Mae’n rhaid i ganolfannau sicrhau bod dysgwyr mewn sefyllfa i fodloni gofynion y cymhwyster.
Aseiniad ysgrifenedig a bydd angen i ddysgwyr nodi pobl addas i’w hyfforddi/mentora a gweithio gyda nhw i gasglu eu tystiolaeth ymarferol (cyfanswm o 18 awr o hyfforddi neu fentora).

Bydd hyn yn cynnwys cynhyrchu cofnodion o’r gweithgaredd hyfforddi/mentora e.e. contract(au), dogfennau cynllunio, arsylwi perfformiad y dysgwr yn uniongyrchol gan eu tiwtor, cwestiynau llafar neu ysgrifenedig, datganiadau personol, adborth gan y rhai sy’n cael eu hyfforddi/mentora, a goruchwyliaeth.
Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfleoedd i symud ymlaen i ennill cymwysterau eraill fel:
Dyfarniad, Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli
Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 7 ILM ar gyfer Anogwyr a Mentoriaid Gweithredol ac Uwch
Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 7 ILM ar gyfer Goruchwylwyr Annog
Dyfarniad, Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 7 ILM mewn Arwain a Rheoli
£1750.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost