Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00941
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser, wedi ei gyflwyno dros 3 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys cymysgedd o wersi yn yr ystafell ddosbarth a thu allan.
Adran
Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2027
Dyddiad gorffen
16 Jun 2028

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n ymadawr ysgol sydd angen llwybr cefnogol i addysg bellach neu'r gweithle? Nod Camu at Cambria yw eich helpu i feithrin hyder, datblygu sgiliau newydd ac i ddarganfod eich cryfderau mewn amgylchedd coleg croesawgar.

Dyma’r cwrs i chi:
*Os nad ydych wedi mynychu ysgol prif ffrwd neu wedi cael eich addysgu gartref.
*Os ydych angen cyflwyniad cymedrol at fywyd coleg.
*Os na wnaethoch chi sefyll arholiadau neu gyda graddau TGAU isel iawn.
*Rydych chi angen cymorth gyda Mathemateg a Saesneg.
*Rydych chi’n cael trafferth gyda gorbryder ac iechyd meddwl.
*Os wnaethoch chi fethu llawer o’ch addysg.
*Os ydych yn gweld ystafelloedd dosbarth prysur yn heriol.
*Os ydych eisiau rhoi hwb i’ch hyder a hunan-barch.
*Os ydych yn ansicr am eich llwybr gyrfaol ar gyfer y dyfodol.

Yr Hyn Fyddwch Chi'n Ei Ennill
Mae Camu at Cambria yn gyfle i chi oresgyn rhwystrau dysgu a pharatoi ar gyfer eich camau nesaf, boed hynny'n symud ymlaen at gwrs lefel uwch, rhaglen Twf Swyddi Cymru+ neu ddechrau cyflogaeth. Byddwch chi'n datblygu sgiliau hanfodol fel hyder, cyfathrebu a gwaith tîm trwy weithgareddau diddorol y tu mewn a thu allan i'r ystafell ddosbarth. Yn eich tymor olaf, byddwch yn archwilio gwahanol feysydd galwedigaethol trwy sesiynau blasu â chymorth a fydd yn eich helpu i benderfynu beth sydd o ddiddordeb gwirioneddol i chi.

Datgloi Eich Potensial gyda'r Manteision hyn:
*Ystafelloedd dosbarth pwrpasol ar gyfer amgylchedd dysgu â ffocws iddo.
*Cymorth dysgu ym mhob sesiwn i'ch helpu i lwyddo.
*Tiwtoriaid profiadol a fydd yn eich helpu ac yn gefn i chi.
*Cyfnod pontio esmwyth i fywyd coleg gydag arweiniad.
*Cymorth personol gan Anogwr Bugeiliol trwy gydol eich siwrnai.
*Mynediad at ein canolfannau Anghenion Dysgu Ychwanegol a Llesiant ar gyfer yr holl gymorth sydd ei angen arnoch.
*Tiwtoriaid Mathemateg a Saesneg i wella eich sgiliau sylfaenol.
*Cwricwlwm wedi’i siapio gan eich cyfraniad - byddwch yn helpu i benderfynu ar rai o’r unedau y byddwch yn eu dilyn!
*Cymwysterau cydnabyddedig a fydd yn eich helpu chi i lwyddo a symud ymlaen.

Eich Cymwysterau
Byddwch yn gweithio i ennill cymwysterau gwerthfawr gan gynnwys:
*Gwobr Dug Caeredin
*Diploma Lefel Mynediad 3 OCR mewn Sgiliau Bywyd a Byw
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Bydd pob dysgwr yn cwblhau’r asesiadau diagnostig WEST ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Asesu trwy dasgau a gwblheir trwy gydol y flwyddyn ac felly nid oes unrhyw arholiadau ffurfiol.
Mae’r cwrs pontio hwn yn eich helpu i ganolbwyntio ar eich camau nesaf. Yn ystod y tymor diwethaf byddwch yn cael y cyfle i flasu sawl maes galwedigaethol gwahanol er mwyn eich helpu i benderfynu ar eich llwybr o ddewis. Bydd dilyniant yn cynnwys naill ai cwrs galwedigaethol lefel uwch, rhaglen Twf Swyddi Cymru+ neu gyflogaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Mae eich dyfodol yn dechrau yma!

Ceisiadau ar agor mewn...

Days
Hours
Minutes
Seconds