Diploma lefel 2 mewn Trin Gwallt

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01261
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
Adran
Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2027
Dyddiad gorffen
16 Jun 2028

Trosolwg o’r Cwrs

Dewch i ryddhau eich ochr greadigol!

Yn barod i gymryd eich cam cyntaf i’r byd trin gwallt? Bydd ein Diploma NVQ Lefel 2 mewn Trin Gwallt yn rhoi’r sgiliau i chi i ddod yn driniwr gwallt llwyddiannus yn y diwydiant deinamig a chyflym hwn. Byddwch chi'n cael profiad ymarferol gyda brandiau gwallt proffesiynol fel L'Oréal, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa werth chweil.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi sylfaen gadarn i chi ym mhob agwedd ar drin gwallt. Byddwch yn:

- Datblygu gwybodaeth hanfodol am anatomeg a ffisioleg sy'n berthnasol i drin gwallt.
- Deall gofynion iechyd, diogelwch a chyfreithiol hanfodol ar gyfer steilwyr gwallt.
- Meistroli celfyddyd ymgynghori â chleientiaid.
- Ennill sgiliau ymarferol mewn amrywiaeth o wasanaethau torri, lliwio a goleuo sylfaenol.
- Dysgu technegau gosod, gwisgo a sychu gwallt.
- Gwella eich sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid – sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr!
- Datblygu ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd amgylcheddol a sgiliau datrys problemau.

Ochr yn ochr ag astudiaeth ddamcaniaethol, bydd dysgwyr yn cael profiad ymarferol trwy sesiynau profiad gwaith rheolaidd yn ein salonau masnachol a gweithdai pwrpasol. Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio'n sylfaenol ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol. Ochr yn ochr â hynny, bydd dysgwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid, eu hymwybyddiaeth o gynaliadwyedd amgylcheddol a'u sgiliau masnachol, sydd i gyd yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr.

Mae'r cymhwyster Trin Gwallt Lefel 2 yn cynnwys y cydrannau cwrs gorfodol canlynol:

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau Cymraeg
● Datblygu sgiliau Llythrennedd a Rhifedd
● Mae’n rhaid i bob dysgwr gwblhau cyfnod mewn lleoliad gwaith.

Bydd eich tiwtor yn rhoi'r dyddiadau i chi yn ystod y sesiwn ymsefydlu.
Os byddwch yn gwneud cais o ysgol yng Nghymru: 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys: Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Iaith a Llenyddiaeth Cymraeg (Iaith Gyntaf) (Gwobr Sengl neu Ddwbl), A Mathemateg a Rhifedd (Dyfarniad Dwbl) a D Gwyddoniaeth.

Os byddwch yn gwneud cais o ysgol yn Lloegr: 4 TGAU gradd 3 neu uwch, gan gynnwys:Iaith Saesneg A Mathemateg.

NEU Gwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus y mae’n rhaid iddi gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.

Dysgwyr sy’n Symud Ymlaen (sydd yn y Coleg yn barod): Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus, yn ogystal â chymwysterau priodol mewn Cyfathrebu a Rhifedd, neu gymhwyster TGAU cyfwerth.

Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi chi i symud ymlaen at gwrs lefel uwch.
Asesir gwaith cwrs yn barhaus a gall dysgwyr ennill lefel cyrhaeddiad Llwyddo.
Arholiadau damcaniaeth, ymarferol ac allanol.

Ar ôl cwblhau’r NVQ hwn yn llwyddiannus, byddwch chi wedi’ch paratoi’n dda i symud ymlaen i’n cwrs Trin Gwallt Lefel 3 neu ddechrau ar Brentisiaeth Fodern mewn Trin Gwallt. Agorwch ddrysau i gyfleoedd newydd cyffrous yn y diwydiant creadigol!
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.




Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Mae eich dyfodol yn dechrau yma!

Ceisiadau ar agor mewn...

Days
Hours
Minutes
Seconds