Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP87952
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser i ddechrau, gydag estyniad i’r ail flwyddyn ar gyfer y Diploma Estynedig.
Adran
Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2027
Dyddiad gorffen
16 Jun 2028

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'ch arfogi â'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth hanfodol sy'n angenrheidiol ar gyfer gyrfa Gwasanaeth mewn Lifrai o’ch dewis. Mae’n cynnwys sefydliadau fel yr Heddlu, y Gwasanaeth Carchardai, yr Asiantaeth Ffiniau, y Gwasanaeth Tân ac Achub a'r Lluoedd Arfog (Byddin Prydain, yr Awyrlu Brenhinol, y Llynges Frenhinol). Mae hefyd yn darparu sylfaen ar gyfer astudiaethau prifysgol bellach mewn meysydd cysylltiedig.

Byddwch yn edrych ar amrywiaeth o bynciau damcaniaethol ac ymarferol gorfodol yn cynnwys:

* Paratoi ar gyfer gyrfa Gwasanaeth mewn Lifrai o’ch dewis
* Datblygu agweddau o Ffitrwydd Corfforol
* Meithrin Sgiliau Arwain
* Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Mae unedau y gallwch ddewis ohonynt yn cynnwys:

* Darllen Mapiau a Chyfeiriannu ar draws Tir Agored
* Sgiliau ar gyfer Gweithgareddau Awyr Agored ac Antur ar y Tir
* Sgiliau ar gyfer Gweithgareddau Awyr Agored ac Antur yn y Dŵr
* Gweithgareddau Awyr Agored ac Antur
* Deall Disgyblaeth yn y Gwasanaethau mewn Lifrai.

Yn ogystal â'ch astudiaethau craidd byddwch yn gweithio at eich Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar lefel uwch sy'n cynnwys ymgymryd â Phrosiect Cymuned Fyd-eang a Phrosiect Cyrchfannau'r Dyfodol. Hefyd bydd disgwyl iddynt wirfoddoli ar gyfer ymgysylltu â'r gymuned yn ogystal â gwneud gweithgareddau preswyl a phrofiad gwaith. Trwy gydol y cwrs bydd ffocws parhaus ar wella sgiliau llythrennedd a rhifedd.

Os byddwch yn gwneud cais o ysgol yng Nghymru: 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys:
Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Iaith a Llenyddiaeth Cymraeg (Iaith Gyntaf) (Gwobr Sengl neu Ddwbl).
A
Mathemateg a Rhifedd (Dyfarniad Dwbl).

Os byddwch yn gwneud cais o ysgol yn Lloegr: 5 TGAU gradd 4 neu uwch, gan gynnwys:
TGAU Iaith Saesneg
A
TGAU Mathemateg, neu Lefel 2 mewn Sgiliau Swyddogaethol Mathemateg.

Dysgwyr sy’n Symud Ymlaen:
Dysgwyr sy’n Symud Ymlaen (sydd yn y Coleg yn barod): Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus, y ogystal â chymwysterau priodol mewn Cyfathrebu a Rhifedd, neu gymhwyster TGAU cyfwerth.

Mae diddordeb brwd mewn cymryd rhan mewn chwaraeon, hyfforddi neu ddyfarnu yn ofyniad gorfodol i bob ymgeisydd.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau TGAU. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Byddwn asesu eich cynnydd yn barhaus trwy ddefnyddio ystod o ddulliau gan gynnwys arsylwadau, aseiniadau ysgrifenedig, trafodaethau proffesiynol, cyflwyniadau llafar, gweithgareddau ymarferol ac ymarferion datblygu sgiliau eraill. Y lefelau cyflawniad yw Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth.

Fel rhan o’r rhaglen byddwch yn elwa o ymweliadau â gwahanol sefydliadau gwasanaeth mewn lifrai (yn amodol ar argaeledd) ac yn derbyn ymweliadau gan asiantaethau gwirfoddol a sefydliadau perthnasol. Bydd personél o amrywiaeth eang o Wasanaethau mewn Lifrai yn ymweld â ni hefyd gan gynnwys yr Heddlu a’r Gwasanaethau Arfog.

Mae’r cwrs hwn yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer symud ymlaen at brentisiaethau o fewn yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân ac Achub, neu’r Lluoedd Arfog yn ogystal ag Addysg Uwch.

Mae cyn fyfyrwyr wedi astudio pynciau amrywiol yn y brifysgol fel Cyfiawnder Troseddol, Astudiaethau Plismona, Chwaraeon, Seicoleg, Cymdeithaseg, Troseddeg neu HND mewn Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’r diploma hwn yn arbennig o fuddiol i unigolion sy’n gobeithio dilyn gyrfaoedd ym Myddin Prydain, yr Awyrlu Brenhinol, y Llynges Frenhinol, y Gwasanaeth Carchardai neu’r Asiantaeth Ffiniau.

Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu rhestr o offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Mae eich dyfodol yn dechrau yma!

Ceisiadau ar agor mewn...

Days
Hours
Minutes
Seconds