Iaith Saesneg - Safon Uwch

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA01148
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Aug 2027
Dyddiad gorffen
31 Jul 2028

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod i archwilio byd diddorol iaith? Bydd y cwrs Safon Uwch hwn yn gwella eich dealltwriaeth o sut mae iaith yn gweithio ac yn cynyddu eich gwybodaeth am wahanol agweddau ar astudio ieithoedd. Byddwch chi’n datblygu eich ymwybyddiaeth o systemau iaith allweddol ac yn dysgu cymhwyso'r wybodaeth hon i ddadansoddi ystod eang o destunau llafar ac ysgrifenedig, o wahanol gyfnodau mewn amser. Yn ogystal â hyn, byddwch chi'n gwella eich sgiliau ysgrifennu, gan ddysgu sut i deilwra'ch iaith yn effeithiol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd, dibenion a genres.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu;
Uwch Gyfrannol (Blwyddyn 1)
* Uned 1: Archwilio Iaith (Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud)
Adran A: Dadansoddi iaith
Adran B: Saesneg Cyfoes

* Uned 2: Materion Iaith ac Ysgrifennu Gwreiddiol (Arholiad ysgrifenedig: 2 awr)
Un cwestiwn mewn tair rhan: un traethawd ar fater iaith ac un dasg ysgrifennu wreiddiol, yn ogystal â sylwebaeth sy'n gysylltiedig â'r mater iaith a ddewiswyd
Safon Uwch (Blwyddyn 2)

* Uned 3: Iaith dros Amser (Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud)
Un cwestiwn amlran ac un cwestiwn traethawd yn dadansoddi newid mewn iaith dros amser.

* Uned 4: Testunau Llafar ac Ail-gastio Creadigol (Arholiad Ysgrifenedig: 2 awr)
Adran A: Dadansoddi iaith lafar
Adran B: Ail-gastio creadigol

* Uned 5: Iaith a Hunaniaeth (Asesiad di-arholiad: 2500-3500 o eiriau)
Gwaith ymchwil yn seiliedig ar un o'r canlynol: iaith a hunan-gynrychiolaeth, iaith a rhywedd, iaith a diwylliant, neu amrywiaeth iaith
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg.

Nodyn: Ni allwch chi astudio’r cwrs hwn gydag Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Cyfun UG/Safon Uwch.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Mae ffug arholiad bob blwyddyn ac mae aseiniadau rheolaidd yn cael eu gosod i olrhain eich cynnydd.
Mae Saesneg Iaith yn bwnc amlbwrpas, sy’n darparu paratoad rhagorol ar gyfer ystod eang o gyrsiau prifysgol a gyrfaoedd. Mae’r sgiliau y byddwch chi’n eu meithrin, fel dadansoddi beirniadol a chyfathrebu effeithiol, yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr. Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol os ydych chi’n bwriadu dilyn gyrfaoedd mewn meysydd fel newyddiaduraeth, y cyfryngau, y gyfraith neu addysgu. Mae canolbwyntio ar fframweithiau iaith hefyd yn ei wneud yn ddefnyddiol iawn i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio therapi lleferydd. Mae graddedigion Saesneg yn cael eu parchu am eu sgiliau dadansoddi a chyfathrebu, gan agor drysau i swyddi amrywiol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Mae eich dyfodol yn dechrau yma!

Ceisiadau ar agor mewn...

Days
Hours
Minutes
Seconds