Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP00314 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs dwy flynedd llawn amser |
Adran | Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2027 |
Dyddiad gorffen | 16 Jun 2028 |
Trosolwg o’r Cwrs
Byddwch yn meithrin eich sgiliau i'ch paratoi ar gyfer gwaith neu ar gyfer astudiaethau pellach mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Byddwch yn astudio pynciau fel cydraddoldeb ac amrywiaeth, sgiliau cyfathrebu, anatomeg a ffisioleg, seicoleg gymdeithasol, a datblygiad rhychwant oes. Mae'r cymhwyster llawn yn gyfwerth â 3 phwnc Safon Uwch.
Byddwch hefyd yn astudio Bagloriaeth Cymru Uwch. Fel rhan o'r cwrs byddwch yn mynychu lleoliad gwaith i roi sgiliau a phrofiad ymarferol i chi.
Byddwch hefyd yn astudio Bagloriaeth Cymru Uwch. Fel rhan o'r cwrs byddwch yn mynychu lleoliad gwaith i roi sgiliau a phrofiad ymarferol i chi.
Byddwch yn ennill y cymhwyster drwy gyflawni gwaith cwrs wedi’i asesu’n fewnol. Bydd hyn yn cynnwys tasgau megis aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau neu gyflwyniadau.
Bydd myfyrwyr yn gallu mynd ymlaen yn uniongyrchol i gael eu cyflogi mewn nifer o swyddi gwahanol, gan gynnwys HCA, cymhorthydd ffisiotherapi, gweithiwr prosiect, technegydd ambiwlans, ac ati. Gallant hefyd fynd ymlaen i addysg uwch a chwrs gradd i barhau gyda’u hastudiaethau mewn meysydd fel gwaith cymdeithasol, dysgu, hyrwyddo iechyd, seicoleg, ffisiotherapi, therapi galwedigaethol, bydwreigiaeth, nyrsio a radiograffeg.
Efallai bydd angen prynu offer / gwisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Bydd rhaid i fyfyrwyr sy’n cofrestru ar y cwrs hwn wneud cais am ddatgeliad DBS. Byddant yn codi tâl fel y pennwyd ganddynt, am hyn.
Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Bydd rhaid i fyfyrwyr sy’n cofrestru ar y cwrs hwn wneud cais am ddatgeliad DBS. Byddant yn codi tâl fel y pennwyd ganddynt, am hyn.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026