Diploma Estynedig Technegol Uwch lefel 3 mewn Rheolaeth Anifeiliaid

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00313
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd llawn amser.
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2027
Dyddiad gorffen
16 Jun 2028

Trosolwg o’r Cwrs

Mae ein Diploma Estynedig Technegol Uwch mewn Rheoli Anifeiliaid wedi'i gynllunio i roi dealltwriaeth fanwl i chi o'r diwydiant anifeiliaid, gan roi’r sgiliau uwch, y wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo. Bydd y cwrs llawn amser dwy flynedd hwn yn eich trochi ym myd gofal anifeiliaid, gan eich paratoi ar gyfer cyfleoedd cyffrous mewn sector sy'n tyfu.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu

Byddwch yn ennill sgiliau ymarferol amhrisiadwy a dealltwriaeth gynhwysfawr o reoli anifeiliaid, gan weithio gydag ystod amrywiol o dros gant o rywogaethau yn ein Canolfan Gofal Anifeiliaid ragorol. Mae hyn yn cynnwys popeth o farmosetiaid a tsintsilas i amrywiol ymlusgiaid, pysgod, adar, amffibiaid, infertebratau ac anifeiliaid fferm.

Dyma gipolwg ar yr hyn y byddwch chi'n ei astudio:

- Iechyd Anifeiliaid: Archwilio llety anifeiliaid, bwydo, iechyd a chlefydau
- Trin anifeiliaid: Ymarfer sut i drin ac atal anifeiliaid gwahanol
- Ymddygiad a Lles anifeiliaid: Deall ymddygiad anifeiliaid, cyfathrebu, sicrhau safonau lles gorau posibl a hyfforddiant effeithiol
- Y wyddoniaeth y tu ôl i ofal anifeiliaid: Ymchwilio i fioleg, anatomeg, ffisioleg, geneteg, maeth a bridio
- Bywyd gwyllt ac ecoleg: Dysgu am fywyd gwyllt, adsefydlu, ecoleg a chadwraeth
- Canolbwyntio ar sŵau ac anifeiliaid egsotig: Yn eich ail flwyddyn, byddwch chi’n canolbwyntio ar reoli casgliadau sŵolegol, gyda meysydd ffocws
penodol ar rywogaethau dyfrol, adar a rhywogaethau egsotig.
- Datblygiad Proffesiynol: Datblygu sgiliau hanfodol mewn rheoli busnes, gofal cwsmeriaid, marchnata manwerthu a sgiliau ystadau

Byddwch chi'n dysgu trwy amrywiaeth o ddulliau deniadol, gan gynnwys darlithoedd, gwaith unigol a grŵp, a hanner diwrnod yr wythnos o brofiad ymarferol. Rydym hefyd yn integreiddio technoleg ddysgu fodern i wneud eich profiad mor hwyl ac effeithiol â phosibl.

Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan hanfodol o'r rhaglen hon. Byddwn ni’n gweithio gyda chi i wella eich sgiliau llythrennedd a rhifedd, a darparu cyfleoedd i ailsefyll arholiadau TGAU os oes angen. Byddwch hefyd yn cyflawni cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru. Mae'r cwrs hwn yn cyfateb i astudio 3 neu 4 cymhwyster Safon Uwch, yn dibynnu ar eich llwybr dewisol
Gwneud cais o ysgol yng Nghymru: 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys:
Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Iaith a Llenyddiaeth Cymraeg (Iaith Gyntaf) (Dyfarniad Unigol neu Ddwbl) A
Mathemateg a Rhifedd (Dyfarniad Dwbl) A/NEU
Gwyddoniaeth

Gwneud cais o ysgol yn Lloegr: 5 TGAU gradd 4 neu uwch, gan gynnwys:
Iaith Saesneg A
Mathemateg, neu Sgiliau Mathemateg Ymarferol ar Lefel 2 A/NEU
Gwyddoniaeth

Mae angen yr holl bethau uchod i ymuno â llwybr 1080, ond derbynnir Mathemateg neu Wyddoniaeth ar gyfer llwybr 720.

Dysgwyr sy’n Symud Ymlaen:
Dysgwyr sy’n Symud Ymlaen (yn y coleg yn barod): Cwblhau rhaglen berthnasol Lefel 2 yn llwyddiannus, ynghyd â chymwysterau priodol mewn Cyfathrebu a Rhifedd, neu gymwysterau TGAU cyfwerth.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu drwy arholiad ac aseiniad synoptig ym mhob blwyddyn, ynghyd ag asesiadau dan reolaeth a phrofion eraill, gyda chefnogaeth ar hyd y ffordd ar ffurf ymarfer a ffug arholiadau.

Byddwch chi’n gwneud lleoliad profiad gwaith allanol yn y diwydiant anifeiliaid yn ystod eich blwyddyn gyntaf i’ch helpu i ddysgu’n effeithiol a rhoi eich sgiliau ar waith mewn lleoliad go iawn.

I symud ymlaen i’r ail flwyddyn, bydd angen i chi gwblhau blwyddyn un yn llwyddiannus.
Mae’r cwrs hwn yn agor drysau i ystod eang o lwybrau gyrfa cyffrous yn y diwydiant gofal anifeiliaid a thu hwnt:

*Mynd ymlaen i Brifysgol: Mae llawer o’n dysgwyr yn mynd ymlaen i astudio pynciau fel sŵoleg, bioleg cadwraeth, nyrsio milfeddygol, neu les ac ymddygiad anifeiliaid yn y brifysgol. Gallech barhau â’ch astudiaethau yng Ngholeg Cambria Llaneurgain drwy ddilyn Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn Rheolaeth Anifeiliaid. Cofiwch, bydd angen i chi ennill y pwyntiau UCAS gofynnol ar gyfer eich cwrs dewisol. (Sylwch: er ei fod yn werthfawr, nid ydy’r cwrs hwn yn llwybr uniongyrchol i wyddoniaeth filfeddygol yn gyffredinol.)

*Symud ymlaen i Brentisiaeth yn y Gwaith mewn Gofal Anifeiliaid.

*Cyflogaeth: gallech ddod o hyd i waith mewn amrywiaeth o rolau gan gynnwys sŵau, cadwraeth bywyd gwyllt, practisau llawfeddygaeth filfeddygol, canolfannau achub anifeiliaid, siopau anifeiliaid anwes, addysg a hyfforddiant neu sefydliadau lles anifeiliaid.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Mae eich dyfodol yn dechrau yma!

Ceisiadau ar agor mewn...

Days
Hours
Minutes
Seconds